Catrin Gerallt
Medi 9, 2024
Nofel antur a dirgelwch sy’n llawn hiwmor yw llyfr newydd Catrin Gerallt, Y Ferch ar y Cei, wedi’i lleoli yng Nghaerdydd. Mae Catrin yn enedigol o sir Benfro, ond wedi’i magu yng Nghaerdydd ac yn gyfarwydd iawn â rhychwant eang o fywyd a hiwmor y ddinas. Wedi astudio Ffrangeg yn y brifysgol, cafodd waith fel gohebydd yn BBC Cymru. Treuliodd ugain mlynedd fel Golygydd Cynorthwyol Materion Cyfoes, gan ennill gwobrau BT a BAFTA Cymru am ei rhaglenni ymchwiliadol. Mae hi’n ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan gyfrannu straeon i raglenni Radio Cymru a Radio 4.
Yn 2019, cafodd ei haddasiad Saesneg o nofel T. Llew Jones, Trysor y Môr-Ladron, enwebiad ar gyfer medal CILIP Carnegie. Yn fwy diweddar, cyfrannodd straeon byrion i’r gyfrol Gymraeg Clymau ac i’r casgliad Painting the Beauty Queens Orange, (Honno) llyfr y mis gan Waterstones yng Nghymru (2021). Mae Catrin yn ymddangos yn gyson ar radio a theledu fel colofnydd a sylwebydd ar y newyddion.
Yn Y Ferch ar y Cei, nofel gyntaf Catrin, ceir mewnwelediad i fywyd helbulus a hwyliog Bethan Morgan. Mae yma flas o fywyd y brifddinas, dipyn o ddychan a hefyd ymdrech i fynd i’r afael â materion tro-seddol y mae’n well gan rai sefydliadau eu cuddio o dan eu carpedi moethus …
Mae Bethan Morgan yn ohebydd ar raglen deledu materion cyfoes, yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. Er bod cynlluniau i ddatblygu ardal y Cei yn y ddinas yn amheus yn ei golwg, mae’i chynhyrchydd eisiau ongl wahanol ar y stori. Ond wrth ddod i adnabod rhai o drigolion yr ardal, mae Bethan yn cael ei thynnu’n ddyfnach i chwilio am y gwir ar ei liwt ei hun.
Yn ogystal â’r gwrthdaro yn y swyddfa, mae’n dipyn o gamp i Bethan jyglo holl beli ei bywyd teuluol: mab yn wynebu arholiadau, merch yn symud o un bwyty i’r llall a gŵr yng nghanol ei affêr ddiweddaraf. Nid yw pethau’n esmwythach iddi pan gaiff gynnig cysur gan Declan, rheolwr bwyty’r Cei …
Meddai Catrin Gerallt, wrth dderbyn copïau cyntaf y nofel yn ei llaw, ‘Profiad hynod gyffrous yw cyhoeddi fy nofel gyntaf. Fe ges i dipyn o hwyl yn sgrifennu am Bethan Morgan a’i hymdrech i dorri ei chwys ei hun ar waetha ei theulu anystywallt a’r gwleidyddion hunan-bwysig sy’n ei rhwystro. Dwi’n gobeithio ’mod i wedi dal rhywfaint o hiwmor a ffraethineb y Brifddinas, ac y bydd y darllenwyr yn mwynhau helyntion Bethan ynghanol y bwrlwm.’
Llongyfarchiadau Catrin, a diolch iti am ateb cwestiynau Llyfrgelloedd Cymru yn ddiweddar…
Rho ychydig o dy gefndir inni…
Ges i fy ngeni yn Sir Benfro ond symudodd fy rhieni i Gaerdydd pan o’n i’n dair oed. Fe ges i fagwraeth ddinesig ond ‘ro’n ni’n treulio pob gwyliau ar fferm Nain a Taid yn Nhreletert. Mae gen i atgofion melys iawn am redeg yn wyllt yn y caeau wrth ymyl y ty gyda fy nwy chaer a ‘nghefndrid. Roedd bywyd yng Nghaerdydd yn fwy cyfyng ond fe gawson ni brofiadau amrywiol iawn gan fod Dad yn bennaeth cerdd y Coleg Cerdd a Drama, a nifer o’i gyd-weithwyr yn dod o wledydd Ewropeaidd fel gwlad Pwyl, Hwngari a’r Almaen. Roedd Mam yn athrawes cynradd yn ysgol Kitchener Road, Glan yr Afon (Riverside) lle ‘roedd y plant o wahanol gefndiroedd ethnig. Er ein bod ni’n byw mewn ynys fach o Gymreictod, ro’n i’n ymwybodol o’r byd mawr tu allan hefyd.
