Alun Davies

 

Daw Alun Davies o Aberystwyth yn wreiddiol ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae’n beiriannydd meddalwedd ac yn rhedeg ei gwmni ymgynghori ei hun. Mae’n hoffi rhedeg a beicio ac wedi cyflawni sawl triathlon. Enillodd ei nofel antur ffantasïol i blant a phobol ifanc Manawydan Jones: Y Pair Dadeni wobr Uwchradd Tir Na n-Og eleni.

Mae ei nofel drosedd newydd Pwy yw Moses John? yn dilyn poblogrwydd y dair nofel gyntaf, Ar Drywydd Llofrudd, Ar Lwybr Dial ac Y Daith Olaf. Disgrifiodd Jon Gower ef fel ‘Llais newydd hyderus ym myd sgrifennu ditectif Cymraeg’ …

“Mae 1997 yn flwyddyn o newid mawr yn ynysoedd Prydain… Yn nhref Aberystwyth, mae’n flwyddyn ysgytwol i Moses John wrth iddo ddihuno mewn ysbyty heb unrhyw gof o’r saith mlynedd ddiwethaf. Wrth ymchwilio i’w fywyd mae’n dysgu mai ef oedd y prif dditectif ar achos llofrudd cyfres o’r enw Kharon, a oedd yn gyfrifol am ladd tri dyn ifanc. Gyda chymorth y newyddiadurwr Mirain Fitzpatrick, mae Moses yn ail-astudio achos Kharon. Yn fuan mae amheuon yn cyniwair…”

 

 

Mae’r nofel gyffrous hon yn dilyn ymdrechion Moses John i ddatgelu’r gwir ac yn ei orfodi i ofyn cwestiwn elfennol – ‘pwy ydw i?’

Llongyfarchiadau mawr Alun ar gyhoeddi Pwy yw Moses John? gyda’r Lolfa… Beth wnaeth dy ysbrydoli i ysgrifennu’r nofel, a dywed ychydig am y stori…

Mae Moses John yn dihuno mewn ysbyty heb gof o’r saith mlynedd ddiwethaf. Mae’n dysgu mai fe oedd y prif dditectif ar achos Kharon, llofrudd cyfresol oedd yn gyfrifol am ladd tri gŵr ifanc. ac a fuodd farw yn y un ddamwain a anfonodd Moses i’r ysbyty. Ond yn sydyn mae corff newydd yn cael ei ddarganfod, wedi ei ladd mewn ffordd unigryw Kharon, gan ofyn y cwestiwn – a yw’r llofrudd wedi taro eto? A oedd Moses wedi cyhuddo rhywun ar gam, ac os felly a all ddarganfod y gwir y tro hwn – nid yn unig am Kharon, ond amdano’i hun hefyd?

Pam rwyt ti’n ysgrifennu?
Am ei fod e’n ffordd i ymlacio, yn newid o ngwaith bob dydd, ond yn bennaf am mod i’n mwynhau gwneud. Os ydw i byth yn stopio mwynhau ysgrifennu mi fydd hi’n amser i fi fynd a thrio rhywbeth gwahanol!

Beth sy’n dy ysbrydoli?

Stori ar y newyddion, erthygl ar Wikipedia – neu ambell waith does dim ysbrydoliaeth, a mae’r syniad yn neidio i fy mhen i.

Sut oeddet ti’n gwybod dy fod eisiau bod yn awdur a phryd ddest yn ymwybodol o hyn?

Dwi wedi mwynhau ysgrifennu erioed, ond doedd bod yn awdur ddim yn rhan o unrhyw gynllun penodol. Un pnawn Sul yn 2016, heb unrhyw beth gwell i wneud, wnes i eistedd lawr a dechrau sgrifennu. Fe wnes i lwyddo i ddal ati, fe ddatblygodd y stori yna i fod yn Ar Drywydd Llofrudd, a saith mlynedd yn hwyrach dwi’n cyhoeddi fy mhumed nofel i. Dwi wedi bod yn ffodus i gael rywfaint o lwyddiant heb fynd allan o fy ffordd i chwilio amdano, a dwi’n ddiolchgar iawn am hynny.

 

 

Pwy yw rhai o’r awduron rwyt ti’n eu hedmygu?

Llwyd Owen, Manon Steffan Ros, Haruki Murakami, Colin Dexter. Wnes i ddarllen The Fifteen Lives of Harry August gan Claire North yn ddiweddar, a roedd hwnna’n wych – stori gymhleth wedi ei adrodd mewn ffordd afaelgar, gyffrous iawn.

 

 

Pa gyngor y byddet ti’n rhoi i dy hunan yn iau?

Edrych ar ol dy ddannedd!

Beth yw dy broses ysgrifennu?

Fydda i’n meddwl tipyn am y stori, yn enwedig pan dwi allan yn rhedeg, ond pan mae’r amser yn dod i ysgrifennu dwi’n tueddi i eistedd lawr a bwrw ati. Dydw i ddim yn un mawr am gynllunio manwl – fydda i’n neidio mewn a mynd i afael gyda’r stori yn syth.

Pa lyfrau wyt ti’n darllen ar hyn o bryd?

Slow Horses gan Mick Herron – dwi heb wylio’r gyfres deledu eto ond wedi clywed pethau da iawn am y llyfrau.

 

 

Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnot?

Mi fyddwn i’n mynd i lyfrgell y dre yn Aberystwyth gyda fy mam a fy mrawd yn aml pan ro’n i’n ifanc, ac wrth fy modd yn pori trwy’r silffoedd. Erbyn hyn dwi’n cymryd fy mhlant fy hun i’r llyfrgell yng Nghaerdydd, a’n falch i’w gweld nhw yn cyffroi wrth chwilota a dewis eu stori nesa.

Oes gennyt unrhyw awgrymiadau er mwyn annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?
Mae’n farchnad anodd i’w chyrraedd, a sydd gyda lot o bethau sy’n mynnu eu sylw. Ond dwi’n gobeithio, wrth ysgrifennu llyfrau sy’n gafael, yn cyffroi, a sydd ddim yn siarad lawr at bobl ifanc, mae modd eu denu nhw i ddiffodd bwrlwm eu bwydau am dipyn ac ymgolli mewn stori dda.

A oes gennyt unrhyw gynlluniau ar gyfer teitlau pellach?

Dwi newydd ennill gwobr Tir na n-Og gyda’n llyfr i oedolion ifanc, Manawydan Jones : Y Pair Dadeni, felly y cynllun yw i ysgrifennu dilyniant i hwnna.

 

 

Cyhoeddir Pwy yw Moses John? ddiwedd Gorffennaf gan Y Lolfa.

Darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur ac am ein Hawduron y Mis  eraill yn ‘sgwennu’n y Gymraeg

Cookie Settings