Daf James
Tachwedd 1, 2023
Un o ddramodwyr, sgriptwyr, cyfansoddwyr a pherfformwyr amlycaf Cymru yw Daf James. Yn ogystal â phortreadu’r cymeriad cerddorol ‘Sue’, fe yw awdur y dramâu arloesol Llwyth a Tylwyth. Bydd ei gyfres ddrama Lost Boys and Fairies yn cael ei darlledu ar BBC1 yn 2024. Mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i ŵr a’u tri plentyn.
Bydd ei nofel gyntaf Jac a’r Angel yn cyhoeddi’r mis yma gyda’r Lolfa. Stori ffantasi ydyw i blant sy’n plethu ac yn gwyrdroi elfennau traddodiadol y Nadolig.
“Nofel hudolus, deimladwy sy’n llawn gobaith. Anrheg o stori yw hon i ni’r darllenwyr” – Jon Gower.
Mae Jac yn byw ym mhentref bach Bethlehem gyda’i dad-cu, ond mae’r Nadolig wedi ei ganslo ar yr aelwyd eleni. Felly pan ffrwydra angel allan o galendr adfent ei fam, a chynnig dymuiniad iddo, mae’n edrych fel petai’r rhod yn troi. Ei ddymuniad? Cael chwarae rhan Mair yn sioe Nadolig yr ysgol.
Ond pan mae’r Nadolig yn dechrau diflannu o’i gwmpas, a theulu’r Heroniaid yn chwalu ei gynlluniau, mae Jac yn gwneud darganfyddiad a fydd yn newid ei fyd – a’r Nadoig – am byth.
Llongyfarchiadau enfawr Daf! Rho ychydig o dy gefndir inni – magwraeth, addysg…
Ges i ’ngeni yng Nghaerdydd yn Ysbyty Dewi Sant ar Ddydd Gŵyl Dewi! Cefais fy magu yn y Bontfaen ac es i Ysgol Iolo Morganwg. Yna, es i Ysgol Glantaf, cyn mynd ymlaen i astudio Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caeredin lle ges i’r cyfle i ganolbwyntio ar Astudiaethau Theatr ac Astudiaethau Cwiar; felly co fi’n penderfynu gwneud doethuriaeth yn cyfuno’r pynciau yma ym Mhrifysgol Warwick. Wrth astudio’n rhan amser, bues i hefyd yn hyfforddi fel perfformiwr creadigol yn y London International School of Performing Arts- ysgol o’dd yn arbenigo mewn theatr gorfforol a dulliau Jacques Lecoq. Ro’n nhw’n flynyddoedd ffurfiannol ond intense ofnadwy! Dyna pryd sgwennes i fy nrama gyntaf a sylweddoli (ar ôl 26 mlynedd) fy mod i am fod yn ddramodydd. Gwell hwyr na hwyrach!
Pa ddylanwadau ac atgofion oedd yn sefyll allan yn dy blentyndod?
O ran llyfrau, u’n o’m hoff atgofion o’dd aros gyda Mam-gu a Dad-cu yn y Bala a chael mynd i siop Awen Meirion i brynu llyfr newydd sbon i’w ddarllen. O’n i’n dwlu ar lyfrau Irma Chilton a Gwenno Hywyn.
Dwi’n cofio clywed cân ‘Y Cwm’ am y tro cyntaf gan swog yn canu’r piano yng ngwersyll Llangrannog a mynd yn obsessed. Bron mor obsessed ag o’n i gyda’r ffilm Y Dyn’ Nath Ddwyn y Dolig gan Hywel Gwynfryn a Caryl Parry Jones. Ro’n i’n arfer gwylio hi ar y VHS bob bore cyn mynd i’r ysgol gan nodi lawr geiriau caneuon fel bo fi’n gallu mynd a’u canu nhw yn ystod amser egwyl ar y delyn!
Cafodd pasiantau Ysgol Iolo Morganwg ddylanwad mawr arna i hefyd. Dyna le ddysges i am hanes cyfieithu’r Beibl ac am Iolo Morganwg. Roedd Siân Ellis, partner fy athrawes Mrs Sanders, bob tro yn sgwennu’r sgriptiau. Roedd hi’n grefftus yn creu geiriau i’r caneuon ar alawon anhygoel gan Y Beatles a llu o felodïau cyfoes gwych eraill fel Caravans gan Barbara Dickson neu I Know Him So Well o’r sioe gerdd Chess. Yn ogystal â dysgu hanes felly, ro’n i hefyd yn dysgu sut i ddweud stori ar ffurf theatrig, yn ogystal â phŵer cerddoriaeth a melodi.
