Georgia Ruth
Ionawr 2, 2025
Cerddor o Aberystwyth yw Georgia Ruth. Enillodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2013 am Week of Pines. Ers hynny mae wedi rhyddhau Fossil Scale, Mai a Cool Head. Mae ganddi raglen gerddoriaeth wythnosol ar BBC Radio Cymru. Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf, Tell Me Who I Am, ym Mehefin 2024. Casglu Llwch yw ei chyfrol gyntaf yn y Gymraeg.
Dyma gasgliad o fyfyrdodau a thraethodau personol. Yn sbardun i bob pennod mae byd natur. Ond nid llyfr natur mohono. Wrth iddi ystyried blodau, cerrig, esgyrn, adar, cawn ein tywys ar drywydd annisgwyl i grombil ei phen. Cawn gipolwg ar ei bywyd wrth iddi rannu atgofion a chanfyddiadau, a cheisio gwneud synnwyr o’r byd a’i bethau.
‘Mewn cyfres o fyfyrdodau treiddgar, dyma gyfrol sy’n gadael i lais mam, merch a menyw doddi’n un, a gwthio’r gorwel. Cawn ein cipio gan feddwl craff a chwareus, cryf a charedig, o Gymru i’r byd, o’r penodol i’r cyfanfydol. Dyma ddawn sy’n sylwi ar fân ddigwyddiadau mawr bywyd ac sy’n dal yr eiliad – yr union eiliad’ (Mererid Hopwood)
Diolch Georgia am ateb cwestiynau Llyfrgelloedd Cymru yn ddiweddar. Rho ychydig o dy gefndir inni…
Oni’n byw yn Llanilltud Fawr am tua 3 mlynedd cynta’ fy mywyd, cyn symud i Aberystwyth yn 4 oed a dechrau wedyn yn yr Ysgol Gymraeg, ac wedyn at Benweddig. Fues i’n studio Saesneg yng Nghaergrawnt am dair blynedd, a wir wedi mwynhau’r cyfle hwnnw jest i ymgolli mewn llyfrau. Dwi’n ystyried Aberystwyth fel fy nghartref – er ‘mod i wedi crwydro ymhell ohoni dros y blynyddoedd (i Gaergrawnt, Llundain, Brighton, Caerdydd a Chaernarfon). Dwi nôl yma ers sbel nawr hefo fy nheulu, ac yn mwynhau gweld fy mhlant yn tyfu fyny ger y traeth.
Pa ddylanwadau ac atgofion oedd yn sefyll allan yn dy blentyndod?
Wel, ma lot ohonyn nhw yn ymddangos yn Casglu Llwch a dweud y gwir! Ond falle’r prif beth yw gymaint o gerddoriaeth oedd yn llenwi’r tŷ, wastad. Roedd mam a dad yn caru miwsig, a dwi’n meddwl fod hwnna wedi bod yn ddylanwad enfawr arna’i ac ar siâp fy mywyd. Alla’i ddim dychmygu fy mywyd heb gerddoriaeth.
Fel person ifanc, pwy neu beth wnaeth ddylanwadu arnat?
Hank Williams, Joan Baez, Absolutely Fabulous, fy athrawes Blwyddyn 3 – Mrs Margaret Thomas – a fy athrawon Saesneg ym Mhenweddig – Stella, Sian a Pam, fy ngŵr Iwan.
Beth yw dy ddylanwadau nawr?
Gormod i restri! Ma’n swnio’n cliché ond mae’r plant yn ysbrydoliaeth fawr – eu ffordd unigryw nhw o edrych ar y byd. Willie Nelson, hefyd, am barhau i neud albyms yn bell i’w 90au.
Pryd ddest ti’n ymwybodol dy fod eisiau sgwennu, oedd unrhyw ffactorau arbennig wedi cael effaith?
Dwi’n meddwl ‘mod i wastad wedi sgwennu, ers ‘mod i’n ifanc iawn. Oni wastad yn caru dweud storis. Yn raddol, dros y blynyddoedd, distyllwyd y peth fewn i sgwennu caneuon. Ond yr un yw’r reddf!
Dywed ychydig am Casglu Llwch, o ble ddaeth yr ysbrydoliaeth, a beth wyt ti’n gobeithio bydd darllenwyr yn gael o’r stori hon…
Dwi wedi disgrifio’r gyfrol fel siop elusen – casgliad o atgofion, myfyrdodau, bric-a-brac fy meddwl prysur! Mae’n sôn am fy mywyd fel mam, fel cerddor, fel rhywun sy’n hoff o gasglu cerrig. Oni’n despret i gofnodi pethau, rhag ofn ‘mod i’n anghofio… Falle’r peth sy’n glynu’r holl dameidiau at ei gilydd yw’r awch i gasglu pethau ynghyd. Dwi wir yn gobeithio y bydd darllenwyr yn mwynhau.
Beth yw dy hoff genres darllen, a pha lyfrau wyt yn darllen ar hyn o bryd?
Ers cael plant, dwi ddim wedi darllen gymaint ag oni’n arfer! Ac felly ma’ ysgrifau a thraethodau – pethau byr, sy’n hawdd eu treulio – yn apelio. Dwi wrth fy modd hefo sgwennu David Sedaris – y ffordd mae e’n cofnodi’r pethau bach swreal yn ei fywyd bob dydd, ond mewn ffordd sy’ mor graff, mor ddoniol, mor ingol weithiau.
Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnot yn ystod dy fywyd?
Oni’n mynd i’r llyfrgell yn Aber o oed ifanc iawn, ac wrth fy modd hefo’r holl beth – y syniad hwn o fenthyg syniadau, ac wedyn eu dychwelyd nhw. Magic! Pan oni yn y brifysgol, roedd llyfrgell Coleg Newnham yn llawn ysbrydoliaeth – oni’n dychmygu Sylvia Plath yn eistedd wrth y byrddau. Erbyn heddiw, dwi’n caru mynd i lyfrgell Aberystwyth eto hefo fy mhlant.
Pa awgrymiadau sydd gyda ti i annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?
Fel plentyn, oni wastad yn chwilio am borth i fyd gwahanol. Nath mam fy ffeindio ryw ddiwrnod mewn cwpwrdd, yn aros yn amyneddgar i fynd i Narnia! Bydde’n i’n dweud wrth bobl ifanc mai llyfrau yw’r ffordd fwyaf effeithlon o gyrraedd bydoedd eraill. Ac mae’r pethau sy’n aros iddyn nhw yn y bydoedd hynny yn mynd i newid eu bywydau am byth, yn y ffordd orau posib!
Rho ddyfyniad sydd wrth wraidd dy fywyd di …
Fydd o’n iawn, bydd!
Diolch Georgia.
Cyhoeddwyd Casglu Llwch ym mis Tachwedd gan Y Lolfa.
Lawrlwythwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur a dysgwch hefyd am ein Hawduron y Mis eraill yn ‘sgwennu’n y Gymraeg