Branwen Davies

 

Mae Branwen Davies yn ferch o Ddyffryn Teifi ac mae hi’n gweithio ym myd y cyfryngau, ar raglenni radio a theledu ffeithiol yn bennaf. Mae ganddi ddau o blant, gormod o geffylau ac un ci, a’r rhain sy’n mynd â’i hamser rhydd, ei hegni a’i harian!   

Mae ei nofel newydd Sblash!  i’r arddegwyr cynnar, ac yn trafod tyfu i fyny mewn byd sy’n gallu bod yn anodd wrth i’r corff a’r emosiynau newid. Adroddir y stori drwy lygaid Beca, sy’n dysgu i ymdopi gyda’i harddegau a gwerthfawrogi ei chorff, ei ffrindiau a’i thalentau.

Mae corff Beca yn destun sbort i nifer o’i chyfoedion yn yr ysgol – yn enwedig i Siwan. Mae Beca’n gwybod yn well nag unrhyw un ei bod hi’n lletchwith a thrwsgl, ond yr hyn nad yw’r mwyafrif o bobol yn gwybod yw bod corff Beca yn wahanol iawn mewn pwll nofio.  Yn y dŵr mae hi’n chwim, yn gryf ac yn osgeiddig.  Mae Beca’n hapus i gadw ei chyfrinach a chadw draw oddi wrth Siwan, ond pan mae’r ddau fyd yn gwrthdaro, does dim modd i Beca guddio rhagor, ac mae ei chyfrinach yn cael ei ddatgelu mewn ffordd greulon ac annheg.  Ydy Beca’n gallu achub ei chariad at nofio a’i ffydd ynddi hi ei hun?   

Diolch i Branwen am rannu’r ysbrydoliaeth y tu ol i’w nofel newydd arbennig yn ddiweddar…

Dywedwch ychydig am eich llyfr newydd …

Llyfr am dyfu lan, yr arddegau, ffrindiau, perthnasau yn yr ysgol, a chyrff pobl ifanc yn eu harddegau.

Llun Clawr Sblash!

 

Oedd unrhyw heriau arbennig wrth baratoi’r llyfr?

Dim wir ond mi roeddwn i yn poeni am adlewyrchu bywyd pobl ifanc yn eu harddegau heddiw yn gywir – mae’n amser hiiiiiiir ers i fi fod yn fy arddegau ac mae fy mhlant i yn iau na hynny felly does gennai ddim profiad uniongyrchol o’r teen cyfoes!  Mae cymaint wedi newid ers fy amser i yn yr ysgol – y rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol yn bennaf wrth gwrs – ond yn y bôn dwi’n meddwl bod y teimladau craidd, yr emosiynau, yr hyn sy’n gwneud ni’n drist, yr hyn sy’n gwneud ni boeni, a’r hyn sy’n gwneud ni chwerthin,  yn aros yr un peth o un cenhedlaeth i’r llall. Dwi’n gobeitho ‘ta be!

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau ysgrifennu?

Dwi ddim yn siwr iawn.  Yn sicr roedd fy mhrofiad i o dyfu lan yn rhan o’r ysbrydoliaeth – ro’n ni’n blentyn eitha’ tew ac fe wnaeth sawl peth ddigwydd yn ystod fy amser yn yr ysgol, enwedig rhwng tua oed 8 a 12, sydd wedi aros gyda fi ac wedi dylanwadau ar y ffordd rwy’n gweld fy hun tan heddiw a dweud y gwir. Roedd hyn yn cynnwys pethau roedd pobol yn ddweud neu’n ymddwyn, a hynny yn oedolion yn ogystal â phlant – pobol yn gwneud barn camsyniadau amdanai ar sail fy siap yn unig.  Hyn oedd wrth wraidd ysgrifennu Sblash dwi’n meddwl.  S’gennai ddim talent Beca yn anffodus fodd bynnag!

O ble ydych chi’n cael eich ysbrydoliaeth?

Eto, dwi ddim yn siwr wir.  O bob man dwi’n meddwl – profiad personol, fel yr uchod, ond hefyd dwi’n dwli busnesu ar fywyd eraill (ac yn ym mywyd pob dydd ym myd teledu a radio dwi’n cael y fraint o wneud hynny fel gwaith) a dwi’n credu bod hynny’n ran o’r ysbrydoliaeth a rwy’n gobeithio, o hynny, mod i’n gallu creu cymeriadau weddol gredadwy a real. 

Pe bai’n rhaid i chi ddisgrifio eich hun mewn tri gair yn unig, beth fyddai’r rheini?

Anniben, cydwybodol, di-flewyn-ar-dafod (mae’r heiffenau yn gwneud hwn yn un gair, rwy’n siwr!). 

Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc?

Llyfrau T. Llew yn amlwg – pa blentyn ysgol yn yr 80au yng Nghymru fyddai yn anghytuno?! Ro’n un am llyfrau y Famous Five hefyd – oh am gael berchen ar ynys!  Dwi’n hoffi ceffylau ac yn marchogaeth ac ro’n ni’n dwli ar unrhyw lyfr am geffylau, rhai ffeithiol ac hefyd nofelau fel Black Beauty, Y Merlyn Du (T.Llew eto!), a llyfrau y chwiorydd Pullein-Thompson (oedd yn lyfrau am blant posh yn mynd i Pony Club ag ati mewn pentrefi ‘quintessential’ o Seisnig – felly braidd yn wahanol i’m mhlentyndod i!).  Roedd y dewis yn y Gymraeg braidd yn gyfyng efallai ac ychydig yn hen ffasiwn – ond dwi’n cofio llyfrau Jabas a Tydi Bywyd yn Boen yn cael eu cyhoeddi a pethe’n newid. 