Fel person ifanc, pwy neu beth wnaeth ddylanwadu arnat? Miwsig, enwogion, rhaglenni teledu, llyfrau, cylchgronau, pobl yn dy fywyd bob dydd…
Dwi’n fwngrel diwylliannol ac felly mae fy nylanwadau’n eang!
Athrawon: Carys Whelan yn Ysgol Iolo; Alun Guy, Delyth Medi, yr Adran Saesneg a’r Adran Gymraeg yn Ysgol Glantaf. Yr Athro Baz Kershaw, ym Mhrifysgol Warwick, ’nath ddysgu i mi, yn fwy na neb, am rym geiriau. Hefyd mawr fy niolch i Amy Russell (LISPA), Elen Bowman ac Arwel Gruffydd. Hebddynt, ni fydden i wedi bod yn ddramodydd.
Artistiaid: Huw Chiswell; Ryan Davies; Hywel Gwynfryn; Caryl Parry Jones; Victoria Wood.
Mae ’na elfen dywyll i’m gwaith weithiau a dwi’n beio’r addasiad teledu o nofel J. Selwyn Lloyd, Gwaed ar y Dagrau, am hyn. Cafodd ei ddarlledu yn yr 80au. Cefais hunllefau am fisoedd wedi gweld dyn yn cael ei lofruddio a gwaed yn tywallt o’i geg ar ‘freeze-frame’ a doli Y Frenhines Marie-Antoinette yn cael ei dienyddio. A hyn oll ar S4C cyn amser te! Es i mewn i archif y BBC gyda’r dramodydd a’r cynhyrchydd Angharad Elen yn ddiweddar i weld os mai dychmygu’r cyfan wnaethon ni – ond na. Roedd rhaglenni plant yr 80au yn arswydus ac yn drawmatig!
Cafodd cerddi WJ Gruffydd a Waldo ddylanwad mawr arna i yn yr ysgol, yn ogystal â’r nofel Un Nos Ola Leuad a’r ffilmiau Hedd Wyn a Nel.
O ran dramâu cynnar: Wyneb yn Wyneb; Cat on a Hot Tin Roof; dramâu Brecht; dramâu Frantic Assembly; a’r holl ddramâu wylies i tra’n gweithio yn theatr y Traverse, Caeredin.
Nofelau gan C S Lewis a Roald Dahl, yn ogystal â At Swim, Two Boys; His Dark Materials; The Catcher in the Rye; To Kill a Mockingbird; Wuthering Heights (y nofel a chân Kate Bush!).
Y gyfres deledu This Life.
Y ffilmiau Donnie Darko ac It’s a Wonderful Life.
Miwsig gan The Beatles; The Divine Comedy; Erasure; Kids from ‘Fame’; Mahler; Rachmaninoff; y sioe gerdd Rent; R.E.M; Rufus Wainwright a The Immaculate Collection gan Madonna!
Dwi’n anffyddiwr ond mae straeon a mytholeg y Beibl – yr Engyl a Satan – yn rhan annatod o’m hisymwybod, yn ogystal â melodïau a harmonïau ein hemynau. Maen nhw’n bobman yn fy ngwaith.
Ar hap, fe ddois i ar draws llyfr o’r enw Foucault and Queer Theory gan Tamsin Spargo pan o’n i’n fyfyriwr, wnaeth fy arwain at The History of Sexuality gan Foucault, ac yna gwaith Judith Butler sy’n sgwennu am ryw a rhywedd. Tua’r un cyfnod fe ddarllenais i Angels in America gan Tony Kushner am y tro cyntaf- d’on i erioed wedi darllen dim byd tebyg. Mae hi’n ddrama epig mewn dwy ran sy’n archwilio’r hunaniaeth hoyw a’r epidemig AIDS a hynny trwy brism gwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau. Mae’n hollol theatraidd a hudolus- mae’n cyfuno magic realism, hiwmor ac emosiwn â dadansoddiad gwleidyddol treiddgar. Mae wedi cael dylanwad pellgyrhaeddol arnaf i ac yn dal i wneud. Dysgodd hon gymaint i mi am holl bosibiliadau theatr.
