Pryderi Gwyn Jones
Awst 1, 2024
Ganed Pryderi Gwyn Jones yn Aberystwyth, a chafodd ei fagu yn Llansannan, Dyffryn Clwyd, ac ym Mangor. Wedi cyfnod o deithio gwledydd Ewrop a De America symudodd i’r canolbarth. Mae’n athro ysgol ers blynyddoedd, yn hoff o siarad am bêl-droed ac yn mynd i focsio i Gorris Uchaf bob wythnos. Mae wedi ysgrifennu sawl llyfr i blant: Brenin y Trenyrs (2020), Kaiser y Trenyrs (2021) a Tywysog y Trenyrs (2021).
Mae ei nofel newydd Hei Fidel! yn un fabulist/ddamhegol sy’n ymwneud â hynt a helynt Jones, athro mewn ysgol uwchradd yn Sir Drefaldwyn sy’n tynnu at ei hanner cant.
Dywed Daniel Davies yn ei adolygiad: “Ar ddechrau’r nofel mae Jones yn poeni am ei wraig, ei blant a’i glawdd. Ond mae hefyd yn gweithredu dros ei genedl drwy ddulliau peintio yn unig mewn ymgais gynyddol ofer i ddal at egwyddorion y Jones ifanc.
“Mae hefyd yn cynnig sylwadau crafog a phwysig am gyflwr y genedl, cymdeithas a’i hunaniaeth am fod Jones yn teimlo popeth i’r byw. Yn araf mae pethau’n dechrau mynd yn ormod iddo wrth iddo ddechrau treulio amser mewn byd ffantasi yng nghwmni llu o gymeriadau o hanes a llenyddiaeth Cymru a rhai o’r tu hwnt (megis Fidel Castro, Bob Marley, Robert Oppenheimer ac ati gan gynnwys cameo cofiadwy gan John Morris-Jones.
“Mae’r fintai hon yn penderfynu gweithredu ar y cyd ac ar un lefel â’r nofel yn ei blaen ar ras wyllt wrth iddynt gynllwynio i ddial ar bobl a dinas Lerpwl am greu Llyn Celyn.
“Fodd bynnag, mae’r golygfeydd ffantasi ffraeth, doniol tu hwnt hyn yn cyferbynnu’n effeithiol gyda’r problemau cynyddol ym mywyd Jones, sy’n achosi i’w hunaniaeth ddadfeilio, nid yn annhebyg i gymeriadau fel Don Quixote, Billy Fisher, a Miloš Hrma, o’r un genre.
“Mae’r nofel wedi ei saernïo’n grefftus tu hwnt gan ddefnyddio gorffennol a phresennol Jones i fwydo’i freuddwydion a’i ffantasïau. Mae’n nofel gomic-ddifrifol o’r radd flaenaf: un sy’n cydbwyso ffars a dwyster yn gelfydd.
Daeth Hei Fidel! yn ail yng Ngwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ceredigion 2022. Yn ei feirniadaeth awgrymodd Emyr Llywelyn y gallai’r awdur fod ‘yn sicr yn un o’r sêr yn ffurfafen y nofel Gymraeg’.
Llongyfarchiadau Pryderi ar gyhoeddi Hei Fidel! gyda Gwasg Carreg Gwalch, a diolch am ateb rhai cwestiynau i Llyfrgelloedd Cymru!
Rho ychydig o dy gefndir inni…
Cefais fy ngeni yn Aberystwyth a fy magu ym mhentref Llansannan ac yn ninas Bangor. Bûm yn Ysgol Gynradd Bro Aled, yn Ysgol Uwchradd y Creuddyn ac ym mhrifysgol Cymru, Bangor. Crwydrais am gyfnod drwy wledydd dwyrain Ewrop a hefyd treuliais fisoedd yn crwydro drwy wledydd De America.
Pa ddylanwadau ac atgofion oedd yn sefyll allan yn dy blentyndod?
Mae caredigrwydd pobl Llansannan a’r ardal wedi aros efo fi. Hefyd, y croeso fydden ni’n gael wrth ymweld â’r teulu yn Sir Fôn ers talwm.
