Iola Ynyr

 

Mae Iola yn artist llawrydd sydd yn arbenigo mewn gwaith theatr a digidol fel cyfarwyddwraig, dyfeiswraig ac awdur ynghyd â chynlluniau cyfranogi gyda grwpiau lleiafrifol. Bu’n Gyfarwyddwraig Artistig i Gwmni’r Frân Wen am bum mlynedd ar hugain. Mae ganddi dri o blant, Erin, Mared a Gruff ac yn byw yng Nghaernarfon gyda Huw.

Cyfres o ysgrifau hunangofiannol yw ei llyfr newydd Camu sydd yn gwibio trwy atgofion ond yn rhoi lle i’r dychymyg blethu lliw hefyd. Mae yr ysgrifau yn cynnwys straeon o blentyndod Iola hyd at y presennol gan ddychmygu yr hyn sydd eto i ddod. Mae y gyfrol yn wynebu tristwch a heriau yn onest, ond hefo argyhoeddiad bod yna gariad yn llechu yn y tywyllwch.

 

Camu

 

Llongyfarchiadau mawr iti Iola ar gyhoeddi Camu, a diolch yn fawr am ateb #degcwestiwn Llyfrgelloedd Cymru. Rho ychydig o dy gefndir inni…

Mi ges i fy magu yn Wrecsam tan oeddwn i’n 7 ac yna symud i’r Wyddgrug lle ces i fy addysg yn Ysgol Glanrafon a Maes Garmon cyn mynd i astudio Drama ym Mhrifysgol Aberystwyth. Roeddwn i’n unig blentyn a Mam yn athrawes a Dad yn gyfrifydd.

Pa ddylanwadau ac atgofion oedd yn sefyll allan yn dy blentyndod?

Chwarae allan ar y stad yn yr Wyddgrug, mynd i draeth Bermo hefo teulu Dad a mynd i wylio tîm pêl-droed Wrecsam.

Fel person ifanc, pwy neu beth wnaeth ddylanwadu arnat?

Fy ffrindiau oedd yn driw, yn gryf ac yn llawn syniadau am wleidyddiaeth,heddwch a hawliau merched. Cerddoriaeth Y Brodyr, Geraint Jarman a Caryl Parry Jones a wnaeth berfformio yn yr ysgol hefo Bando yn llawn hyder, talent ac wedi gwisgo’n drawiadol. Dyddiadur Anne Frank, Straeon Bob Lliw a Roots. Tales of the Unexpected oedd wastad yn fy machu a fy nychryn i ar y teledu a Minafon a Minder.

Beth yw dy ddylanwadau nawr?

Fy mhlant, fy mhartner ac unigolion sy’n byw trwy chwilfrydedd nid ofn ac artistiaid a chyfranogwyr dewr a mentrus dwi’n cydweithio hefo nhw.

Pryd ddest ti’n ymwybodol dy fod eisiau sgwennu, oedd unrhyw ffactorau arbennig wedi cael effaith?

Roedd byw yn y byd dychmygol yn dod yn naturiol i mi fel unig blentyn ac mi wnes i ddechrau mwynhau ysgrifennu’n greadigol yn yr ysgol uwchradd. Roedd hi’n ryddhad gallu mynegi fy hun pan oedd cyfathrebu wyneb yn wyneb yn gallu bod yn heriol. Mae cefnogaeth Llenyddiaeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn allweddol i feithrin fy hyder i ysgrifennu.

 

Poster Dod i adnabod yr awdur Iola Ynyr

 

Dywed ychydig am Camu, o ble ddaeth yr ysbrydoliaeth, a beth wyt ti’n gobeithio bydd darllenwyr yn gael o’r stori hon…

Camu ydi’r llyfr sydd yn gofiant creadigol. Dydi pob dim ddim wedi digwydd yn union fel sydd yn y penodau ond mae yna wirionedd ym mhob peth. Does yna ddim proses o ddilyn trywydd fy mywyd i’n llawn dim ond atgofion brith. Mi gyflwynodd Marged Tudur, golygydd Camu, y syniad o drio arbrofi hefo cyfrwng y cofiant trwy rannu I am I am I am gan Maggie O’Farrell. Mi oeddwn i wedyn yn deall beth oedd ganddi mewn golwg.