Heb Foucault and Queer Theory ac Angels in America siawns na fyddwn i wedi gwneud doethuriaeth na sgwennu Llwyth, Tylwyth, Jac a’r Angel, na Lost Boys and Fairies fydd ar BBC One flwyddyn nesa.
Beth yw dy ddylanwadau nawr?
Theatr: Annie Baker; Taylor Mac; Arthur Miller; Tim Minchin; Kae Tempest.
Llyfrau: Jonathan Franzen; Katherine May; Mike Parker; Elizabeth Strout.
Teledu: Russel T. Davies; Sally Wainwright a’r cyfresi I May Destroy You a The Leftovers.
Comedi: Hannah Gadsby: Nanette.
Cerddoriaeth: Sufjan Stevens a Rogue Jones (Bethan Mai yw darlunydd fy nofel! Dwi mor chuffed bo nhw wedi ennill y wobr Gerddoriaeth Gymreig. Maen nhw’n hollol unigryw).
Wythnos diwethaf weles i’r ffilm Women Talking. Wow. Sgen i ddim y geiriau i grisialu mawredd y ffilm yma.
Dwi hefyd yn ffan mawr o Jon Gower a Non Parry felly o’n i wrth fy modd bo nhw wedi cytuno i ddarllen y nofel cyn iddi gael ei chyhoeddi.
Pryd ddest ti’n ymwybodol dy fod eisiau sgwennu, oedd unrhyw ffactorau arbennig wedi cael effaith?
Cyn gynted ag o’n i’n gallu sgwennu brawddegau fe ddechreues i sgwennu.
O’n i itha morbid fel plentyn felly o’n i’n aml yn sgwennu am farwolaeth! Neu yn ail-sgwennu geiriau i ganeuon poblogaidd, neu gerddi a straeon byrion.
Actor o’n i wastad ishe bod tan i fi sgwennu fy nrama gyntaf. Yna sylweddoli, wrth ddychmygu fy hunan mewn cyfres deledu neu ffilm neu ddrama yn y gorffennol, ro’n i wastad wedi bod yn sgwennu dramâu ym myd fy nychymyg.
I mi, dwi’n dwlu ar greu stori a dwi wrth fy modd yn archwilio cyfryngau gwahanol i wneud hynny, boed yn ddrama, yn gyfres deledu, yn sioe gerdd neu’n nofel.
Beth yw dy hoff genres darllen, a pha lyfrau wyt yn darllen ar hyn o bryd?
Dwi’n licio pob math o lyfrau.
Dwi newydd orffen Lucy by the Sea gan Elizabeth Strout. O’n i wrth fy modd gyda Olive Kitteridge a wnes i ddotio ar hon hefyd. Mae ei sgwennu mor gynnil ac mae ei chymeriadu’n wych.
Ar hyn o bryd dwi’n darllen Crossroads gan Jonathan Franzen a Strong Female Character gan Fern Brady.
Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnot yn ystod dy fywyd?
O’n i’n caru llyfrgell y Bontfaen. Des i’n ffrindiau mawr gyda’r llyfrgellydd, Mrs Simmester, o’dd yn byw ar ein stryd- roedd hi’n arfer helpu fi i ddewis llyfrau. Dwi’n cofio gweld hysbyseb am grŵp barddoniaeth o’dd yn cwrdd yno ac mi es ati i sgwennu dwy gerdd i’w darllen iddynt, a mam druan yn gorfod mynd â fi yno’n blentyn bach precocious ac ecsentrig i rannu fy ngwaith gyda’r oedolion.
O’n i hefyd yn dwlu ar lyfrgell Prifysgol Caeredin a’r British Library. Un o’m hoff lefydd i yn y byd yw’r British Library a dwi nawr yn gutted nad ydw i’n byw yn agosach at Aberystwyth fel bo fi’n gallu mynd i weithio yn ein Llyfrgell Genedlaethol ni. Mae llyfrgelloedd tawel yn llefydd cyfriniol i mi.
Pa awgrymiadau sydd gyda ti i annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?
