Ffion Enlli

 

Cafodd Ffion Enlli ei magu yn Aberdaron ym mhen draw Llŷn. Bu’n byw, astudio a gweithio ym Mharis, Perpignan, Surrey a Llundain. Er bod darn o’i chalon yn dal dros y dŵr yn Ffrainc, hap a damwain a phandemig ddaeth â hi’n ôl i fro ei mebyd yn llawer cynt nag oedd hi wedi fwriadu. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae hi wedi bod yn gwirfoddoli a rhedeg caffi fel rhan o brosiect cymunedol Plas Carmel yn Anelog, tra’n ’sgwennu Cwlwm, ei nofel gyntaf.

Dyma nofel am gymhlethdodau hunaniaeth Gymreig – am wreiddiau a gollwng gafael, am berthyn a bod ar goll – a beth mae hynny’n ei olygu i ferch yn yr unfed ganrif ar hugain. Pwy fysa ni heb gyfyngiadau cymdeithas? Ydi pobl yn perthyn i ddarn o dir? Ydi cenedl heb iaith wir yn genedl heb galon? Mae byw yn un o ddinasoedd mwya’r byd yn peri i Lydia Ifan ddechrau gofyn cwestiynau. Wrth iddi chwilio am yr atebion, mae hi’n colli gafael ar y person oedd hi’n feddwl oedd hi. 

Diolch i Ffion am rannu’r ysbrydoliaeth y tu ol i’w nofel newydd gyda ni’n ddiweddar…

Dywed  ychydig am Cwlwm

Llyfr sy’n edrych ar gymlethdodau hunaniaeth Gymreig trwy lygaid merch ifanc o’r enw Lydia Ifan, wrth iddi stryffagalu trwy ei hugeiniau hwyr yn Llundain.

Oedd unrhyw heriau arbennig wrth baratoi’r llyfr?

Gan mai hwn oedd fy nofel gynta’ i, hanner yr her oedd dod i nabod fy hun fel nofelydd a’r ffordd oedd fy ymennydd yn gweithio. Oeddwn ni’n gynlluniwr? Ta oedd y plot yn mynd i ddod i mi wrth ’sgwennu? Oeddwn ni fod i orfodi’n hun i godi efo’r wawr a sgwennu’n daclus wrth fy nesg, ta oeddwn ni’n gwrando ar be oedd gan Lydia i ddweud yng nghanol y nos? Mi oedd hyn i gyd yn rhywbeth oeddwn ni’n gorfod ei ddysgu wrth fynd. Mi oedd dechrau busnes caffi ar yr un pryd yn dipyn o her hefyd, amwni!

 

Llun clawr Cwlwm

 

Beth wnaeth dy ysbrydoli i ddechrau ysgrifennu?

Fy mherthynas i fy hun efo fy nghymreictod oedd egin y nofel. Mi oni’n gweld stori yng nghymlethdodau’r berthynas ’na, a sut oedd hi wedi newid a datblygu dros y blynyddoedd.

O ble wyt ti’n cael dy ysbrydoliaeth?

Pobl. Sgyrsiau. Ymatebion. Sefyllfaeodd bychain bywyd. Wrth sefyll ar greigiau Uwchmynydd yn edrych allan ar y môr ac ar Enlli. Wrth sefyll yn y gawod.

Pe bai’n rhaid i chi ddisgrifio eich hun mewn tri gair yn unig, beth fyddai’r rheini?

Sylwgar, empathig, munud-olaf.

Os fysa Mam yn ateb y cwestiwn yma, mi fysa hi’n ychwanegu: ‘pen-yn-y-cymylau’(!)

 

Poster Dod i adnabod yr Awdur

 

Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc?

– Straeon Cwpwrdd Cornel

– Lleuad yn Olau

– Rala Rwdins

– The Worst Witch

– Cyfres Confessions of Georgia Nicolson

– Llyfrau Harry Potter

– Te yn y Grug

– Tan ar y Comin

– Un Nos Ola Leuad (yn chweched)

Pa lyfr sydd ar eich bwrdd wrth ochr y gwely ar hyn o bryd?

Period Power, Maisie Hill

Capten, Meinir Pierce Jones

Americanah, Chimamanda Ngozi Adichie

 

 

Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnoch drwy eich bywyd?

Mi oedd ’na hen lyfrgell yn y Founders Building yn Royal Holloway lle esi i’r brifysgol. Llyfrgell Hogwarts oedd pawb yn ei alw fo, achos mi oedd o wir yn edrych fel rhywbeth allan o ffilmiau Harry Potter. Mi oedd rhywun yn darllen a ’sgwennu’n wahanol yno rhywsut – fel tasa chi’n camu mewn i ryw fyd hudolus, cyfrinachol am y p’nawn.

Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau er mwyn annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?

Dwi’n meddwl mai’r gair pwysig ydi amrywiaeth – mewn themau, mewn cymeriadau, mewn ffurfiau, mewn ffyrdd o ddarllen. Mae pawb mor wahanol, dydi? Ond eto, mae pawb yn licio gweld darnau bach o’u hunain mewn llyfrau a storïau. Mae gallu uniaethu mor bwysig.

I’r plant: 

“Mae darllen llyfr fel cael allwedd hud sy’n agor drws i fyd arall. Ond dim ond chi sydd piau’r allwedd. A dim ond chi sy’n gweld y byd.”

A oes gennych unrhyw gynlluniau ar gyfer teitlau pellach?

Does ’na ddim byd cadarn lawr ar bapur eto, ond mae ‘na syniad yn ffrwtian!

Cyhoeddwyd Cwlwm Tachwedd 2022 gan Y Lolfa (Twitter @YLolfa)

Darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur sy’n cyflwyno’r awdur a Cwlwm.

Darllenwch am ein Hawduron y Mis  eraill yn ‘sgwennu’n y Gymraeg

Cookie Settings