Ffion Emlyn
Ebrill 10, 2024
Yn wreiddiol o Feddgelert, treuliodd Ffion gyfnodau yn byw yng Nghaerdydd a Chaernarfon a theithio ychydig o’r byd cyn dychwelyd i bentref y ci enwog. Fe wnaeth fwynhau gyrfa ym myd y theatr cyn ymuno â’r BBC i weithio fel cynhyrchydd radio gyda chyfnodau fel cynhyrchydd stori a golygydd sgript ar wahanol raglenni’r BBC. Mae hi yno bellach ers ugain mlynedd.
Pen-blwydd Hapus? yw nofel gyntaf Ffion. Ar ddiwrnod ei phen-blwydd yn 32 mlwydd oed mae Martha yn cael anrheg arbennig iawn gan ei rhieni. Mae’r newyddion yn ei gyrru hi ar daith fydd yn newid ei bywyd am byth. Mae’r gomedi dywyll hon yn dilyn ei siwrnai mewn bws i Lundain, ar goll yng nghefn gwlad Caerfyrddin, wrth iddi guddio mewn camperfan ar draeth ym Mhorthmadog a chyfaddef i lofruddiaeth.
Llongyfarchiadau Ffion ar gyhoeddi Penblwydd Hapus? ac am gytuno i ateb rhai cwestiynau inni… Rho ychydig o dy gefndir inni…
Ges i fy magu ym Meddgelert a mynd i ysgol gynradd y pentref, wedyn i Ysgol Eifionydd, Porthmadog ac ymlaen i Goleg y Drindod Caerfyrddin i astudio theatr. Mi dreuliais i gyfnod yn yr Unol Daleithiau yn astudio cyfarwyddo (a theithio’r wlad).
Mi oedd Mam yn rhedeg gwesty bach ac mi oedd hi’n gweithio’n galed iawn. Oherwydd hynny ges i lot fawr o ryddid fel plentyn ac mi o’n i’n annibynnol iawn. Mi oedd Dad yn hŷn na Mam ac wedi ymddeol pam oeddwn yn fy arddegau, felly mi oeddwn yn treulio dipyn o amser efo Dad a mi ges i fagwraeth hapus iawn. Mi wnes i fwynhau’r brifysgol yn fawr – mi ges i brofiadau gwych yn sgwennu, actio, cyfarwyddo a goleuo. Wedi hynny, mi fues i’n byw yn y Gogledd ac yng Nghaerdydd, yn ddibynnol ar waith llawrydd yn actio, sgwennu a chyfarwyddo i gwmnïau theatr. Pan o’n i’n drideg oed wnes i ddod yn ôl i Gaernarfon. Erbyn hyn rwy’n gweithio i’r BBC ers tua ugain mlynedd ac yn byw ym Meddgelert. Rwy wedi gweithio fel golygydd sgript a chynhyrchydd ar nifer o operâu sebon, fel Eileen/Rhydeglwys, Pobol y Cwm, Casualty a nifer o ddramâu a chomedïau radio, ac fel cynhyrchydd rhaglenni cyffredinol i Radio Cymru.
Pa ddylanwadau ac atgofion oedd yn sefyll allan yn dy blentyndod?
Mi oedd creu a pherfformio yn rhan naturiol iawn o fy magwraeth. Mi oedd Mam yn ysgrifennu sgetsys bach a ni’r plant yn eu perfformio i’r gymuned yn y festri. Mi oeddan ni’n cael dipyn o hwyl!
Fi oedd yr unig ferch mewn blwyddyn o 9 o hogia. Mi o’n i wrth fy modd un ai’n chwarae pêl-droed neu’n ‘perfformio’ yn y sied fach efo Marc fy ffrind gorau. Mi oedden ni’n gwybod bob gair i sioe gerdd Grease, caneuon Wham, Whitney Houston, Culture Club, Debbie Gibson a Madonna – ac wedi creu symudiadau dawns wrth gwrs. Ar y bws ysgol i’r ysgol Uwchradd mi oeddan ni wrthi eto – yn canu pob cân o albym ‘Only Yesterday’ gan y Carpenters. Dwi’n ymddiheuro rŵan i bwy bynnag oedd yn ista wrth ein hymyl ar y bws!