Dwi’n dwlu ar y dyfyniad yma gan gymeriad Roald Dahl, Matilda, yn y ffilm sydd wedi ei haddasu o’r nofel: ‘What I really like is reading. It’s like a holiday in your head’. Dyna o’dd darllen i fi yn blentyn. Mae mor bwysig bo ni’n darparu testunau sy’n adlewyrchu profiadau a hunaniaethau gwahanol i’n plant. Ro’n i’n aml yn teimlo’n unig yn blentyn ond ro’n i’n gallu dianc rhwng cloriau llyfrau i ddysgu am brofiadau cymeriadau a gweld nad oeddwn i ar ben fy hunan yn y byd, go iawn.
Ond nawr dwi’n dad, dwi hefyd yn gwybod nad yw’n brêns ni gyd yn gweithio yn yr un ffordd. Nid pob plentyn sy’n gallu darllen yn rhwydd; ond ma’ sawl ffordd o ddysgu am bŵer iaith, grym straeon ac empathi. Felly os y’ch chi’n stryglan â nofelau, fedrwch chi hefyd ddysgu drwy wrando ar straeon, hala negeseuon testun, chwarae gemau cyfrifiadur, a darllen isdeitlau Netflix!
Dywed ychydig am Jac a’r Angel, o ble ddaeth yr ysbrydoliaeth, a beth wyt ti’n gobeithio bydd darllenwyr yn gael o’r stori hon…
Bues i’n gweithio ar stori’r nofel fel sgript am gyfnod cyn troi hi’n nofel (dwi dal yn meddwl y byddai’n gwneud ffilm dda). Mae’n nofel am fachgen o’r enw Jac sy’n byw gyda’i Dad-cu mewn pentref dychmygus o’r enw Bethlehem, ond mae’r Nadolig wedi ei ganslo ar yr aelwyd eleni ar ôl marwolaeth ei fam y llynedd. Mae pethau’n o ddu tan i angel ffrwydro o galendr Adfent hudolus ei fam a chynnig dymuniad iddo. Dymuniad Jac? Cael chwarae rhan Mair yn y sioe Nadolig …
Pan o’n i’n tyfu lan, roedd cynrychiolaeth LHDTC+ yn y Gymraeg yn brin ac yn aml roedd yn gynrychiolaeth negyddol. Sgwennes i Llwyth am nad o’n i wedi gweld fy hunaniaeth na’m profiad personol wedi eu cynrychioli yn y Gymraeg. Erbyn hyn mae pethau’n wahanol, diolch byth! Mae Curiadau, blodeugerdd LHDTC + sydd newydd ei chyhoeddi, yn ddathliad ffantastig o hynny.
Am wn i, sgwennes i’r nofel i’r Daf bach ecsentrig, cwiar hwnnw o’dd yn darllen cerddi yn ei lyfrgell leol i oedolion ac yn caru’r Dyn Nath Ddwyn y Dolig (mae ’na gwpwl o ‘nods’ bach i ddylanwad honno ar y nofel). Bydde fe wedi dwlu cael darllen llyfr hudolus yn y Gymraeg am fachgen bach sydd ishe chwarae Mair.
Mae’n nofel ffantasi sy’n plethu ac yn gwyrdroi elfennau traddodiadol y Nadolig. Yn ogystal â’r angel, mae’r stori hefyd yn cynnwys Boneddiges Eira, Camel sy’n hedfan, pensiynwyr sy’n troi’n geirw, teulu o fugeiliaid, tair brenhines drag ddoeth a Siôn Corn wrth gwrs. Ac mae Jac yn eu harwain oll i orchfygu teulu cas yr Heroniaid ac achub y Nadolig! Mae’n stori ddoniol, emosiynol a gorfoleddus am fachgen a’i ysbryd anorchfygol, sy’n dysgu sut i ddefnyddio grym ei ddychymyg i oleuo’r tywyllwch.
Gyda 24 pennod – un ar gyfer bob un o ddiwrnodau’r Adfent – dwi hefyd yn gobeithio bydd y nofel yn cynnig traddodiad newydd i blant Cymru.
Rho ddyfyniad sydd wrth wraidd dy fywyd di…
Dechrau wrth dy draed.
Mae’n help ym mhob argyfwng- pan mae’r byd wedi mynd yn drech na fi, pan dwi’n dechrau prosiect newydd, neu pan ma ishe golchi’r llestri ac mae’r tŷ mewn mess!
Bydd Jac a’r Angel yn cyhoeddi 13 Tachwedd gyda’r Lolfa.
Darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur ac am ein Hawduron y Mis eraill yn ‘sgwennu’n y Gymraeg