Mae pob pennod yn sefyll yn annibynnol ond hefyd yn dilyn fy adferiad i o alcoholiaeth fel thema trwyddo fo ac o deimlo fy mod i wedi ‘camu’, wedi fy ninistrio, ond hefyd y broses o ‘gamu’ yn fy mlaen i fyd newydd. Gobeithio y bydd o’n cynnig cysur i unrhyw un sydd yn teimlo bod bywyd yn gallu bod yn heriol i ddarganfod y mân bethau sy’n ein lleddfu wrth sylwi ar y byd naturiol o’n cwmpas ni.

Beth yw dy hoff genres darllen, a pha lyfrau wyt yn darllen ar hyn o bryd?

Dwi wrth fy modd hefo unrhyw ffurf a newydd orffen The Goldfinch gan Donna Tartt oedd yn wirioneddol wych. Mae gen i wastad sawl llyfr wrth ochr fy ngwely a dwi’n pigo nôl a mlaen ohonyn nhw. Dwi wedi gwirioni ar gyfrol o farddoniaeth clare e. potter, Healing the Pack, ac yn troi ati i ryfeddu at y delweddau trawiadol a gwirionedd a deallusrwydd plentyn.

 

The Goldfinch   Healing the Pack

 

Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnot yn ystod dy fywyd?

Roedd mynd i lyfrgell Wrecsam pan oeddwn i’n blentyn yn uchafbwynt yr wythnos. Dwi’n cofio’r carped golau hefo’i flew hir yn betryal o fewn y llawr i eistedd ynddo fo. Dwi’n sôn am y profiad yn Camu! Wrth i mi ddechrau gwella wedi fy salwch meddwl diweddar, i’r llyfrgell yng Nghaernarfon oeddwn i’n troi am gysur. Mi oeddwn i’n benthyg gymaint o lyfrau ac yn cael fy lleddfu a fy ysbrydoli. Roedd pori trwy gylchgronau yno yn braf ar ddiwrnodau pan oedd llyfrau yn ymddangos yn rhy drwm.

Roedd y staff yno wastad mor gynnes ac yn awgrymu i mi ddarllen llyfrau bendigedig. Roedd llyfrgell yr Hen Goleg yn Aberystwyth a llyfrgell y dref yno , pan oeddwn i yn y Brifysgol, yn rhoi’r un ymdeimlad o hafan i mi. Roeddwn i’n caru’r ffon bren oedd fel asgwrn cefn i’r papurau newydd ac arogl darllen pobl eraill ar y llyfrau. Dwi wirioneddol yn angerddol am werth llyfrgelloedd i lesiant pawb ac yn arbennig i herio tlodi ysbrydol a materol.

 

Yr Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth

Yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth

Pa awgrymiadau sydd gyda ti i annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?

Rho gyfle i lyfr sy’n gallu bod yn chwithig ar y dechrau a pâid a theimlo’n annifyr am beidio â gorffen llyfr chwaith. Dos i chwilio am ddelweddau sydd yn dy tynnu ac mae’n iawn cael llyfr wrth dy ymyl heb ddarllen dim. Mi wnei di elwa wastad wrth fod yn agos at lyfrau heb i ti ddallt. Ac os na ffeindi di lyfr ti’n mwynhau, sgwenna’r llyfr ‘rwyt ti’n awchu amdano.

Rho ddyfyniad sydd wrth wraidd dy fywyd di …

“Mae yna harddwch ym mhob dim a mae gen ti hawl i dy ddiogelwch.”

 

Diolch eto Iola.

Bydd Camu yn cyhoeddi gyda’r Lolfa yng Ngorffennaf.

Lawrlwythwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur a dysgwch hefyd am ein Hawduron y Mis  eraill yn ‘sgwennu’n y Gymraeg

Cookie Settings