Luned Aaron
Mai 10, 2023
Daw Luned Aaron o Fangor yn wreiddiol. Mae’n darlunio ac yn ysgrifennu llyfrau i blant ac oedolion, ac yn arddangos ei gwaith yn aml mewn orielau ar hyd a lled Cymru. Fe enillodd ei llyfr cyntaf i blant, ABC Byd Natur, wobr categori cynradd Tir na n-Og 2017. Bellach mae hi’n byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr a’u plant.
Llyfr cymharu ar gyfer y plant ifancaf ydi Bach a Mawr, fydd yn cyhoeddi gyda Gwasg Carreg Gwalch ganol Mehefin.
“Mi ddaeth y syniad i mi feddwl am gyfrol fyddai’n asio gydag arddull fy nghyfres Byd Natur – cyfrolau sydd hefyd wedi eu cyhoeddi dan faner Gwasg Carreg Gwalch. Mae plant bach wrth eu bodd yn cymharu elfennau gwahanol, yn ogystal ag anifeiliaid, felly dyna benderfynu cyfuno’r ddwy elfen. Mae dysgu geiriau sy’n disgrifio a chymharu’n help i blant ifanc i ddatblygu eu geirfa hefyd wrth gwrs,” medd Luned.
Diolch yn fawr iddi am rannu’r ysbrydoliaeth y tu ol i’w gwaith efo ni’r mis yma…
Pa mor bwysig yw creu llyfrau i ti?
Mae rhoi mynegiant ar bapur wedi bod yn bwysig i mi ers yn ifanc (dwi wedi cadw dyddiadur ers yn ddeg oed hyd heddiw). Mewn rhyw ffordd, mae ysgrifennu yn ffordd o ddogfennu a chroniclo teimladau a syniadau, ac mae hynny’n rhoi boddhad mawr imi. Yn sicr, mae cyfrwng unigryw’r llyfr yn apelio’n fawr ata’i, ac mae’r broses o greu rhywbeth sydd mor barhaol yn hyfryd dros ben.
Pa bethau sy’n dy ysbrydoli?
Gall fod yn unrhywbeth – o erthygl papur newydd i o’r glywed pwt o sgwrs mewn caffi neu fod ynghanol byd natur. Yn sicr, mae cael ein dwy ferch wedi bod yn sbardun i greu llyfrau yn benodol ar gyfer plant ac mae syniadau yn aml yn brigo i’r wyneb yn eu cwmni.
Sut oeddet ti’n gwybod dy fod eisiau bod yn awdur a phryd oeddet yn ymwybodol o hyn?
Dw’i wastad wedi mwynhau ysgrifennu ac mae fy rhieni wedi cadw bocsys o lyfrau bach ro’n i’n harfer eu creu pan ro’n i’n fychan. Mae darllen wastad wedi bod yn ddiléit i mi, a phan ro’n i’n ifanc, mi fyddwn i’n arfer ysgrifennu llythyrau at awduron ro’n i’n eu hedmygu, fel T. Llew Jones ac Angharad Tomos (ysgogiad oedd cael atebion ganddyn nhw hefyd, yn amlach na pheidio!) Mae ’na theori fod yr hyn rydan ni’n ei fwynhau pan yn ’rydan ni’n wyth oed yn cael ei adlewyrchu maes o law yn y math o yrfa fyddai’n ein siwtio ni pan yn oedolion. Mae hyn yn sicr wedi bod yn wir yn fy mhrofiad i.
Pwy yw rhai o’r awduron rwyt yn eu hedmygu?
Gormod i’w henwi – yn blentyn, roedd llyfrau Angharad Tomos, T. Llew Jones, Gwenno Hywyn a Judy Blume yn mynd ag oriau o fy amser ac yn ddylanwadau ffurfiannol. O ran dylanwadau wrth fynd ati i greu llyfrau i blant, mi fyddai Leo Lionni, Eric Carle, Britta Teckentrup, Beatrice Alemagna, John Burningham, Brian Wildsmith, Julia Donaldson a Rebecca Cobb yn sicr yn eu mysg. Dwi’n hoff o ddarganfod gwaith sy’n torri tir newydd gan artistiaid ac awduron tramor hefyd. Mae Gŵyl Llên Plant Caerdydd wedi bod yn lle gwych i gwrdd ag awduron ac arlunwyr llyfrau plant – yno y gwnes i gwrdd â Yuval Zommer a Petr Horácek – dau wneuthurwr llyfrau plant dwi’n eu hedmygu’n fawr. Dw’i hefyd wrth fy modd gyda llyfrau’r awdur toreithiog Jacqueline Wilson.
