Angharad Price
Rhagfyr 2, 2024
Magwyd Angharad Price ym Methel ger Caernarfon. Bu’n ddarlithydd ym mhrifysgolion Fienna, Abertawe a Chaerdydd cyn mynd i Brifysgol Bangor, lle mae hi bellach yn Athro mewn Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol.
Mae’n awdur nifer o gyfrolau academaidd, cyfrolau o ysgrifau a thair nofel. Enillodd O, Tyn y Gorchudd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2002 a gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2003. Cyrhaeddodd Caersaint restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2011 a chyrhaeddodd Ymbapuroli restr fer Llyfr y Flwyddyn 2021. Nelan a Bo yw ei nofel diweddaraf.
Gan agor yn 1799, mae Nelan a Bo wedi’i osod mewn cyfnod o newid cymdeithasol mawr. Mae’r tir yn cael ei gau. Mae’r chwyldro diwydiannol ar droed. Mae anghydffurfiaeth yn ennill ei lle. Pa ffawd sy’n aros gwerin cefn gwlad ar drothwy’r cyfnod newydd? Trwy lygaid Nelan a Bo, gwelwn wareiddiad cyfan yn dod i fodolaeth: y Gymru Gymraeg gapelog yr ydym yn dal i fyw ar ei seiliau heddiw. Ond mae hon hefyd yn stori gariad, a honno’n mynd o’r crud i’r bedd, a’i lliwiau cyfnewidiol yn creu patrymau blêr o ystyr ac o deimlad ar gynfas lom y rhostir.
Diolch Angharad am ateb cwestiynau Llyfrgelloedd Cymru yn ddiweddar. Rho ychydig o dy gefndir inni…
Cefais fy magu ym mhentref Bethel ger Caernarfon ac mi gefais addysg ardderchog yn yr ysgol gynradd yno a hefyd yn Ysgol Brynrefail, Llanrug. Ardal chwarel lechi Dinorwig oedd hon ac roedd hynny wedi rhoi cymeriad arbennig iddi, er bod y chwarel wedi cau dair blynedd cyn i mi gael fy ngeni. Dwi’n teimlo’n freintiedig o fod wedi cael fy magu mewn ardal mor hardd sydd wedi ei lleoli rhwng mynyddoedd Eryri a’r môr, ond roeddwn yn lwcus hefyd gan fod teulu fy mam yn byw mewn ardal amaethyddol yn sir Feirionnydd, a theulu fy nhad yn dod o Bwllheli ac yn gysylltiedig â’r môr a phenrhyn Llŷn. Digon o amrywiaeth, felly.
Pa ddylanwadau ac atgofion oedd yn sefyll allan yn dy blentyndod?
O edrych yn ôl, dwi’n meddwl mai’r prif beth ydi’r teimlad o berthyn i gymuned. Roeddem yn aml allan yn chwarae trwy’r dydd – ar y tarmac ac yn y caeau – a phlant o wahanol oedran a chefndir yn cydchwarae (a chydffraeo, wrth gwrs). Roedd yna deimlad o ryddid ac antur, pethau cysurus ac anghysurus, ond ar y cyfan, roedd yna lawer o garedigrwydd. Roedd llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol yn cael eu cynnal, ac roedd bywyd i gyd yn ei holl amrywiaeth yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Iaith y teledu oedd Saesneg, gan mwyaf (er bod teledu Cymraeg y 1970au yn wych ac yn wallgo hefyd). Roedd mwyafrif y plant, er nad pawb chwaith, yn mynd i’r Ysgol Sul ac roedd y capel yn rhoi dimensiwn gwahanol i fywyd bob dydd ac yn dod â math gwahanol o Gymraeg hefyd i’n clustiau. Roedd pob un o’r pethau hyn yn bwysig.
Fel person ifanc, pwy neu beth wnaeth ddylanwadu arnat?
