Rolant Tomos
Hydref 2, 2024Cefais fy ngeni yn Nolgellau, a mynychu ysgol gynradd yno ac yna Ysgol Gymraeg Llundain am 2 flynedd. Ysgol Uwchradd yn Nolgellau ac astudio Theatr, Ffilm a Theledu yn Aberystwyth yna blwyddyn yn astudio Ffilm yn Nenmarc. Wedi gweithio mewn siop lyfrau, canolfan alw trêns, cyfarwyddo a sgwennu ar gyfer y teledu, helpu busnesau bwyd a diod a rhedeg bragdy fy hun cyn cymryd y naid a cheisio neud bywoliaeth fel awdur!
Pa ddylanwadau ac atgofion oedd yn sefyll allan yn dy blentyndod?
Aros efo Anti Gwen yng Nghastell Newydd Emlyn, actio yn Gwenoliaid, gweld ysbrydion.
Fel person ifanc, pwy neu beth wnaeth ddylanwadu arnat?
Douglas Adams, Y Cyrff, Manic Street Preachers.
Beth yw dy ddylanwadau nawr?
Hoff o waith Llwyd Owen, Dewi Prysor, Manon Steffan Ros, Haruki Murakami, Cormac McCarthy, Neil Gaiman, The Bear ar deledu a Ren mewn miwsig.
Pryd ddest ti’n ymwybodol dy fod eisiau sgwennu, oedd unrhyw ffactorau arbennig wedi cael effaith?
Dwi wedi bod yn trio sgwennu ers yr ysgol gynradd, ond Gala Antipenko – darlithrwraig yn Ebeltoft roddodd y rhyddid a hyder i mi wneud.
Dywed ychydig am Meirw Byw, o ble ddaeth yr ysbrydoliaeth, a beth wyt ti’n gobeithio bydd darllenwyr yn gael o’r stori hon…
Ysbrydion oedd yr ysbrydoliaeth. Dwi wedi gweld un a chael y profiad o gwrdd â phedwar dros y blynyddoedd. Ddim yn brofiad braf o gwbl.
Beth yw dy hoff genres darllen, a pha lyfrau wyt yn darllen ar hyn o bryd? Dwi wrth fy modd efo bob dim – mae nhw’n agor drysau newydd i’r dychymyg, dysgu pethau newydd. Ymarfer corff i’r ymennydd. Ar hyn o bryd dwi’n darllen Borstal Boy gan Brendan Behan, mae Sarn Helen Tom McCollough yn barod i fynd nesaf a Last Stand at Papago Wells gan Louis L’Amour yn drît bach amser cinio.
Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnot yn ystod dy fywyd?
Profiad cyntaf oedd llyfrau adar Ted Breeze, cyfres antur Willard Price a’r Hamlyn Book of Ghosts yn llyfrgell Dolgellau, dramâu Ewropeaidd od yn Aberystwyth, a cael mynd â’r plant i fenthyg llyfrau yn llyfrgell y Bontfaen. Dwi dal wrth fy modd yn pori a wastad yn synnu fod cymaint o straeon gwych i’w cael.
Pa awgrymiadau sydd gyda ti i annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?
Rho’r ffôn i lawr am 5 munud, mae ffonau yn cipio dychymyg. Os wnei di fuddsoddi amser mewn llyfr mi gei di gymaint mwy yn ôl achos mi wyt ti fel darllenydd yn rhan o’r stori, yn rhan o’r creu.
Rho ddyfyniad sydd wrth wraidd dy fywyd di …
“Cyfiawnha dy fodolaeth …” gan Wyddel mewn tafarn yn Arhus. Dwi dal heb ganfod ateb eto ond yn mwynhau gwneud pethau newydd er mwyn gweld os oes modd ei ateb.
Diolch Rolant.
Cyhoeddwyd Meirw Byw ym Medi gan Wasg Carreg Gwalch.
Lawrlwythwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur a dysgwch hefyd am ein Hawduron y Mis eraill yn ‘sgwennu’n y Gymraeg