Fy hoff lyfr yn blentyn bach oedd llyfr o’r ysgol o’r enw Crwndi’n Dysgu Cyfri (dyna dwi’n cofio ‘ta be) ond dwi wedi methu dod o hyd i hen gopi ar gyfer fy mhlant i yn anffodus!

O, mi wnaeth mam hefyd ysgrifennu llyfr fel rhan o’r gyfres Dewch i… pan oeddwn i tua 9 – Dewch i Farchogaeth (chi’n gweld thema?!) ac mi roedd hynny yn ysbrydoliaeth i mi i weld mam yn ysgrifennu llyfr (yn enwedig llyfr am fy hoff beth!).

 

Llun clawr y Merlyn Du

 

Pa lyfr sydd ar eich bwrdd wrth ochr y gwely ar hyn o bryd?

Gwarth gennai ddweud bod ddim un ar hyn o bryd!  Mae gwaith wedi bod yn fishi a dyddiau yma rwy’n mynd drwy adegau, ‘phases’ gyda darllen; am fisoedd wnai ddim darllen unrhywbeth ac wedyn fe wnai ddarllen sawl un mewn cyfnod byr iawn.  Ond fel mam sy’n gweithio llawn-amser ac sydd hefyd dal i gadw ceffylau mae cael yr amser a’r egni meddyliol i ddarllen yn anodd (a phan rwy’ yn darllen, dwi’n dueddol o ddarllen rhywbeth ysgafn, hawdd darllen, sy’n codi’r galon  – dwi’n casau y term, ond chic lit all the way!).

Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnoch drwy eich bywyd?

Wrth dyfu lan doeddwn i ddim yn dueddol o fenthyca o lyfrgelloedd.  Ond yn y coleg yn gwneud fy ngradd mi wnes i wario oriau yn ymchwilio, yn ysgrifennu traethodau ac yn adolygu – ac rwy’n cofio gwario amser yn y Llyfrgell Genedlaethol yn ymchwilio ar gyfer fy nhraethawd hir am ddigartrefedd…ar y pryd roedd adegau o hynny yn teimlo fel gwaith caled ac yn slog…ond o edrych nôl nawr, o am gael yr amser a’r rhyddid i wario wythnosau mewn llyfrgell yn darllen a dysgu a dadansoddi!

 

National Library of Wales

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth

 

Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau er mwyn annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?

Dyw e ddim yn rhwydd dwi ddim yn meddwl – ac fel mam i blant ifanc dwi’n credu bod ffactorau fel y pandemig wedi effeithio ar bob math o bethau sy’n ymwneud â hyn, gan gynnwys safon addysgiadol plant, dibynniaeth ar sgrîn, trefn y cartref (y routine dyddiol), y rhaniad rhwng gwaith a chartref i riant, ayyb.  Un peth sy’n bositif yw faint mwy o ddewis o lyfrau sydd ar gael dyddiau yma – mae rhywbeth at flas pawb (er, weithiau efallai bod gormod o ddewis yn gwneud hi’n anodd gwybod lle i ddechrau!). 

Dwi’n credu uwchben dim bod angen cydnabod bod pob un plentyn yn wahanol a does dim ots pa ‘safon’ neu fath o lyfrau mae nhw’n ddarllen – er enghraifft, mae fy mab yn un am ffeithiau ac yn gweld y byd mewn ffordd hollol rhesymegol, felly dyw e wir ddim yn gweld y pwynt o straeon y dychymyg.  Mae’n ferch ar y llaw arall yn fwndel o ddychymyg, ddydd a nos!  I ni gyd yn wahanol ac ry’n ni gyd yn cael pleser o bethau gwahanol ac yn dod at bethau, fel llyfrau, ar adegau gwahanol.

A oes gennych unrhyw gynlluniau ar gyfer teitlau pellach?

Bydden ni’n dwli gwneud – ac a dweud y gwir mi ges i ysbrydoliaeth am lyfr arall i blant tra allan yn gweithio ar brosiect arall ddoe felly mae hwnnw’n dechrau corddi.  Mae hefyd gennai syniad am lyfr i oedolion (un doniol) – un sy’n mynd nôl â ni i gyfnod arbennig ein harddegau ac ugeiniau yn y 90au.  Ma’n ffrindiau i’n galw fi’n Bridget Jones felly falle gallwch chi ddychmygu!

Dwi ddim yn ystyried fy hun yn awdur o gwbwl fodd bynnag ac yn gweld hi’n fraint o’r mwyaf fy mod wedi cael cyfle i gyhoeddi, ac yn hynod ddiolchgar i bawb sy’n cymryd yr amser i ddarllen.

Cyhoeddwyd Sblash!  yn Hydref 2022 gan Y Lolfa (Twitter @YLolfa)

Darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur sy’n cyflwyno’r awdur a Rhyngom.

Darllenwch am ein Hawduron y Mis  eraill yn ‘sgwennu’n y Gymraeg

 

Cookie Settings