Mae mynd i dŷ Nain Dre yn atgof clir iawn hefyd. Mi oedd gan Nain hiwmor pryfoclyd iawn a mae gen i gof o gael cacen hadau bob tro o’n i’n mynd yno. Dim ond ar ôl i Nain farw ’nes i ddeall ei bod hi’n gwybod yn iawn mod i ddim yn hoffi’r gacen ac yn mwynhau fy ngweld i’n diodda!
Fel person ifanc, pwy neu beth wnaeth ddylanwadu arnat?
Mi o’n i’n ffan mawr o Caryl Parry Jones pan o’n i’n tyfu fyny am ei bod hi’n cynrychioli yn union be o’n i eisiau ei wneud, sef adloniant ysgafn a chreu cymeriadau doniol fel Delyth a Bethan ayb. Yn Saesneg, mi oeddwn i’n ffan enfawr o French & Saunders. Mi oedd y dair yn ferched talentog oedd yn arwain comedi i ferched ar y pryd.
O ran cerddoriaeth Gymraeg mi o’n i hefyd yn hoff iawn o Sobin a’r Smaeliaid a dwi’n cofio gorfod prynu casét arall achos mod i wedi chwarae’r cyntaf gormod. Mae ‘Tri O’r Gloch y Bore’ dal yn un o fy hoff ganeuon.
Mi o’n i mewn band am gyfnod byr iawn yn yr ysgol Uwchradd. Fi oedd yn chwarae’r gitâr a dwi’n cofio chwarae efo’r Anhrefn yn y Ganolfan ym Mhorthmadog. Yn fuan wedyn, mi gawson nhw rhywun dipyn gwell na fi fel gitarydd.
Mi oedd dipyn o’r llyfrau a’r gerddoriaeth yn dod gan fy nwy chwaer hŷn. Mi oedd Nia fy chwaer hynaf wrth ei bodd efo Duran Duran, Depeche Mode, Elvis a John Lennon felly gan mod i’n addoli’r chwaer fawr ’nes i ddechrau gwrando arnyn nhw. Mi oedd gan Dad gasgliad mawr o recordiau ac mi oedd wrth ei fodd efo Ryan a Ronnie, Hogia’r Wyddfa, John ac Alun a Vera Lynn felly mi oedd fy nylanwadau cerddorol yn gymysg iawn.
Mi oedd Nia hefyd yn darllen nofelau Virginia Andrews – Flowers in the Attic a gweddill y gyfres ac mi oeddwn i wrth fy modd efo nhw hefyd. Dyma’r tro cyntaf i mi deimlo’r cyffro wrth ddisgwyl am y llyfr nesaf yn y gyfres. Dwi’n cofio gweld fy nai yn profi’r un cyffro efo llyfrau Harry Potter ac mi oedd rhaid i ni gyd eu darllen ar yr un pryd er mwyn eu trafod nhw.
Mi oedd gan Mam bob un llyfr Agatha Christie a ’nes i fwynhau’r rhain hefyd ond mwynhad mwyaf Dad a fi oedd gweld Mam yn gwylltio efo’r addasiadau teledu oedd ddim yn cadw’n driw i’r llyfrau.