Mae’n anodd gwybod lle i ddechrau. Roedd cymdogion ac athrawon a chymwynaswyr pentrefol yn rhan naturiol o’r dylanwadu, heb inni sylweddoli hynny tan yn ddiweddarach, a gwerthoedd ein cynefin yn effeithio arnom bob dydd: egalitariaeth, Cymreictod, pwyslais ar addysg. Gan fod gennyf ddiddordeb mewn pobl (hynny yw, roeddwn yn fusneslyd), roedd y rhai a oedd yn ‘ddiarth’ hefyd – o ran iaith, cefndir, edrychiad neu arferion, er enghraifft – yn destun chwilfrydedd i mi ac yn gwneud i mi synfyfyrio, gan gynnig gogwydd arall ar fywyd. Roedd hynny’n ddylanwad o fath gwahanol. Pan es i ffwrdd i Loegr i’r brifysgol, roedd pobl yn meddwl mai ni fel Cymry Cymraeg oedd yn ‘ddiarth’, ac roedd hynny’n sioc.
Yn fy arddegau, roedd y sîn roc Gymraeg yn bwysig dros ben ac roedd honno’n heriol ac egniol yn y 1980au ac yn rhan o wleidyddiaeth y cyfnod. Rywsut neu’i gilydd, roeddem yn ffeindio’n ffordd i gigs gwahanol bron bob wythnos. Roedd yn adeg cynhyrfus, ac roedd ’na egni arbennig yn yr herio a’r gwthio ffiniau oedd yn ysbrydoli rhywun.
Beth yw dy ddylanwadau nawr?
Popeth a phawb. Pobl, llyfrau, rhaglenni radio a theledu, ffilmiau, celf a cherddoriaeth, syniadau… Mae ’na ddylanwadau mewnol hefyd, fel yr angen i ddeall profiadau’n llwyrach, i gydnabod gwerth pobl, neu drio rhoi anfarwoldeb i bethau. Dwi’n amau bod ofn angau ac anhrefn yn fy ysgogi’n fwy na dim, ac yn gyrru’r ysfa am ffurf a phatrymau ystyrlon wrth sgwennu.
Pryd ddest ti’n ymwybodol dy fod eisiau sgwennu, oedd unrhyw ffactorau arbennig wedi cael effaith?
Roedd gan Mam a Dad gannoedd o lyfrau yn y tŷ, ac roedden nhw’n cael lle anrhydeddus yn ein cartref. Roedd Mam yn prynu llyfrau inni ac yn eu darllen efo ni pan oeddem yn blant bach. Roedd y llyfrau’n lliwgar a deniadol (weithiau wedi eu cyfieithu o ieithoedd eraill i’r Gymraeg). Dwi’n dal i weld y darluniau hynny yn fy nghof heddiw – roedd y cyfuniad o stori a delwedd yn bwerus iawn. Roedd Mam hefyd yn mynd â ni i’r llyfrgell yng Nghaernarfon i ddewis llyfrau, ac roedd darllen cyfresi fel Y Llewod gan Dafydd Parri a Criw Crawiau gan Emily Huws yn gyffrous. Cist drysor ydi pob llyfrgell a’i chaead yn agored i bawb. Mae llyfrgelloedd mor werthfawr. Maen nhw’n wasanaeth iechyd o fath gwahanol.
Rhan o’r pleser o ddarllen oedd yr awydd i sgwennu, mae’n siŵr. Roedd yr awydd yno o’r dechrau. Roedd gennyf ddiddordeb mewn iaith a geiriau, nid y Gymraeg yn unig, ond pob iaith. Roedd fy ewythr Pavel o Tsiecoslofacia yn siarad â’i deulu dros y ffôn bob Nadolig ac roeddwn wrth fy modd yn gwrando ar sŵn ei iaith feddal a melodaidd. Peth naturiol felly oedd dechrau defnyddio iaith yn ddeunydd crai a chymryd diléit yn hynny.
