Llŷr Titus
Gorffennaf 3, 2023Un o Fryn Mawr ger Sarn ym Mhen Llŷn ydi Llŷr Titus. Mae’n awdur a dramodydd ac yn un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Cymunedol y Tebot. Mae’n hefyd un o sylfaenwyr cylchgrawn Y Stamp a’r wasg Cyhoeddiadau’r Stamp, a bu’n un o olygyddion y cylchgrawn a rhai cyhoeddiadau. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf Pridd gan wasg y Bwthyn yn 2022, a’i ail nofel Anfadwaith fydd yn cyhoeddi gyda’r Lolfa y mis yma.
Nofel ffantasi dywyll, sydd hefyd yn nofel dditectif o fath ydyw sy’n dilyn Ithel wrth iddynt geisio mynd at wraidd dirgelwch sy’n bygwth chwalu’r deyrnas. Gyda chymorth Adwen, y porthmon, maent yn ceisio dod o hyd i’r rhai euog ond mae pob math o anfadweithiau’n digwydd cyn pen y daith.
Mae wedi ei selio yn fras ar orffennol Cymru, gan ddefnyddio elfennau o Gyfraith Hywel Dda a’r drefn Dywysogaidd gynhenid Gymreig.
Meddai Llŷr:
“Dwi’n ceisio ysgrifennu yr hyn y byddwn i’n lecio’i ddarllen fy hun. Mae’r llyfr yn plethu sawl genre ac yn croesi’r ffiniau rhyngddynt gan ei wneud yn eithaf unigryw yn hynny o beth. Mae prinder llyfrau ffantasi yn Gymraeg er bod y genre yn un poblogaidd y tu draw i ffiniau Clawdd Offa a dwi wedi ceisio rhoi gogwydd gynhenid Gymreig ar yr agwedd ffantasiol.”
Llŷr, llongyfarchiadau mawr ar gyhoeddi Anfadwaith, beth wnaeth dy ysbrydoli i sgwennu’r nofel yma, a dwed ychydig am y stori…
Doedd yna ddim un peth yn union ond fe ddaeth llawer o’r ysbrydoliaeth o hanes ac archeoleg sy’n ddiddordebau mawr i mi; yn gymysgedd o Dderwyddon, Cymru’r Oesoedd Canol, cyrff cors (bog bodies) a llên gwerin ar draws Cymru. Stori ydi hi am Ithel sy’n Wigyn. Cafodd y Gwigiaid eu creu gan y Derwyddon i forol am gyfraith a threfn mewn byd sy’n gyfarwydd i ni ond eto’n wahanol iawn yn llawn hud ac yr anfadweithiau neu’r angenfilod sy’n crwydro’r tir.
Yn y nofel mae Ithel yn ceisio datrys achos cyfres o lofruddiaethau rhyfedd gyda chymorth Adwen, y porthmon. Mae hi’n nofel sy’n gymaint amdani hi ac ydi hi am Ithel mewn difri ac mae Gel, y corgi hefyd yn cael rhan go amlwg! Wrth i’r criw deithio yn dilyn trywydd y llofrudd mae nhw’n dod i nabod ei gilydd yn well ac yn baglu ar draws sefyllfaoedd a chreaduriaid rhyfeddol sy’n rhannu’r un byd hefo nhw. Mae hi’n groes rhwng nofel ffantasi, ‘who-dunnit’, nofel arswyd a thriller.
Pam wyt ti’n ysgrifennu?
Am mod i’n licio gwneud, dwi’n mwynhau llithro i wahanol fydoedd yn ofnadwy. Dwi hefyd yn teimlo rheidrwydd i geisio llenwi bylchau dwi wedi weld o ran llyfrau byddwn i wedi licio’i darllen pan oeddwn i’n fengach ac eisiau eu darllen heddiw.
Beth sy’n dy ysbrydoli?
Pob math o bethau, cerddoriaeth, pethau dwi’n glywed neu’i weld, breuddwydion a synfyfyrio ond pobl yn bennaf efallai. Dwi’n lwcus iawn i nabod llawer iawn o bobl gefnogol ac mod i’n troi mewn criwiau creadigol, brwd ac mae hynny’n gwthio rhywun yn eu blaen.
Sut oeddet ti’n gwybod dy fod eisiau bod yn awdur a phryd ddest ti’n ymwybodol o hyn?
Dwi’m yn siŵr, ers oeddwn i’n ddim o beth dwi’n meddwl! Dwi wedi mwynhau sgwennu erioed ac wedi bod yn lwcus iawn i gael anogaeth ers oeddwn i’n dechrau arni. Rhyw fwrw iddi heb feddwl oeddwn i, heb gynllun pendant dwi’n meddwl gyda syniad annelwig y byddwn i’n licio gallu bod yn awdur rhyw dro a dyma fi.
Pwy yw rhai o’r awduron rwyt ti’n eu hedmygu?