Yn y Gymraeg mi oeddwn i’n hoffi’r gyfres o lyfrau gafodd eu cyhoeddi ar ddechrau’r nawdegau – Y Cylch yn Cau, Chwerw’n Troi’n Chwarae (Chwarae’n Troi’n Chwerw) a Cymru ar Werth a llyfrau fel Jabas a Tydi Bywyd yn Boen. Mi oedd Penri Jones yn athro Cymraeg arna i a dwi’n dal i gofio’r pethau wnaeth o ddysgu i mi sy’n arwydd o athro da. Un o’r llyfrau Cymraeg gafodd yr argraff fwyaf arna i, mae’n siŵr, oedd llyfr Angharad Tomos, Wele’n Gwawrio. Mi ydw i’n dal i gofio sut o’n i’n teimlo wrth ei ddarllen. Mi ydw i wedi mwynhau’r nofel Un Nos Ola Leuad ar gyfnodau gwahanol yn fy mywyd gan mod i wedi ei hastudio sawl gwaith ac mi ydw i newydd gynhyrchu addasiad radio ohoni ar y cyd efo Radio 4. Mi oedd hi’n braf gweld ymateb pobl oedd yn dod ati o’r newydd. Mi wnaeth f’atgoffa i gymaint o glasur ydi hi.
Dwi’n hoff iawn o ffilmiau arswyd ac mae’n rhaid eu gweld yn y sinema er mwyn cael y profiad iawn. Un o f’atgofion cynharaf ydi gwylio ffilm efo Nia yn hwyr iawn y nos. Mi oeddwn wrth fy modd efo ffilmiau reit dywyll oedd yn fy nychryn fel Jaws, Poltergeist, Nightmare on Elm Street a Scream.
Mi wnaeth Mam fy nylanwadu o ran sut i fyw fy mywyd. Mi oedd ganddi egwyddorion cryf ac mae’r rheiny yn sail i bob dim dwi’n wneud. Mi oedd Mam yn credu’n gryf mewn gweithio’n galed, bod yn deg â phawb a mwynhau gymaint â phosib. Mi oedd hi’n ddynes fusnes lwyddiannus, yn magu teulu ac mi oedd hi’n greadigol iawn – yn sgwennu, gweu, gwnïo a phobi – ac yn mwynhau ei hun. Dwn i’m lle oedd hi’n cael yr amser! Gan mod i’n un o dair merch, wnaeth o erioed groesi fy meddwl i bod yna wahaniaethu yn digwydd mewn bywyd ar sail rhyw. Dim ond wrth fynd i fyd gwaith ’nes i ddod yn fwy ymwybodol o hynny. Mi wnaeth Dad a Mam roi’r hyder tawel i ni feddwl ein bod ni’n gallu gwneud unrhyw beth.
Mi wnaeth Mam yn sicr fy nylanwadu yn greadigol. Doedd hi ddim yn ysgrifennu yn broffesiynol ond fel mwynhad. Fysa hi wedi sgwennu nofel dda iawn dwi’n siŵr.
Er bod Dad yn hŷn na Mam mi oedd yn fwy ymwybodol o ddiwylliant poblogaidd ac mi oedd ganddo’r un hiwmor â fi. Un reit dywyll! Mi oedden ni’n ffrindiau da. Mi oedd gan Nain, ei fam, yr un hiwmor hefyd.
Beth yw dy ddylanwadau nawr?
Dwi dal yn ffan mawr o gomedïwyr fel French & Saunders a Caryl – mae’n bechod nad ydi hi’n gwneud gymaint o gomedi ar y funud. Dwi’n hoff iawn o waith Daisy May Cooper yn enwedig y gyfres Am I Being Unreasonable? a dwi’n ffan mawr o griw Cabarela yng Nghymru. Dwi’n dal i fwynhau mynd i’r sinema ond mae ffilmiau da yn brin iawn yn ddiweddar.
Dwi’n lwcus i gael gweithio efo pobl talentog iawn ym myd drama a cherddoriaeth. Dros y blynyddoedd diwethaf mi ydw i wedi gweithio efo pobl fel Siân Phillips – actor proffesiynol ac ymroddedig a chydweithio efo talent sgwennu cyffrous fel Seiriol Davies a Hanna Jarman a nifer fawr o bobl eraill! Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae yna egni creadigol cyffrous yng Nghymru – dim ond gobeithio y bydd digon o gyfleoedd. Mae profiadau pobl yn fy nylanwadu a llynedd mi ges i gyfle i weithio gyda chynhyrchydd a dau actor o Wcrain.
