Mared Lewis

 

Magwyd yr awdur Mared Lewis ym mhentref glan y mor Malltraeth ar Dde Orllewin Ynys Mon. Aeth i Ysgol Gynradd Bodorgan, a mwynhau blynyddoedd hapus iawn yno, ac yna ymlaen i Ysgol Gyfun Llangefni, ysgol braf arall. Cwblhadd gradd mewn Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth, cyn mynd ymlaen i ddysgu Saesneg am bum mlynedd yn ol ar yr ynys, yn Ysgol Bodedern. Gadawodd dysgu wedyn, a mynd i fyw i LA am bron i flwyddyn, cyn dychwelyd adra. 

Wedi cyfnod yn ysgrifennu i’r teledu a’r radio, mae hi bellach yn rhannu ei hamser rhwng ysgrifennu nofelau a gweithio fel tiwtor Cymraeg i Oedolion gyda Phrifysgol Bangor. Mae hi’n briod efo Dafydd, ac yn fam i ddau fab yn eu hugeiniau, sef Elis ac Iddon. 

Mae ei gwaith diweddaraf, Croesi Llinell, yn nofel ddirgelwch sy’n llawn o gymeriadau cymhleth a chofiadwy, lle archwilir natur y syniad o le a pherthyn yn wyneb argyfwng teuluol, sef diflaniad Elliw, chwaer Myfi. Mae pwnc y nofel yn archwilio natur is-fyd rhwydweithiau cyffuriau (‘county lines’), a’r ffordd y mae’n dod yn gynyddol rhan o fywyd cefn gwlad Cymru. Ond bydd cynhesrwydd yn y portreadau, gyda hiwmor a fflam rhamant yn egino hefyd. Drwy’r stori gyffrous, bydd cyfle hefyd i gyflwyno stori deuluol fydd yn cyffwrdd y galon. Mae’n nofel gignoeth a chyfoes.

Mared, Diolch yn fawr am gytuno i ateb rhai cwestiynau am Croesi Llinell – beth wnaeth dy ysbrydoli i ysgrifennu’r nofel  a dywed ychydig am y stori…

Stori ddirgelwch ydy Croesi Llinell sy’n edrych ar is-fyd cyffuriau yng nghyd-destun y Llinellau Sirol/ County Lines bondigrybwll, lle mae pobol ifanc yn cael eu targedu a’u rhwydo i ddosbarthu cyffuriau yng nghefn gwlad. Cefnlen y stori ydy hyn, ond mae hi’n stori bersonol hefyd, lle mae Myfi y prif gymeriad yn cael ei llusgo nol i ardal Dyffryn Nantlle wedi diflaniad ei chwaer, ac yn gorfod wynebu cymeriadau o’i gorffennol. 

 

Croesi Llinell

 

Pam rwyt ti’n ysgrifennu?

Am fod peidio sgwennu yn creu rhyw anniddigrwydd mawr tu mewn i mi, rhyw fath o gosi. Mae’n anodd ei esbonio!

 Beth sy’n dy ysbrydoli?

Bywyd. Weithiau mae rhywun yn cael cip o sefyllfa, yn clywed cip o sgwrs, yn gweld cymeriad neu sefyllfa sy’n cosi chwilfrydedd. Mae rhywun yn cymryd y briwsion hynny wedyn ac yn rhedeg efo nhw, i greu byd newydd.

 Sut oeddet yn gwybod dy fod eisiau bod yn awdur a phryd ddaethost yn ymwybodol o hyn?

Roedd gennym athrawon gwych yn Ysgol Gynradd Bodorgan, a Miss Nansi Jones yn enghraifft arbennig. Roedd Miss Jones yn rhoi amser i ni sgwennu yn greadigol pob wythnos, rhywbeth amhrisiadwy. Gobeithio bod plant heddiw yn cael yr un cyfle yn eu hysgolion prysur.