Fel person ifanc, pwy neu beth wnaeth ddylanwadu arnat?
The Fall Guy oedd hoff raglen deledu fy mhlentyndod. Dyna pam fy mod i dal isio bod yn stuntman yn Hollywood hyd heddiw. A chomic The Beano a Tiger. Wedyn cylchgrawn Shoot! Y Cyrff, Tynal Tywyll a Ffa Coffi Pawb oedd y bandiau poblogaidd i ni ers talwm. Fy arwyr oedd Ian Rush a Mark Hughes ac aeth fy nhad â fi ar drip Meirion Llefrith i’r Cae Ras yn Wrecsam lle sgoriodd Mark Hughes y gôl anhygoel honno yn erbyn Sbaen! Cofiaf ddarllen llyfr o’r enw Ffrindiau Tomi a gwirioni hefo fo – mae’r lluniau yn dal yn glir yn fy meddwl. Fe wnaeth Y Stafell Ddirgel, Marion Eames, argraff arna i a hefyd nofelau Daniel Owen ac Islwyn Ffowc Ellis. Rydw i hefyd yn cofio darllen One Day in the Life of Ivor Deniosvich yn y gwersi Saesneg ac Animal Farm wrth gwrs. Yn nes ymlaen, o ran llyfrau roeddwn wrth fy modd efo Dyddiadur Dyn Dŵad a hefyd llyfrau Twm Miall. Mwynheais hefyd lyfrau’r darlledwr Clive James.
O ran pobol, byddai fy nheulu wrth reswm wedi dylanwadu’n fawr arna i. Hoffter fy mam o lenyddiaeth a hynawsedd fy nhad efo pobol yn gyffredinol. Byddai athrawon hefyd wedi dylanwadau arnaf: Mr Selway yn yr ysgol gynradd, fy athrawon Cymraeg, Mr John Ffrancon Griffith a Mrs Beryl Jones yn Ysgol y Creuddyn, wedyn darlithwyr fel Yr Athro Gwyn Thomas a Dafydd Glyn Jones yn y coleg. Rydw i hefyd wedi edmygu’n fawr bobol wladgarol fel Gerallt Lloyd Owen, a beirdd eraill fel Twm Morys. Pobol greadigol eraill hefyd fel Meic Stevens.
Beth yw dy ddylanwadau nawr?
Yn Gymraeg, rwyf yn hoff o nofelau a straeon byrion Daniel Davies. Hefyd llyfrau Bethan Gwanas a Manon Steffan Ros. Rwyf ar ganol darllen llyfr Drws Anna gan Dafydd Apolloni ar y funud. Mae cyfrolau o farddoniaeth gen i hefyd, rhai Gerallt wrth gwrs a rhai gan feirdd mwy diweddar fel Gruffydd Owen. Yn Saesneg, rydw i wedi darllen nofelau Haruki Murakami i gyd ac ambell lyfr gan Matt Haig. Mae llyfrau Milan Kundera ar y silff ac awduron enwocaf gwledydd dwyrain Ewrop.
Pryd ddest ti’n ymwybodol dy fod eisiau sgwennu, oedd unrhyw ffactorau arbennig wedi cael effaith?
Wel, yng Nghymru mae yna gyfleoedd i ysgrifennu o hyd, yn does. Eisteddfodau, cystadlaethau a phapurau bro! Os cewch eich canmol fe gewch chi ryw hwb bach i ddal ati.
Dywed ychydig am Hei Fidel!, o ble ddaeth yr ysbrydoliaeth, a beth wyt ti’n gobeithio bydd darllenwyr yn gael o’r stori hon…
Mae’n debyg mai dysgu hanes boddi Capel Celyn ac arwyddocâd graffiti Cofiwch Dryweryn i ddigyblion yn yr ysgol sydd wrth wraidd Hei Fidel! Arweiniodd hynny wedyn at geisio deall yn union sut y gallai’r faith beth ddigwydd ac at dyrchu i’r hanes hwnnw. Canlyniad hynny oedd dod at y syniad o ddial ar Lerpwl am ei chamweddau, er gwaethaf ei hymddiheuriad flynyddoedd maith yn ddiweddarach.