‘Ro’n i wrth fy modd yn ysgol gynradd Bryntaf, oedd yn glos, gartrefol, fel ysgol bentre ond fe ges i fy nanfon i ysgol uwchradd Howell’s, ysgol i ferched oedd yn reit llym ar y pryd, ac ‘ro’n i’n hiraethu am fy ffrindiau a chymdeithas yr ysgol Gymraeg. Ar ôl hynny es i goleg St Anne’s, Rydychen, i astudio Ieithoedd Modern a chael modd i fyw. ‘Roedd criw da o Gymry yno ynghanol y 70au ac ‘roedd gen i ffrindiau bywiog iawn yn nhîm rygbi Coleg yr Iesu. Ges i brofiadau gwych, gan gynnwys cyfle i ganu dan arweinyddiaeth Leonard Bernstein a’r cyfansoddwr Michael Tippett, a hefyd y cyfle i deithio i Ffrainc, gwlad Belg a’r Swisdir. Ddes i nôl i Gaerdydd i wneud cwrs yn yr Ysgol Newyddiaduraeth a threulio cyfnod hapus yn gweithio ar y Sheffield Morning Telegraph cyn cael swydd fel newyddiadurwr yn BBC Cymru.
Pa ddylanwadau ac atgofion oedd yn sefyll allan yn dy blentyndod?
O ran magwraeth, ‘roedd fy rhieni yn ddylanwadol mewn gwahanol ffyrdd – Mam yn ferch ffarm ac yn berson ymarferol, di- lol tra bod Dad yn gerddor clasurol a’i ben yn y cymylau. Roedd Dad yn ddylanwad arbennig gan ei fod yn darllen yn eang a diddordeb mawr ganddo mewn athroniaeth a diwinyddiaeth ond ‘roedd e hefyd yn llawn hiwmor a direidi. Wedi ein magu ar aelwyd gerddorol, ro’n i a’m chwiorydd yn naturiol gerddorol – un uchafbwynt oedd ennill cystadleuaeth yr unawd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a chael fy llun yn y Western Mail!
Fel person ifanc, pwy neu beth wnaeth ddylanwadu arnat?
Er bod fy rhieni yn gerddorion clasurol, ‘roedd fy chwaeth gerddorol yn gwbl wahanol. Yn fy arddegau, fy arwyr oedd y Rolling Stones, y Black Crowes a Crosby, Stills and Nash, oedd yn pery gofid mawr adre!
Ro’n i’n darllen yn frwd, ac wrth fy modd gyda nofelau Edna O’Brien a Margaret Drabble – menywod ifanc oedd yn herio’r drefn ar y pryd. Er nad o’n i’n darllen cymaint o lyfrau Cymraeg yn fy arddegau, fe ges i flas ar nofelau Jane Edwards ac Eigra Lewis Roberts. Roedd mudiad ffeministaidd y 70au yn ddylanwad cryf hefyd – pobl fel Germaine Greer a Gloria Steinem. Dwi’n cofio dod allan o lyfrgell Caerdydd un prynhawn, a chael fy holi gan griw ffilmio o HTV am gystadleuaeth Miss World, oedd yn hynod ddadleuol bryd hynny. Yn bymtheg oed, fe wnes i bregethu o risiau’r llyfrgell am hawliau merched a gwarth yr holl sioe. Dwi’n mawr obeithio bod y tâp wedi’i ddileu!
Beth yw dy ddylanwadau nawr?
Dyw statws a phwer ddim yn creu llawer o argraff arna’i ond dwi’n edmygu pobl sy’n gweithio’n dawel yn y cefndir. ‘Roedd Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yn deimladwy iawn o feddwl am holl waith y gwirfoddolwyr a’r athrawon Cymraeg dros y blynyddoedd. Dwi hefyd yn edmygu menywod sydd wedi cyrraedd y brig ar waetha pob rhwystr. Fe glywais Julia Gillard (cyn brif weinidog Awstralia) yn siarad yn y Senedd rhai blynyddoedd yn ôl – dwi’n edmygu dycnwch a dyfalbarhad menywod sydd wedi llwyddo yn y byd gwleidyddol ar waetha’r dirmyg a’r casineb sy’n eu hwynebu.