Dwi erioed yn cofio amser pan nad o’n i isio creu ar bapur…

 

Mared Lewis

 

Pwy yw rhai o’r awduron rwyt ti’n eu hedmygu?

Mae ‘na doreth! Yn Gymraeg, mae Caryl Lewis ar frig y rhestr, ac ro’n i wrth fy modd efo gwaith y diweddar annwyl Gareth F. Williams. Am storïwr! Yn Saesneg, dwi wrth fy modd efo gwaith Helen Dunmore a Maggie O’ Farrell, a dwi wedi magu hoffter hefyd o waith awduron ‘crime fiction’ fel Clare Mackintosh ac Ellie Griffith. Mi wnes i ddarllen tipyn o’r ‘genre’ hwnnw cyn mentro sgwennu Croesi Llinell.

 Ai ysgrifennu yw’r unig gyfrwng artistig rwyt ti’n ei wneud?

Ia, yn anffodus! Roedd fy Mam yn berson artistig, ac mae gen i freuddwyd o fynd ar gwrs peintio am wythnos i rhywle neis fel Tuscany rhyw dro! Mi faswn i wrth fy modd yn creu llun, tasa fo ddim ond er mwyn ei hongian ar wal y tŷ bach adra!

Pa gyngor y byddet yn rhoi i dy hunan yn iau?

Paid a phoeni! Chdi ydy chdi a ti’n ddigon da.

Beth yw dy broses ysgrifennu?

Mae’r broses yn amrywio. Weithiau mi wnâi gael syniad, a sgwennu’r paragraff agoriadol, ac yna’r nodiadau sy’n dilyn. Yna, wrach roi’r syniad mewn bocs tan dwi’n medru ei ddefnyddio.

Dro arall, mae’n rhaid gwneud cryn tipyn o waith pan yn ymgeisio am gomisiwn. Wedi cael y comisiwn, mi fydda i’n treulio amser yng nghwmni’r cymeriadau ac yn dod i’w nabod cyn mentro deud eu stori.

Pa lyfrau wyt yn darllen ar hyn o bryd?

Mae gen i ddau! Dwi ar ganol Llyfr y Flwyddyn gan Mari Emlyn a hefyd ar ganol Bringing up the Ghosts, hunangofiant Hilary Mantell.

Dwi’n cael blas mawr ar y ddwy! Dwi’n dueddol o ddarllen llyfr Cymraeg a llyfr Saesneg bob yn ail.

   

Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnot drwy dy fywyd?

Dwi’n dal i gofio cyffro’r fan lyfrgell yn dod i’r ysgol gynradd, a phawb yn cael mynd yn ei dro I ddewis o’r stor o drysorau oedd ar silffoedd y fan fach!

Yn fwy diweddar, pan wnes i MA ym Mhrifysgol Bangor, mi wnes i fwynhau treulio oriau yn Llyfrgell hyfryd Shankly yn y Brifysgol, ac amsugno’r awyrgylch ysgolheigaidd yn fanno.

Oes gennyt unrhyw awgrymiadau er mwyn annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?

Mae darllen unrhyw beth yn iawn! Mae’n bwysig i’r person ifanc fedru dilyn ei gwys ei hun a darllen yr hyn sy’n mynd â’i fryd, nid llyfr y mae ‘oedolyn’ wedi ei annog i ddarllen!

 A oes gennyt unrhyw gynlluniau ar gyfer teitlau pellach?

Mi faswn i wrth fy modd yn troi fy llaw at sgwennu mwy o straeon byrion, fy nghariad cyntaf mewn gwirionedd. Mae yna syniad yn cyniwair, ond dim byd digon ffurfiol i’w rannu eto!

Cyhoeddwyd Croesi Linell 22ain o Fawrth 2023 gan Y Lolfa (Twitter @YLolfa)

Darllenwch hefyd ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur ac am ein Hawduron y Mis  eraill yn ‘sgwennu’n y Gymraeg

Cookie Settings