Graham Wynne Edwards

Dechreuodd Graham Wynne Edwards ymddiddori yn hanes Richard Jones Berwyn o ddifri pan sylweddolodd fod y dyn a anwyd yng Nglyndyfrdwy wedi’i fagu yn Nyffryn Ceiriog, fel yntau. Teimlodd nad oedd digon o sylw wedi ei roi iddo yn ardal ei febyd, beth bynnag am drwy weddill Cymru a’r Wladfa.

O’r adeg y glaniodd y fintai gyntaf o Gymry ym Mhorth Madryn ym 1865, gweithredodd Richard Jones Berwyn fel un o brif arweinwyr y Wladfa ym Mhatagonia. Bu’n gofnodwr arbennig; aeth ymlaen i fod yn grwner, harbwr feistr, rheolwr yr orsaf dywydd ac yn bostfeistr am dros dri deg o flynyddoedd. Bu hefyd yn athro ac yn gyhoeddwr llyfrau, ac agorodd felin a siop lyfrau ac offer ysgrifennu, y gyntaf o’i math yn y Wladfa. Yn wir, gweithiodd yn ddiflino i sicrhau ffyniant yr ymfudwyr cyntaf. Eto, ychydig o sylw a gafodd yn y croniclau hanes.

Diolch Graham am rannu yr ysbrydoliaeth y tu ol i Richard Jones Berwyn, Hanes Rhyfeddol un o Arloeswyr y Wladfa, ac am ateb cwestiynau Llyfrgelloedd Cymru.

Rho ychydig o dy gefndir inni – magwraeth, addysg…

Fe’m magwyd ym mhentre Pontfadog, Dyffryn Ceiriog, ond wedi ymgartrefu rhyw ddwy filltir i ffwrdd, yng Nglyn Ceiriog ers priodi ym 1988. Es i’r ysgol gynradd ym Mhontfadog, sydd wedi cau erbyn hyn, ac wedyn ymlaen i Ysgol Dinas Bran, Llangollen. Wedi gadael yr ysgol uwchradd, es i weithio am flwyddyn yn gwneud nifer o swyddi amrywiol, (rhai dros dro) cyn cael lle i hyfforddi fel athro Ysgol Uwchradd yn y Coleg Normal, Bangor. Dysgu’r Gymraeg fel ail iaith yn ysgolion ardal Wrecsam wedyn am flynyddoedd lawer cyn ymddeol yn 2023, wedi cyfnod o dros chwe mlynedd tua’r diwedd fel athro cyflenwol.

Pa ddylanwadau ac atgofion oedd yn sefyll allan yn dy blentyndod?

Hafau hir, cynnes yn chwarae tu allan efo ffrindiau, hwyl y nosweithiau tywyll yn y gaeaf a chwmni arddegwyr eraill y pentre lle doedd yna  ‘ddim byd i’w wneud’. Dylanwad mawr fy ewyrth, Cyril Wynne (brawd fy mam) oedd yn byw efo ni. Roedd yn dipyn o dynnwr coes ac, yn ôl rhai’n ddyn castiog iawn! Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu’n gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol ac wedi croesi Mor yr Iwerydd droeon, a’i long yn gwarchod y confois oedd yn cludo olew i Brydain Fawr. Er nad oedd yn siarad yn aml am ei brofiadau, soniodd bob hyn a hyn am y moroedd mawr, ofn yr ‘U-boats’ a hwylio am Nova Scotia, Efrog Newydd ac i fyny’r Mississippi i lefydd efo enwau rhamantus fel Corpus Christi a Baton Rouge. Mae’n debyg bod ei straeon wedi tanio fy niddordeb mewn teithio wrth wrando arno’n gegrwth.

Graham Wynne Edwards

Fel person ifanc, pwy neu beth wnaeth ddylanwadu arnat?

 Roedd gennyf ddiddordeb mawr mewn chwaraeon ac yn  mwynhau gwylio a chwarae pêl droed, rygbi, criced, tenis ac athletau’n bennaf. Roeddwn yn edmygu unrhyw un oedd yn ddigon dawnus i fod yn berson chwaraeon proffesiynol

O ran cerddoriaeth, dechreuais fwynhau gwrando ar gerddoriaeth pop yn arddegwr a phan es i’r Coleg Normal, dyma glywed bandiau Cymraeg am y tro cyntaf ac roeddwn wrth fy modd. Clywais – a gwelais – bobl fel Geraint Jarman, y Trwynau Coch, Bwchadanas, Rhiannon Tomos, Angylion Stanli, Crys a llawer o rai eraill. Roedd canu caneuon pop yn yr Hen Iaith mor cŵl!

Er cyn lleied o raglenni teledu oedd ar gael i bobl ifanc wrth gymharu efo’r dewis heddiw, roeddwn yn gwylio rhywbeth bob dydd, mae’n siŵr – chwaraeon a chomedi’n bennaf, ac yn prynu ambell i gylchgrawn chwaraeon, ar ddydd Sul fel arfer.

Beth yw dy ddylanwadau nawr?

Fy nheulu. Fy ngwraig, Heather a’n meibion Sion Alun a Brython Wyn a’u partneriaid Shirley a Gaby. Hefyd, fe’n bendithiwyd ym mis Chwefror pan gyrhaeddodd ein hwyr cyntaf, sef Cai Morlais – y bychan wedi’i eni yng Nghaerdydd a’i gartref yn y Barri.  Edmygaf  Gymreictod pumed, chweched, seithfed genhedlaeth y Gwladfawyr heddiw’n fawr iawn ac hefyd rhaid sôn am y pregethwyr sy’n dod i Gapel Seion yng Nglyn Ceiriog ar y Sul. Maen nhw’n bobl arbennig iawn.

