Aled Emyr
Mehefin 4, 2024
Magwyd Aled Emyr yn y Felinheli. Graddiodd mewn cerddoriaeth yn Llundain cyn dychwelyd i’r Felinheli i ddilyn ei freuddwyd i gael ysgrifennu. Trigo yw ei nofel gyntaf.
“Mae teyrnasiad y Brenin Peredur dan fygythiad, ac mae’r tensiwn rhwng y Pedair Ynys ar fin ffrwydro. Daw arglwyddi’r ynysoedd draw i’r brifddinas ar Ynys Wen gyda chynllun i ddisodli’r brenin, sy’n rhoi bywyd Siwan, ei ferch, mewn perygl. Mae’n rhaid iddi aberthu ei breuddwydion a dianc o Borth Wen er mwyn ceisio aros yn ddiogel.
Wrth i’r Pedair Ynys gweryla â’i gilydd, mae Enid, merch Arglwydd Ynys Afarus yn cychwyn ar daith beryglus i geisio dod o hyd i’w brawd Pedr, sydd wedi ei gipio o’i ystafell yng nghanol nos. Gyda chymorth y dewin Gwydion, mae Enid yn darganfod cyfrinachau o’r gorffennol sy’n bygwth dinistrio’r Pedair Ynys am byth.”
Llongyfarchiadau mawr Aled ar gyhoeddi Trigo! Rho ychydig o dy gefndir inni…
Ges i fy magu yn Y Felinheli. Mynychais Ysgol Gynradd Y Felinheli cyn mynd i Ysgol Syr Hugh yng Nghaernarfon. Roedd gan sawl un y teulu ddiddordeb mewn cerddoriaeth ac ar ôl i mi gael gwersi piano a gitar yn blentyn, mi es i Lundain i’r London College of Music i astudio cerddoriaeth gyfoes. Ar ôl tair mlynedd yno, dychwelais i’r Felinheli i weithio mewn ysgolion, ond roeddwn yn dal i fwynhau perfformio a chyfansoddi cerddoriaeth yn fy amser hamdden. Yn y cyfnod yma dechreuais sgwennu o ddifrif.
Pa ddylanwadau ac atgofion oedd yn sefyll allan yn dy blentyndod?
Atgofion hapusaf fy mhlentyndod oedd gwyliau’r haf yn Y Felinheli. Roedd criw mawr ohonon ni’n mynd allan bob dydd i hel crancod, neidio i mewn i’r môr ac i chwarae pêl-droed yn y cae wrth y clwb hwylio. Daeth fy niddordeb mewn straeon ffantasïol/ffuglen wyddonol gan Dad. Dwi’n cofio mynd i weld ffilmiau Lord of The Rings yn y sinema efo Dad a fy mrodyr a gwrthod mynd allan i hel crancod a chwarae pêl-droed am ein bod ni’n cael Star Wars day yn y tŷ er ei bod hi’n ddiwrnod braf!
Fel person ifanc, pwy neu beth wnaeth ddylanwadu arnat?
Prin oedd llyfrau Cymraeg yn cydio ynof i pan oeddwn i’n ifanc. Mi oeddwn i wrth fy modd efo The Hobbit a chyfres ‘Harry Potter’. Llyfrau T.Llew Jones ydy’r rhai sy’n aros yn y cof yn y Gymraeg. Dwi’n cofio mwynhau antur Un Noson Dywyll ac Anturiaethau Twm Siôn Cati. Ond Mam a Dad yw fy nylanwadau mwyaf; y ddau ohonyn nhw’n actio, yn sgwennu ar gyfer teledu a’r ddau wedi cyhoeddi nofelau eu hunain.
Beth yw dy ddylanwadau nawr?
Dros y cyfnod clo nes i ddarllen A Game of Thrones gan George R.R. Martin a The Lord of The Rings gan J.R.R Tolkien, felly mae llyfrau ffantasi yn dal i fod yn ddylanwad mawr arna i. Mae cyfresi teledu fel ‘Breaking Bad’ wedi fy ysgogi i orffen bob pennod yn gryf fel bod y darllenwr yn ysu i ddarllen y bennod nesaf.
Pryd ddest ti’n ymwybodol dy fod eisiau sgwennu, oedd unrhyw ffactorau arbennig wedi cael effaith?
Dwi’n cofio sgwennu stori fel aseiniad ym mlwyddyn 8 a mwynhau trefnu’r stori yn benodau a dylunio clawr i fynd efo hi. Dyna pryd dwi’n cofio ’mod i eisiau sgwennu straeon a chreu bydoedd a chymeriadau fy hun. Mae’r ffaith fod Mam a Dad yn awduron hefyd wedi cael effaith mawr arna i.
Dywed ychydig am Trigo, o ble ddaeth yr ysbrydoliaeth, a beth wyt ti’n gobeithio bydd darllenwyr yn gael o’r stori hon…
Mae Trigo yn nofel ffantasïol yn ymwneud â dial a chyfiawnder, llygredd a phŵer, unigrwydd a chyfeillgarwch. Cefais yr ysbrydoliaeth gan chwedlau’r Mabinogi. Dwi’n gobeithio bydd y darllenwyr yn mwynhau’r stori epig llawn antur ac yn gallu uniaethu efo rhai o’r cymeriadau unigryw a gwahanol sy’n byw ar y Pedair Ynys a thu hwnt.
Beth yw dy hoff genres darllen, a pha lyfrau wyt yn darllen ar hyn o bryd?
Dwi’n hoff iawn o gyfres Philip Kerr am dditectif yn yr Almaen adeg y Natsïaid. The Dice Man gan Luke Rhinehart a The Hobbit gan J.R.R Tolkien yw fy hoff lyfrau. Dwi newydd ddechrau darllen Y Cylch gan Gareth Evans-Jones ac yn mwynhau’n arw.
Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnot yn ystod dy fywyd?
Pan oeddwn i’n ifanc roeddwn i’n drwm iawn fy nghlyw, felly roeddwn i’n mynd i’r fan lyfrau i gael arbrofion clyw ac yna’n cael amser i ddewis llyfr i ddarllen. Roeddwn wrth fy modd yn pori drwy’r miloedd o lyfrau gwahanol oedd ar gael.
Pa awgrymiadau sydd gyda ti i annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?
Wrth ddarllen nofel mae eich dychymyg yn dod â’r cymeriadau a’r lleoliadau’n fyw. Dyna dwi wedi hoffi am ddarllen erioed – gallu gweld y cymeriadau yn fy mhen. Mae’n wahanol iawn i wylio ffilm. Dwi ddim yn cael yr un pleser o wylio ffilm ar ôl darllen y llyfr.
Diolch yn fawr Aled.
Cyhoeddwyd Trigo 31 Mawrth gan Y Lolfa.
Lawrlwythwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur a dysgwch hefyd am ein Hawduron y Mis eraill yn ‘sgwennu’n y Gymraeg