Mari George

Cafodd Mari ei geni a’i magu ym Mhen-y-bont ar Ogwr a bellach mae hi nôl yna yn magu ei phlant ei hun, Elen a Morgan gyda’i gŵr, Gwyn. Mae’n fardd, awdur, cyfieithydd a golygydd sgriptiau a llyfrau plant ac oedolion. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth, ‘Siarad Siafins’ a ‘Y Nos yn Dal yn Fy Ngwallt’. Cyhoeddodd hefyd sawl llyfr i blant.

Mae hi’n aelod o dîm talwrn Aberhafren ar gyfer y Talwrn Radio Cymru. Enillodd ei nofel gyntaf i oedolion ‘Sut i Ddofi Corryn’ brif wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2024. Cyhoeddodd y bamffled ‘Rhaff’ ar gyfer Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024 ac mae’n ddarlun o gwpl yn dod i delerau â dementia.

Diwrnod Cyntaf Wini yw llyfr diweddaraf Mari a gyhoeddwyd gan Rily –

“Mae’r gwyliau drosodd, ond mae’r antur ar fin dechrau wrth i Wini ddechrau yn nosbarth Mrs Jones Jiráff. Mae hi’n awyddus i wneud ffrindiau a chael hwyl. Ond pan aiff rhywbeth o’i le, mae Wini’n dysgu gwers werthfawr am garedigrwydd, empathi a chyfeillgarwch.”

Diolch Mari am ateb cwestiynau Llyfrgelloedd Cymru. Rho ychydig o dy gefndir inni…

Ges i fy ngeni a fy magu ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Wedi mynychu Ysgol Gyfun Llanhari es i ymlaen i Brifysgol Abertawe i astudio Cymraeg. Wedyn fe wnes i MA yn y Gymraeg ar y bardd Wil Ifan.

Pa ddylanwadau ac atgofion oedd yn sefyll allan yn dy blentyndod?

Roeddwn yn hoff iawn o ddarllen llyfrau Cymraeg a Saesneg pan oeddwn i’n blentyn. Does dim byd fel camu i fyd arall a dianc o’ch sefyllfa am gyfnod. Dyna beth yw ryfeddod llyfrau. Roedd fy rhieni yn fy annog i fod yn greadigol ac roedd fy athrawon Cymraeg Lefel A yn hynod o ysbrydoledig. Roedden nhw’n fy annog i ysgrifennu.

Mari George

Fel person ifanc, pwy neu beth wnaeth ddylanwadu arnat?

Roeddwn yn hoff o wrando ar gerddoriaeth Caryl Parry Jones. Mae ei chaneuon hi fel barddoniaeth. Roeddwn hefyd wrth fyd modd a llyfrau Enid Blyton a straeon hud a lledrith. Roeddwn yn darllen llawer o gylchgronau hefyd ac yn cael rhai drwy’r post bob wythnos. Roedd hynny’n beth poblogaidd ar y pryd.

Beth yw dy ddylanwadau nawr?

Rwyf yn dal i ddarllen llyfrau plant gan fy mod yn awdur a golygydd. Dwi’n hoffi cyfresi drama ar y teledu hefyd. Cymeriadau da a stori dda sy’n gwneud argraff arnaf i.

Pryd ddest ti’n ymwybodol dy fod eisiau sgwennu, oedd unrhyw ffactorau arbennig wedi cael effaith? Roeddwn i’n ysgrifennu wrth reddf. Wastad yn credu straeon bach ar ddarnau o bapur. Dim ond pan o’n i yn y Brifysgol wnes i fynd ati o ddifri pan gymerodd un o’r darlithwyr ddiddordeb yn fy ngwaith. Wnes i ennill un o brif gystadlaethau’r Urdd ac roedd hynny’n hwb anferth i mi.

Dywed ychydig am Diwrnod Cyntaf Wini, o ble ddaeth yr ysbrydoliaeth, a beth wyt ti’n gobeithio bydd darllenwyr yn gael o’r stori hon…

Mae’n stori syml am wiwer goch yn dechrau ysgol newydd. Am fod ei chynffon mor fawr a hir mae’n mynd yn y ffordd ac mae’n cael ei bwlian. Pwrpas y stori yw dysgu plant bach i fod yn garedig a derbyn pawb o bob lliw a llun drwy ddangos amynedd ac empathi. Thema bwysig y dyddiau hyn.

 

Beth yw dy hoff genres darllen, a pha lyfrau wyt yn darllen ar hyn o bryd?

Dwi’n hoff iawn o farddoniaeth o bob math a dwi’n darllen nofelau o bob math hefyd. Dwi’n hoffi straeon o dramor a rhywbeth ychydig bach yn wahanol i’r arfer.

Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnot yn ystod dy fywyd?

Dwi wedi bod yn mynd i’r llyfrgell ers cyn cof. Dwi’n cofio arogl Llyfrgell Pen-y-bont pan oeddwn yn fach a’r tawelwch hyfryd. O’n i wrth fy modd yn dewis llyfr. Mae’r ffaith bod y llyfrau am ddim i’w benthyg yn wych oherwydd fe allwch ddewis rhywbeth na fyddech fel arfer wedi bod awydd ei brynu yn y siop. Cyfle i drio rhywbeth gwahanol. Dwi wedi magu fy mhlant innau i fynd i’r llyfrgell hefyd. Roedd y cynllun darllen dros wyliau’r haf yn beth arbennig o dda iddyn nhw.

Pa awgrymiadau sydd gyda ti i annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?

Codwch lyfr a darllen y dudalen gyntaf. Fel arfer mater o agor y llyfr yw’r unig beth sydd angen i chi gael eich tynnu mewn. Mae darllen yn rhywbeth hudolus. Gallwch chi fyw bywyd rhywun arall heb symud o’r fan.

Rho ddyfyniad sydd wrth wraidd dy fywyd di …

Fydden i ddim yn gallu byw heb ddarllen ac ysgrifennu. Mae geiriau yn fy ngwaed.

Diolch Mari.

Cyhoeddwyd Diwrnod Cyntaf Wini yn Hydref 2024 gan Rily.

 

Lawrlwythwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur a dysgwch hefyd am ein Hawduron y Mis  eraill yn ‘sgwennu’n y Gymraeg

Cookie Settings