Dywed ychydig am Richard Jones Berwyn, o ble ddaeth yr ysbrydoliaeth?

Rwyf wedi ymddiddori yn stori’r Cymry’n gadael am Batagonia ers blynyddoedd lawer. Mae’n stori fawr ac nid gor-ddweud fyddai honni ei bod yn un o storïau mwyaf y byd. Er gwaethaf hyn, rhaid cyfaddef, nad oeddwn yn gwybod rhyw lawer am Berwyn tan Hydref 2017, pan ddaeth yr Athro Bill Jones, o Brifysgol Caerdydd i Ddyffryn Ceiriog i ddarlithio ar ei fywyd. Mae’n gywilyddus o beth, ond nid oeddwn wedi sylweddoli fod Berwyn wedi’i fagu rhyw dair milltir o fy nghartref i.

Wedi gwrando ar y ddarlith, es ati i ddysgu mwy am y dyn rhyfeddol ’ma, ac wedi casglu swp o wybodaeth amdano’n weddol sydyn, penderfynais roi cynnig ar siarad efo cymdeithasau hanes, a chymdeithasau Cymraeg – unrhyw un oedd eisiau siaradwr gwadd, a dweud y gwir. Erbyn hyn,  ’rwyf wedi siarad efo dros dri deg o gymdeithasau a chlybiau am stori Berwyn a chefais y fraint o gyflwyno dwy noson amdano yn y Wladfa yn 2023. Am anrhydedd, a rhai o’i ddisgynyddion yn y gynulleidfa! Mae hi wedi troi’n hobi pleserus iawn ac ’rwyf wedi llwyddo i godi tipyn o arian i Ysgol y Cwm, Trevelin, Patagonia yr un pryd.

Richard Jones Berwyn

   Cyfrannodd Berwyn yn helaeth tuag at sefydlu’r Wladfa gan ddal nifer fawr o swyddi allweddol. Er enghraifft, bu’n gofrestrydd genedigaethau, marwolaethau a phriodasau, yn ysgrifennydd personol i’r Prwyad (Llywodraethwr), yn gyfieithydd (roedd yn siarad pump o ieithoedd ac yn deall digon o ddwy arall), yn bostfeistr, yn athro ac yn awdur y llyfrau a ddefnyddiwyd yn yr ysgolion i ddysgu’r plant i ddarllen ac ysgrifennu Cymraeg yn gywir. Roedd yn olygydd y papur newydd cyntaf yn y Wladfa ac yn cyhoeddi almanac yn flynyddol. Yn ogystal, roedd yn dad i un deg a thri o blant ac wedi mabwysiadu pedwar arall a nifer anhysbys o blant brodorol. Tyaid o blant!

Beth yw dy hoff genres darllen, a pha lyfrau wyt yn darllen ar hyn o bryd?

Rwyf yn mwynhau darllen hunangofiannau, yn arbennig o’r byd chwaraeon, unrhyw lyfr hanes a storïau gwir. Am fy mod yn mwynhau traddodi cyflwyniadau ar Batagonia gymaint, yn aml iawn byddaf yn gwneud mwy o waith ymchwil tuag y cyflwyniad nesaf. Ar hyn o bryd, ’rwyf yn dysgu mwy am daith y Rifleros a siwrnai rhai o’r teuluoedd i Gwm Hyfryd ym 1885 ac yn darllen llyfr bendigedig o’r enw Rocky Trip gan  Sergio Sepiurka a Jorge Miglioli.

Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnat yn ystod dy fywyd?

Rwyf wastad wedi mwynhau’r awyrgylch mewn llyfrgell. Y llonydd, yr awyrgylch o ddysgu a’r cyfle i ymgolli mewn llyfr. Mae amser yn hedfan wrth ymlacio ac mae’r amgylchfyd yn hyfryd bob tro. Wrth gwrs, yn ystod cyfnod fy ngwaith ymchwil at y gyfrol, es i’r llyfrgell yn aml ac mae’r adnoddau sydd ar gael yn ardderchog.

Pa awgrymiadau sydd gyda ti i annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?

Cerwch a nhw i’r llyfrgell leol mewn grwpiau bach a gadael iddynt grwydro. Yn hwyr neu’n hwyrach bydd un o’r llyfrau yn siŵr o ddenu eu sylw a thanio eu dychymyg. Hefyd, mae hi wastad yn syniad da i ofyn i blant siarad am eu hoff lyfr iddynt sylweddoli gymaint y maent wedi mwynhau ei ddarllen.

Rho ddyfyniad sydd wrth wraidd dy fywyd di …

Does ond un peth sydd ei angen i hybu diddordeb mewn unrhyw beth yn y byd ’ma – brwdfrydedd … a gwybodaeth amdano (dau beth!)

Diolch Graham.

Bydd Gwasg Carreg Gwalch yn cyhoeddi Richard Jones Berwyn 4 Ebrill 2025.

Lawrlwythwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur a dysgwch hefyd am ein Hawduron y Mis  eraill yn ‘sgwennu’n y Gymraeg

Cookie Settings