Mi ydw i wedi profi dipyn o alar dros y ddeng mlynedd ddiwethaf ac mae hynny wedi effeithio arna i. Mi gollais fy chwaer Nia, yn 2012 a mi wnaeth hynny fy newid yn llwyr. Heb sylweddoli mi oeddwn i wedi rhoi’r gorau i ddarllen, gwylio dramâu, gwrando ar gerddoriaeth ac ysgrifennu. Mi droiais i at bethau ffeithiol, rhaglenni dogfen a chwaraeon. Mae wedi bod yn broses hir ac anodd gan fod yr ochr greadigol yn gymaint o ran ohona i erioed, wedi llunio fy mhersonoliaeth, fy mherthynas efo ffrindiau a dyna oedd fy ngwaith bob dydd. Felly pan wnaeth hynny ddiflannu, mi oedd bron fel mod i’n creu person newydd. Dwi’n ei ddisgrifio fel newid o ’nhu mewn allan. Yn raddol, trwy’r colledion eraill dwi wedi’u profi ers colli Nia, mae’r ochr greadigol wedi cael ei ddatgloi eto.
Mae fy nylanwadau mwyaf yn dod gan fy nheulu. Mae gen i bedair nith a thri nai ac mae’r saith yn fy ysbrydoli bob dydd.
Pryd ddest ti’n ymwybodol dy fod eisiau sgwennu, oedd unrhyw ffactorau arbennig wedi cael effaith?
Mi ydw i’n sgwennu ers cyn i mi gofio. ’Nes i sgwennu fy ‘llyfr’ cyntaf pan o’n i’n tua 7 mlwydd oed a dwi dal yn ei weld rŵan. Y Roced oedd enw’r llyfr ac mi oedd pawb yn mynd ar y roced i blaned arall.
Mi ges i fagwraeth lle oedd sgwennu yn rhywbeth naturiol iawn i’w wneud. Mi oedd cyfle i sgwennu storïau a deialog yn yr ysgol ac yn y Brifysgol mi oedden ni’n sgwennu ein dramâu ein hunain. Fel datblygiad naturiol mi o’n i’n gwneud hynny pan gychwynnais i weithio efo cwmnïau theatr. Mi o’n i eisiau sgwennu, actio a chyfarwyddo – ella mod i’n ychydig bach o control freak. Sgwennu oedd y prif beth am flynyddoedd gan ei fod yn dod yn hawdd. Mi oedd pobl yn glên iawn am fy ngwaith sgwennu. Ella eu bod nhw – a fi – ’di sylwi mod i’m yn dda iawn am actio! Ar ôl sgwennu ar gyfer y theatr, ac ychydig i deledu a radio, fues i’m yn sgwennu am flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod clo ’nes i sylweddoli bod gen i’m hawl meddwl amdanaf fy hun fel rhywun oedd yn sgwennu bellach. Dyna pam ’nes i benderfynu sgwennu’r nofel.
Dywed ychydig am Pen-blwydd Hapus? – o ble ddaeth yr ysbrydoliaeth, a beth wyt ti’n gobeithio bydd darllenwyr yn gael o’r stori hon…
Mae’r syniad gen i ers blynyddoedd am rywun yn mynd ar daith i chwilio am rywbeth neu rywun a bod yna bobl gwahanol yn ymuno â nhw nes bod yna griw mawr iawn ar y daith! Mae yna bwysau i fwynhau a dathlu penblwyddi ac mi o’n i’n hoffi’r syniad bod yna rywbeth mawr yn cael ei ddatgelu, bron fel anrheg pen-blwydd sy ddim yn teimlo fel anrheg ar y pryd! Er mod i eisiau creu teimlad cynnes, positif i’r nofel, mae yna elfen dywyll ynddi hefyd. Mae yna waed, cyllell a sawl enghraifft o reoli o fewn perthynas. Mi oedd y graddfeydd gwahanol o reolaeth o fewn perthynas yn rhywbeth oeddwn i eisiau ei archwilio efo’r cymeriadau. Mae hiwmor yn bwysig iawn i mi ac mae yna ffin denau iawn rhwng y digrif a’r difrif. Yn sicr fyswn i ddim wedi ymdopi efo’r cyfnodau anodd heb gael chwerthin, felly mae fy sgwennu yn dueddol o gynnwys hiwmor tywyll.
