Angharad Tomos

 

Mae Angharad Tomos yn awdur nifer helaeth o lyfrau i oedolion a phlant, wedi ennill Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith a Gwobr Tir na n-Og ddwywaith. Mae ei gwreiddiau’n ddwfn yn Nyffryn Nantlle, ac mae’n wyres i’r Sosialydd David Thomas, sy’n gymeriad blaenllaw yn ei nofel diweddaraf, Arlwy’r Sêr. Cynnyrch y Cyfnod Clo ydyw, a ffrwyth blynyddoedd o waith ymchwil.

Bardd, athro, a Sosialydd o Ddyffryn Nantlle oedd Silyn. Un o Gymry Llundain oedd Mary Parry, arian byw o ferch, trefnydd heb ei hail, ac awen Silyn. Dyma stori eu dyfod ynghyd a sut y cydweithiodd y ddau i ymgyrchu dros addysg i bobl gyffredin. Yn yr oes anwadal hon, mae Arlwy’r Ser yn chwedl i godi’r galon a’n hysbrydoli i gredu fod modd gwireddu breuddwydion.

 

Clawr blaen Arlwy'r Ser

 

Angharad, Diolch o galon am gytuno i fod yn Awdur y Mis Llyfrgelloedd Cymru, a llongyfarchiadau mawr ar gyhoeddi Arlwy’r Sêr. Beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu’r nofel a dywedwch ychydig am y stori…

Stori wir ydi hi am y bardd Silyn o Ddyffryn Nantlle, a Mary Silyn ei wraig. Sgwennodd fy nhaid gofiant Silyn, a meddyliais sgwennu cofiant Mary, ond trodd yn nofel. Fe’u ganed tua ddiwedd y G19, ac mae’n nofel sy’n cwmpasu canrif. Stori garu ydyw am Sosialwyr wnaeth gymaint dros addysg y gweithwyr. Maent yn fy ysbrydoli.

Pam rydych chi’n ysgrifennu?

Mwynhau gwneud ydw i, yn enwedig unwaith rydw i wedi cael stori dda. Dwi wrth fy modd yn darllen beth mae eraill wedi ei sgwennu, ac yn hoff o wylio ffilmiau. Dwi wrth fy modd efo straeon pobl o bob math.

Beth sy’n eich ysbrydoli?

Pobl… syniadau… hanes… sut mae rhai wedi newid hanes, sut mae rhai wedi goroesi digwyddiadau… sut mae rhywrai yn trechu rhwystrau fil, ac eraill yn cael eu llethu gan y peth lleiaf.  Amrywiaeth dynoliaeth, debyg.

Sut oeddech chi’n gwybod eich bod eisiau bod yn awdur a phryd ddaethoch yn ymwybodol o hyn?

Fethais i gael fy nghyflogi gan neb (ar wahan i Gymdeithas yr Iaith), felly nes i ddal ati i wneud rhywbeth ron i wedi ei wneud erioed, sef sgwennu a thynnu lluniau.

Dywedwch ychydig am y cyfryngau artistig eraill ydych chi’n eu mwynhau…

Dwi wedi tynnu’r lluniau ar gyfer cyfres Rwdlan i gyd. A dweud y gwir, dwi wrth fy modd gwneud gwaith llaw, ac wedi rhoi cynnig ar bob math o wahanol bethau.

Pwy yw rhai o’r awduron rydych chi’n eu hedmygu?

Elena Ferrante, Emyr Humphreys, Isabel Allende ac unrhyw beth gan T.H.Parry Williams.

 

 

Beth yw eich proses ysgrifennu?

Cael rhyw syniad, gwirioni’n lân ar hwnnw, a dyna fydd yn cymryd fy sylw yn llwyr wedyn, ddydd a nos, nes bod y chwiw yn mynd. Ymweld â llefydd, darllen, ymchwilio, siarad efo pobl, yna sgwennu’n ddi-baid nes ei gael allan o’m system.

Pa lyfrau rydych yn darllen ar hyn o bryd?

Cofiant Jim Griffiths, Pijin, a hanes bywyd Daphne du Maurier sydd ar fy silff wythnos yma.

Llun clawr Pijin

Pa gyngor y byddech chi’n ei roi i’ch hunan yn iau?

Paid a gwrando ar bobl hŷn!

Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnoch drwy eich bywyd?

     Roedd gen i ofn fy llyfrgell yn fach gan mod i wastad yn colli llyfrau, ond dwi’n mwynhau eu defnyddio yn awr. Mae’r staff ym Mhenygroes a Chaernarfon yn wych am ddod o hyd i lyfrau i mi. Dwi’n casau y duedd newydd lle mae modd gadael eich llyfr neu gymryd un newydd drwy wasanaeth peiriant. Mae’n newid trist iawn sy’n tlodi cymdeithas.

Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau er mwyn annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?

Mae cael ysgolion i fynd a phlant i lyfrgell o oedran cynnar yn bwysig, a chael sesiwn adrodd straeon yn yr ysgol a chyfnod tawel i ddarllen. Rhwng tua 12-15, ddarllenais i fawr, ond os oedd rhywun yn dweud wrthyf fod llyfr yn rhy henaidd neu yn ‘anaddas’, byddwn yn siwr o ddarllen hwnnw!

A oes gennych unrhyw gynlluniau ar gyfer teitlau pellach?

Mae pob math o syniadau yn ffrwtian yn fy mhen, rhai ers blynyddoedd. Mater o weld be ddaw ydyw…

Cyhoeddwyd Arlwy’r Sêr ym Mawrth 2023 gan Gwasg Carreg Gwalch (Twitter @CarregGwalch)

Darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur sy’n cyflwyno’r awdur ac Arlwy’r Sêr.

Darllenwch am ein Hawduron y Mis  eraill yn ‘sgwennu’n y Gymraeg

Cookie Settings