Mae’n nofel bicaresg, sydd yn neidio nôl a mlaen rhwng gorffennol gwych Jones, y prif gymeriad, a’r presennol a all fod yn anodd iddo ar brydiau. Dyn teulu ydy Jones, gŵr a thad annwyl ac athro bach prysur. Mae’n gwneud ei orau i helpu ei wraig a’i blant ac i gadw at y drefn ond mae rhan ohono, wrth feddwl am Gymru, yn crefu am wrthryfela, am wneud aberth dros ei wlad fel mae ei holl arwyr wedi ei wneud o’i flaen.
Pan gaiff Jones chydig o lonydd oddi wrth ei gyfrifoldebau teuluol a’i holl waith ysgol, mae’n meithrin perthynas ryfeddol gyda mawrion y genedl, cymeriadau hollbwysig yn hanes a chwedloniaeth ein gwlad. Mae’r rhain yn gymeriadau mor amrywiol ag Aneirin a Thaliesin, Bendigeidfran a Cheridwen y wrach, Glyndwr a Gruffydd Young, Christmas Evans, Pantycelyn, Lewis yr Heliwr, Mari Fawr Trelech, Iolo Morganwg a llu o rai eraill. Daw Jones hefyd yn ffrindiau mawr â phobol fyd enwog ac mae’r rhain hefyd yn amrywio’n fawr, Fidel Castro a Che Guevara, Bob Marley, Einstein ac Oppenheimer.
Mae yna dri byd yn y nofel felly sef y gorffennol gwych, y presennol prysur a’r gwrthryfela arwrol. Dyma sy’n gyrru’r nofel yn ei blaen ar ras wyllt.
Dwi’n gobeithio y caiff y darllenwyr fwynhad o’r stori ac y bydd yn gwneud iddyn nhw feddwl am betha!
Beth yw dy hoff genres darllen, a pha lyfrau wyt yn darllen ar hyn o bryd?
Dwi’n mwynhau darllen pob math o wahanol genres. Nofelau hanesyddol, nofelau modernaidd ac ôl -fodernaidd. Rydw i’n mwynhau y dychymyg mewn nofelau fabula neu ddamhegol sydd yn mynd â phethau ychydig yn bellach os leciwch chi ac yn plygu peth ar realaeth. Mae hynny’n ddiddorol iawn i mi.
Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnot yn ystod dy fywyd?
Roedd dyfodiad y fan llyfrgell i’r ysgol gynradd bob wythnos yn hwyl garw i ni! Rydw i hefyd yn cofio mynd efo fy mam i’n llyfrgell agosaf yn Abergele. Cofiaf arogl y lle yn iawn! A fy mam yn ein siarsio ni i fod yn dawel! Roedd llyfrgell yr ysgol yn lle pwysig iawn wrth gwrs ac wedyn Llyfrgell Shankland yn y brifysgol…lle chwysais yn hwyr i’r nos… i orffen ryw draethodau tragwyddol! Mae ein Llyfrgell leol ym Machynlleth yn llyfrgell dda.
Pa awgrymiadau sydd gyda ti i annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?
Mae fy nhrwyn mewn rhyw lyfr neu’i gilydd efo’r plant yn yr ysgol o hyd. Rydw i yn mwynhau darllen nofel efo fy nosbarthiadau. Rydw i yn dweud wrthyn nhw fy mod i yn medru dweud yn syth pwy sydd yn darllen ar eu pennau eu hunain… achos bod pobl sydd yn darllen yn bobl ddiddorol. Wrth ddarllen fe gewch chi edrych drwy ffenestri eraill ar y byd.
Rho ddyfyniad sydd wrth wraidd dy fywyd di …
Cymru am byth!
Diolch Pryderi.
Cyhoeddwyd Hei Fidel! yng Ngorffennaf gan Gwasg Carreg Gwalch.
Lawrlwythwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur a dysgwch hefyd am ein Hawduron y Mis eraill yn ‘sgwennu’n y Gymraeg