Dwi’n gobeithio y bydd darllenwyr yn hoffi bod ar y daith efo Martha ac yn dod i deimlo’n rhan o’r teulu mawr o gymeriadau – fel dwi wedi dod i deimlo dros fisoedd o sgwennu.
Beth yw dy hoff genres darllen, a pha lyfrau wyt yn darllen ar hyn o bryd?
Mi o’n i’n hoff iawn o thrillers, yn enwedig nofelau John Grisham. Erbyn hyn dwi’n trio genres llyfrau gwahanol a dwi’n aros efo nofel yn hirach na fyswn i efo rhaglen deledu os nad ydi hi’n cydiad yn syth. Dwi ddim yn ffan mawr o ffilmiau rom-com ond dwi wedi mwynhau nofelau ysgafnach. Dwi wedi dechrau Fire and Blood George RR Martin ond dydi nghôf i ddim yn wych efo enwau cymeriadau felly wedi gadael hwnnw am y tro! Dwi wrthi’n darllen un o’r llyfrau gafodd fy nith Lois i mi Dolig ar y funud, sef Disappearing Act gan Catherine Steadman. Ar ôl gorffen honno dwi am drio nofel ges i gan John Ogwen (sy’n ffan mawr o nofelau ditectif!) sef Slow Horses gan Mick Herron. Dwi wedi gwylio’r gyfres deledu yn barod. Dwi newydd orffen Dros fy Mhen a ’Nghlustiau gan Marlyn Samuel yn Gymraeg a does dim llawer ers mi ddarllen O Ran gan Mererid Hopwood. Dwi ar ei hôl hi braidd ond dwi ddim yn hoffi darllen nofelau pan mae pawb arall yn eu darllen!
Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnot yn ystod dy fywyd?
Fy nghôf cyntaf ydi’r lori oedd yn dod i’r ysgol a’r pentref. Mi oedd yn gyffrous iawn cael dewis llyfr newydd heb orfod talu. Dwi’n cofio mynd i’r Llyfrgell Genedlaethol am y tro cyntaf pan o’n i’n fyfyriwr a theimlo fel mod i mewn ffilm. Dwi’n hoff iawn o dawelwch llyfrgelloedd – mae oriau yn diflannu! Dwi’n cofio mynd â fy nith pan oedd hi’n ifanc iawn a mwynhau gweld y wefr ynddi hithau.
Pa awgrymiadau sydd gyda ti i annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?
Rhannu llyfrau efo ffrindiau. Creu clwb darllen yn yr ysgol. Cwis! Dwi’n cofio bod yn rhan o dîm cwis llyfrau Cymraeg pan o’n i’n yr ysgol ac mi o’n i’n gystadleuol iawn. Mi wnaethon ni ennill hefyd.
Rho ddyfyniad sydd wrth wraidd dy fywyd di …
Mae gen i 2!
“Byth yn difaru, dim ond dysgu.”
“Paid ag edrych nôl gormod neu ’nei di gerdded i mewn i wal.”
Diolch yn fawr Ffion. Cyhoeddwyd Penblwydd Hapus? ym mis Mawrth gan y Lolfa.
Darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur ac am ein Hawduron y Mis eraill yn ‘sgwennu’n y Gymraeg