Terry Pratchett oedd yr awdur cyntaf i wneud i mi feddwl go iawn y gallwn i ysgrifennu nofelau hefo llais unigryw, dwi’n dal i droi at ei waith o. Dyna Ursula K. Le Guin wedyn am ei meddwl anhygoel a’i gallu i greu bydoedd a chymeriadau hynod heb sôn am iddi dorri tir newydd. Mae Alun Jones yn awdur dwi’n ei edmygu hefyd o ran ei waith ac o ran ei allu i roi cyngor di-flewyn ar dafod os byddai byth yn swnian arno fo.
Ai ysgrifennu yw’r unig gyfrwng artistig rwyt ti’n gwneud?
Dwi’n rhyw ffaffian hefo saethu fideos weithiau ac yn ysgrifennu mewn sawl cyfrwng: theatr, rhyddiaith, teledu a ffilm. Mi fyddai hefyd yn rhwymo llyfrau a dwi’n cyfri hynny fel ffordd o fynegi fy hun yn artistig hefyd.
Pa gyngor y byddet ti’n rhoi i dy hunan yn iau?
Torra dy wallt a gwna’n fawr o bob cyfle ag amser!
Beth yw dy broses ysgrifennu?
Dwi bob sut! Mae gen i lyfrau nodiadau, dogfennau ar gyfrifiadur a recordiadau llais yn llawn nodiadau. Ar sgrin fyddai’n ysgrifennu’n amlach na pheidio a hynny am fod ail-ddrafftio yn haws felly. Dwi’n ceisio ysgrifennu lle medra i, pryd bynnag medra’i. Mi oeddwn i’n arfer gorfod cymryd cyfnod estynedig i sgwennu a dim ond sgwennu, ond erbyn hyn mae bywyd yn fy ngorfodi fi i fachu be medra’i yma ag acw er fod gallu ysgrifennu am ddyddiau bwygilydd yn braf o hyd.
Pa lyfrau rwyt ti’n darllen ar hyn o bryd?
Mae gen i sawl llyfr ar eu hanner, dwi’n cael blas ar All Along the Wide Border gan Mike Parker a Findings gan Kathleen Jamie ar hyn o bryd a dwi newydd ddechrau Independent People gan Halldór Laxness. Dwi hefyd yn mwynhau manga ac yn darllen Chainsaw Man gan Tatsuki Fujimoto yn wythnosol ar hyn o bryd.
Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnat?
Mae llyfrgelloedd wedi bod yn bwysig iawn i mi ar hyd y daith. Pan oeddwn i’n hogyn bach mi fyddai’r llyfrgell deithiol yn rhywbeth y byddwn i’n edrych ymlaen yn arw i’w gweld yn cyrraedd y pentref, dwi’n dal i gofio’i hoglau hi! Mi fyddwn i hefyd yn picio i lyfrgell Nefyn o dro i dro ac yn gwirioni am fod fanno’n fwy. Roedd y gallu i ddewis llwyth o wahanol lyfrau heb orfod poeni am gost yn bwysig iawn i mi wrth fagu fy chwaeth am lyfrau amrywiol. Roedd yna ryddid mewn llyfrgell i ddewis be bynnag oeddwn i eisiau’i ddarllen hefyd a rhwydd hynt i ddewis llyfrau oedd yn heriol.
Yn yr ysgol gynradd, uwchradd ac yn y brifysgol mae llyfrgelloedd wedi bod yn lefydd pwysig iawn i mi i weithio, hel gwybodaeth a dod o hyd i bethau difyr. Erbyn hyn a minnau’n gweithio’n llawrydd mae nhw’n ofodau pwysig i mi pan dwi eisiau newid bach o’r tŷ hefyd.
Oes gennyt unrhyw awgrymiadau er mwyn annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?
Fe gymerodd hi sbel i mi danio fy injan ddarllen yn iawn, fe ges i flas ar lyfrau ffantasi yn y pendraw ac fe sbardunodd hynny fi ymlaen i ddarllen mwy ond roedd yna ychydig o waith dod i ddeall fy chwaeth i cyn hynny.
Mae hi’n gallu cymryd amser i ddod o hyd i be’n union yr ydych chi’n hoffi – mae yna bob math o wahanol lyfrau a storïau. Dyna sy’n braf am lyfrgell, mae yna ddigon o ddewis! Cofiwch hefyd bod darllen pob mathau o ffurfiau o nofelau, i gomics i gefnau pacedi weetabix yn ddarllen!
A oes gennyt unrhyw gynlluniau ar gyfer teitlau pellach?
Mi hoffwn i ysgrifennu mwy ym myd Anfadwaith a dwi’r math o awdur sydd gyda sawl peth yn ffrwtian yn y cefndir. Mae gen i ddwy stori ffuglen wyddonol ar eu hanner, un galed ‘realistig’ a’r llall yn wirion bost. Dwi hefyd wedi bod yn sownd hefo drama ers sbel a tydi hi’n symud dim ar hyn o bryd ond mi ddaw gyda lwc. Dwi’n dda iawn am gychwyn pethau, ond yn llawer gwaeth am eu gorffen nhw…
Cyhoeddir Anfadwaith ganol Gorffennaf gan Y Lolfa.
Darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur ac am ein Hawduron y Mis eraill yn ‘sgwennu’n y Gymraeg