Pa gyfryngau artistig eraill wyt ti’n gwneud?
Mi fydda’i hefyd yn peintio ac arlunio. Dwi’n mwynhau creu elfen weledol fy llyfrau yn fawr ac mae ysgrifennu a darlunio llyfrau i blant yn gyfuniad perffaith i mi.
Pa gyngor y byddet yn ei roi i dy hunan yn iau?
I beidio â bod ofn methu ac i fwynhau’r broses o greu – mae’n gymaint o fraint cael gwneud hyn fel swydd. Dwi’n meddwl fod cystadlu mewn eisteddfodau yn gallu bod yn fodd i fagu hyder wrth ysgrifennu hefyd, felly mi fyddwn i’n fy annog i ddechrau cystadlu yn iau o bosib.
Beth yw dy broses ysgrifennu?
Nodi syniadau yn gyson (cyn iddyn nhw fynd yn angof!) ac yna gweld be ddaw. Mae gadael y tŷ a mynd i nofio, mynd am dro (ar droed neu ar y beic), yn gallu bod yn help i adael i syniadau cychwynnol gyniwair.
Pa lyfrau wyt yn darllen ar hyn o bryd?
Ar hyn o bryd, dwi’n ail ddarllen Pijin, cyfieithiad Sian Northey o Pigeon gan Alys Conran, yn ogystal â Drift gan Caryl Lewis. Gyda’r ’fenga, ar hyn o bryd,’ rydan ni’n mwynhau mynd trwy’r gyfres Happy Families gan Allan a Janet Ahlberg ac arlunwyr eraill. Joio!
Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnot drwy dy fywyd?
Yn fychan, ro’n i’n mynd yn gyson i lyfrgell Bangor gyda fy rhieni a fy mrawd i ddewis llyfrau, ac mae’n braf ofnadwy mynd i’n llyfrgell leol gyda’n plant ni erbyn hyn a gweld eu mwynhad nhw o agor y cloriau. Dwi’n dal i fod wrth fy modd yn mynd i’r llyfrgell – fy llyfrgell leol neu rai eraill i gael newid bach – a hynny i bori a dewis llyfrau neu i ysgrifennu. Hyfryd oedd gweld y croeso mae cynifer o lyfrgelloedd wedi ei roi i’r cyhoedd yng ngwyneb y cyni economaidd diweddar drwy gynnig paneidiau am ddim a lle cynnes. Mae llyfrgelloedd yn llefydd mor bwysig yng nghalon ein cymunedau.
Oes gennyt unrhyw awgrymiadau er mwyn annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?
Darllen y math o lyfrau sy’n apelio ydi’r prif beth dwi’n meddwl. Mae’n hyfryd pan mae plant yn darganfod awduron ac arlunwyr sy’n mynd â’u bryd, ac mae comics a nofelau graffig yn gallu bod yn ffurfiau gwych i fagu hyder mewn darllenwyr anfoddog neu anhyderus.
A oes gennyt unrhyw gynlluniau ar gyfer teitlau pellach?
Oes – mi fydda’i wastad yn datblygu’r syniadau nesaf! Ar hyn o bryd, mae dilyniant i Mira a’r Dant, sef Mira a’r Trip Ysgol (Atebol) wrthi’n cael ei hwylio trwy’r wasg.
Cyhoeddir Bach a Mawr 16eg o Fehefin gan Gwasg Carreg Gwalch (Twitter @CarregGwalch)
Darllenwch hefyd ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur ac am ein Hawduron y Mis eraill yn ‘sgwennu’n y Gymraeg