Mae pobl iau hefyd yn ysbrydoliaeth. Mae gen i dri o blant rhwng 25 a 40 oed – cymeriadau anturus, annibynnol sy’n herio’r drefn – ac mae hynny’n procio’r meddwl ac yn fy ngorfodi i ail-ystyried fy rhagdybiaethau.
Pryd ddest ti’n ymwybodol dy fod eisiau sgwennu, oedd unrhyw ffactorau arbennig wedi cael effaith?
Gan ‘mod i wedi bod yn ddarllenwr brwd erioed, fe benderfynais ‘mod i am fod yn awdur pan o’n i’n ifanc iawn. ‘Ro’n i’n mwynhau sgrifennu straeon yn yr ysgol ac fe astudiais Lenyddiaeth Ffrangeg yn y coleg a threulio tair blynedd yn darllen nofelau fel Madame Bovary a Les Miserables! Wedi i fi ddechrau gweithio, fe sgrifennais straeon byrion a straeon i blant ac, wedi gadael fy ngwaith llawn amser, fe wnes i achub ar y cyfle i sgrifennu nofel.
Dywed ychydig am Y Ferch ar y Cei, o ble ddaeth yr ysbrydoliaeth, a beth wyt ti’n gobeithio bydd darllenwyr yn gael o’r stori hon…
Nofel ddirgelwch yw Y Ferch ar y Cei am fywyd helbulus Bethan Morgan, newyddiadurwr sy’n jyglo’i gwaith fel gohebydd teledu tra’n magu tri o blant heriol. Wrth i’w phriodas chwalu, mae’n taflu ei hunan i’w gwaith ac yn ymchwilio i gynllun datblygu ardal y Cei yng Nghaerdydd.
Wedi iddi dyrchu am wybodaeth, daw Bethan i ddeall bod llygredd ac arian mawr wrth wraidd y cynllun ond dyw ei chynhyrchydd ddim am gynhyfru’r dyfroedd. Yn benderfynol o ddarganfod y gwir, mae Bethan yn camu’n ddiarwybod i rwydwaith o wleidyddion llwgr a gweithwyr rhyw ffraeth. Mae pethau’n mynd o ddrwg i waeth pan gaiff ei hudo gan berchennog tafarn Y Cei, Declan O’Driscoll.
Mae hedyn y syniad wedi ei wreiddio yn fy mhrofiad fel newyddiadurwr –ac fe ges i dipyn o hwyl yn dychmygu antur Bethan Morgan a’i hymdrech i dorri ei chwys ei hun ar waetha ei theulu anysytywallt a’r gwleidyddion seimllyd.
Dwi wedi ceisio sgrifennu nofel afaelgar ac yn gobeithio ‘mod i wedi dal rhywfaint o hiwmor a ffraethineb Caerdydd, a chreu chymeriadau lliwgar, hoffus.
Beth yw dy hoff genres darllen, a pha lyfrau wyt yn darllen ar hyn o bryd?
Dwi’n hoff iawn o nofelau cyfoes, yn arbennig y nofelau sy’n cyfuno stori afaelgar â chymeriadau cymhleth, credadwy. Dwi’n arbennig o hoff o nofelau Kate Atkinson ond dwi hefyd wedi mwynhau llyfrau Deborah Levy yn ddiweddar – gwaith sy’n cynnwys elfennau hunan – gofiannol a ffuglen fyrlymus. Mae nofelau ffantasïol awduron o Dde America ymhlith fy ffefrynnau hefyd, un o’m hoff lyfrau yw Aunt Julia and the Scriptwriter gan Mario Vargas Llosa– nofel sy’n llawn lliw a dychymyg.
Ar hyn o bryd mae hi’n oes aur y nofel Gymraeg, fel y soniodd un o feirniaid yr Eisteddfod ym Mhontypridd. Dwi wrth fy modd gyda gwaith Ioan Kidd, John Alwyn Griffiths, Llwyd Owen a gwaith awduron fel Fflur Dafydd a Manon Steffan Ros.
Ar fy ngwyliau yn ddiweddar, fe ddarllennais Tadwlad gan Ioan Kidd a mwynhau’n arw, a dwi wrthi’n darllen y nofel Caledonian Road gan Andrew O’Hagan – llyfr swmpus sy’n cwmpasu nifer o gwestiynau dyrys y byd cyfoes.
Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnot yn ystod dy fywyd?
Mae llyfrgelloedd wedi bod yn holl-bwysig i fi o ran datblygu fy niddordebau ac ehangu fy ngorwelion.
Dechreuais ddarllen yn ifanc ac ‘roedd Mam yn mynd â ni i lyfrgell Treganna, sy’n dal i ffynnu, gyferbyn â chanolfan gelfyddydau Chapter. Yn fuan iawn, ro’n i am fwy o ddewis ac ro’n i’n mynd pob bore Sadwrn i Lyfrgell Ganolog Caerdydd (yr Hen Lyfrgell nawr) ar yr Ais. Gan ‘mod i’n ymgolli’n llwyr mewn llyfrau, ‘roedd Mam yn gadael y tair ohonon ni i ddarllen ar y grisiau yn siop James Howell’s tra’i bod hi’n crwydro o gwmpas yr adran ddillad!
Yn nes ymlaen, ‘ro’n i’n ddigon ffodus i gael astudio yn llyfrgell y Bodleian yn Rhydychen, adeilad hardd oedd yn fy ysbrydoli i feddwl am yr holl bobl oedd wedi bod yno yn y gorffennol. Dwi’n cofio darllen cyfieithiad o Dido ac Aeneas yn y Bodleian – a’r disgrifiad o farwolaeth Dido mor deimladwy fel ‘mod i wedi beichio crio ynghanol tawelwch llethol y llyfrgell, a’r myfyrwyr eraill yn chwerthin am fy mhen.
Pa awgrymiadau sydd gyda ti i annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?
Cwestiwn anodd. Mae cymaint o bethau eraill ar gael i ddifyrru pobl ifanc erbyn hyn.
O ran plant bach, mae llwyth o lyfrau gwych ar gael sy’n llawn lluniau trawiadol. Ac mae ‘na ddewis eang ar gyfer plant sydd ychydig yn hyn. Roedd fy merch fenga yn dwlu ar Diary of a Wimpy Kid gan Jeff Kinney ac rwy’n falch o weld fod ‘na fersiwn Gymraeg nawr – Dyddiadur Dripsyn, wedi’i gyfieithu gan Owain Sion. Doedd fy mab ddim mor hoff o nofelau pan oedd yn ei arddegau, ond yn mwynhau llyfrau am beldroedwyr a ser y byd chwaraeon.
Mae llawer anoddach i rieni y dyddie yma – mae dechrau’n ifanc yn syniad da, os yn bosib, a cheisio diffodd yr offer digidol am ychydig gyda’r nos. Roedd fy mhlant yn hoffi gwrando ar straeon yn y car wrth deithio ond erbyn hyn, mae pawb ar eu ffôn symudol yn y cefn. Wedi dweud hyn, mae traddodiad hir ac anrhydeddus o adrodd chwedlau ar lafar – os yw drama neu stori ar deledu yn tanio’r dychymyg, falle bod hynny’n fodd i gyflwyno’r gwaith gwreiddiol i bobl ifanc. Dim atebion syml, mae’n ddrwg gen i!
Rho ddyfyniad sydd wrth wraidd dy fywyd di …
Nid dihareb ond cyngor a gefais gan fy mam ar ddechrau fy ngyrfa.
Yn y coleg newyddiadurol, roedd yn rhaid i ni fynd i gwest a gwneud adroddiad arno i raglen newyddion y myfyrwyr. Fe ges gyfarwyddyd i holi’r teulu oedd yn galaru ac i beidio â bod yn or – emosiynol. Pan soniais wrth fy mam, fe bwyllodd yn hir cyn dweud “Paid â gwerthu dy enaid,” ac fe ges i sioc, gan nad oedd Mam yn un i bregethu. Ond ‘ro’n i’n falch o’r cyngor. Mae ‘na bwysau mawr ar newyddiadurwyr i dorri straeon newydd ond, onibai bod y sefyllfa’n ddifrifol, does dim esgus dros greu problemau i bobl er mwyn cael penawdau trawiadol.
Cyhoeddwyd Y Ferch ar y Cei yng Ngorffennaf gan Gwasg Carreg Gwalch.
Lawrlwythwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur a dysgwch hefyd am ein Hawduron y Mis eraill yn ‘sgwennu’n y Gymraeg