Ffactor bellach oedd bod fy nhad yn sgwennu llyfrau hanes. Roeddwn wedi hen arfer gweld papurau dirifedi’n gorchuddio llawr ei stydi a’i ysgrifen fân drostyn nhw i gyd. Ac roeddwn yn gwybod y byddai’r tudalennau hynny, cyn bo hir, yn troi’n llyfr argraffedig. Profai hynny fod ysgrifennu llyfr yn rhywbeth posibl ac ymarferol: nid hud a lledrith oedd o ond canlyniad i waith caled – a chryn dipyn o flerwch. A dyna ydi o o hyd.
Dywed ychydig am Nelan a Bo, o ble ddaeth yr ysbrydoliaeth, a beth wyt ti’n gobeithio bydd darllenwyr yn gael o’r stori hon…
Y pleser o gael fy magu ym Methel oedd prif ysgogiad Nelan a Bo. Fel llawer o bentrefi ar hyd a lled Cymru, mi dyfodd y pentref yn sgil diwydiannaeth ac anghydffurfiaeth o gwmpas y flwyddyn 1800. Yn achos Bethel, mi dyfodd gwareiddiad cyfan allan o ddarn o rostir digon llwm. (Yn ôl y Censws diwethaf, dyma un o bentrefi mwyaf Cymraeg Cymru hyd heddiw.) Roeddwn eisiau archwilio sut roedd y tyfu hwnnw wedi digwydd, ac yn fwy penodol, sut roedd y newid hwnnw’n teimlo i bobl ar y pryd. Mae Nelan a Bo, dau unigolyn arbennig sy’n ffrindiau gorau ar ddechrau’r nofel, yn mynd trwy’r gweddnewidiad hwn yn eu bywydau eu hunain.
Mi fyddwn i’n gobeithio bod y nofel yn help inni ddychmygu profiadau Cymry’r gorffennol, ac yn rhoi dealltwriaeth inni o rai agweddau ar ein cymdeithas gyfoes, gan gynnwys straeon ysgubol ein capeli anghofiedig.
Beth yw dy hoff genres darllen, a pha lyfrau wyt yn darllen ar hyn o bryd?
Dwi’n darllen pob math o bethau, yn ffaith a ffuglen, ac wrth fy modd yn darllen (trwy gyfieithiadau) lyfrau gan awduron o bedwar ban byd. Mi fedrwch chi deithio ymhob ystyr trwy lyfrau: teithio trwy wledydd a diwylliannau gwahanol, teithio trwy amser, teithio trwy syniadau a dychymyg a phrofiadau pobl eraill. Does yna ddim ffiniau. Hyd yn oed yng nghanol caethiwed Covid 19, roedd yna ryddid dychymyg i’w gael wrth ddarllen. Mae meddwl am fyd heb lyfrau’n frawychus.
Yn ddiweddar, dwi wedi bod yn darllen nofelau o Japan ac wedi dod i nabod y wlad honno trwy ei llenyddiaeth. Mae ’na nofel gan Yukio Mishima am gymuned o bysgotwyr perlau sy’n byw ar ynys fechan yn y Môr Tawel. Ei theitl Saesneg yw The Sound of Waves. Roedd darllen honno’n brofiad cofiadwy, ac mae ei symlrwydd a’i hud wedi aros efo fi.
Rho ddyfyniad sydd wrth wraidd dy fywyd di …
Does yna ddim un dyfyniad, ond mae ’na linellau o farddoniaeth neu ganeuon yn dod i fy meddwl ar yr adegau rhyfeddaf a’r rheiny wedi angori yn fy nghof, weithiau heb imi sylweddoli eu bod yno yn y lle cyntaf. Mae hynny’n dangos pa mor rymus y gall cyfosodiadau geiriau (neu ‘ddyfyniadau’) fod – maen nhw’n treiddio i ddyfnder ein bod ni.
Diolch Angharad.
Cyhoeddwyd Nelan a Bo ym mis Tachwedd gan Y Lolfa.
Lawrlwythwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur a dysgwch hefyd am ein Hawduron y Mis eraill yn ‘sgwennu’n y Gymraeg