Megan Angharad Hunter
Hydref 5, 2023
Mae Megan yn dod o Ddyffryn Nantlle ac astudiodd Cymraeg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn Y Stamp ac O’r Pedwar Gwynt, ac yn 2020 enillodd Ysgoloriaeth Awdur Ifanc Llenyddiaeth Cymru. Yn 2021, hi oedd prif enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn gyda’i nofel tu ol i’r awyr (Y Lolfa).
Nofel wyddonias i blant 8-12 oed yw Astronot yn yr Atig, ei gwaith diweddaraf . Mae Rosie Alaw, 11 oed, yn dod ar draws llong ofod ar y llwybr ar ei ffordd adre o’r ysgol. Mae hi’n methu credu ei lwc, oherwydd mae hi wedi gwirioni ar bopeth sy’n ymwneud â’r gofod a’r sêr a’r galaethau a’r planedau sydd y tu hwnt i’w dychymyg! Pan mae Astronot a Ffred yn gofyn am help Rosie, mae hi’n mynd ar daith arallfydol anhygoel! Ond mae’n mynd ar daith i ddarganfod hi ei hun hefyd, a rhaid iddi fod yn ddewr a goresgyn nifer o broblemau.
Llongyfarchiadau Megan ar gyhoeddi Astronot yn yr Atig…rho ychydig o dy gefndir inni – magwraeth, addysg…
Ges i fy magu ym Mhenygroes, Dyffryn Nantlle ac es i Ysgol Dyffryn Nantlle cyn symud i Gaerdydd i astudio Cymraeg ac Athroniaeth yn y brifysgol yno. Dwi wedi aros yn y brifddinas ers graddio yn 2022.
Pa ddylanwadau ac atgofion oedd yn sefyll allan yn dy blentyndod?
Dwi’n sbio ’nôl ar fy mhlentyndod ac yn ista yn yr atgofion hynny’n aml iawn, yn rhy aml, o bosib. Maen nhw’n gysur ond hefyd yn boenus i mi gan fy mod i’n ymwybodol iawn na fedrwn ni ail-afael ar yr hapusrwydd pur hwnnw mae llawer ohonom ni’n ei deimlo yn ystod ein plentyndod.
Mae gen i atgofion cryf iawn o’n cathod ni, Twm a Cadi – fuodd y ddwy ohonyn nhw farw yn ystod y Cyfnod Clo ond roedden nhw wedi bod yn rhan annatod o’n cartref ni ers i mi fod yn dair neu’n bedair oed. Un o’r unig atgofion sydd gen i o Taid ochr Mam, ydi gwylio’r ddwy’n gathod bach yn dringo ar draws ei ’sgwydda fo!
Mae’n gwyliau ni i’r UDA i ymweld â theulu Dad hefyd yn sefyll allan. Roedd y cyffro o’n i’n ei deimlo wrth deithio ar draws Môr yr Iwerydd yn ddigyffelyb gan ein bod ni ar fin gweld teulu (a chŵn!) nad oedden ni’n eu gweld yn aml iawn. Mae popeth am yr atgofion hynny’n teimlo’n hudolus i mi; treulio wythnosau hir o hafau poeth yn Cincinnati a Portsmouth yn bwyta frozen yogurt a phitsas, gwylio gemau baseball, rhedeg lemonade stands, cael water balloon fights a sleepovers efo’n cefndryd a’n cyfnitherod cyn troi at vapio mewn cae swings wedi’n hamgylchynu gan fireflies yn ein harddegau. Mi o’n i’n rhamanteiddio’r UDA yn ystod fy mhlentyndod a fy arddegau, ond dyna le’r oedd fy unig Nain a Taid yn byw, gan y bu farw Nain a Taid ochr Mam pan o’n i’n ifanc iawn, felly dwi ddim yn meddwl bod hynny’n syndod.
Fel person ifanc, pwy neu beth wnaeth ddylanwadu arnat? Miwsig, enwogion, rhaglenni teledu, llyfrau, cylchgronau, pobl yn dy fywyd bob dydd…
Gormod i’w henwi! Ond o ran dylanwadau cerddorol, dwi’n cofio gwrando ar gerddoriaeth glasurol efo Mam (dyma a sbardunodd fy nghariad tuag at ganu’r ffliwt, mae’n rhaid) ac amrywiaeth o gerddoriaeth Americanaidd efo Dad; caneuon fel Way Over Yonder in the Minor Key gan Billy Bragg & Wilco a fersiwn The Be Good Tanyas o Lakes of Pontchartrain, yn ogystal â roc a jazz.
Mae gwylio ffilmiau Studio Ghibli efo fy nhad a’m chwaer pan o’n i’n blentyn wedi dylanwadu rhywfaint ar fy awch i ddychmygu hefyd. Dwi’n cofio dotio ar y bydoedd dychmygol yn ffilmiau Hayao Miyazaki a oedd mor wreiddiol o’u cymharu â’r straeon gorllewinol o’n i wedi arfer efo nhw.
Dwi’n teimlo ton enfawr o embaras bob tro dwi’n cyfaddef hyn, ond yn anffodus mi wnes i stopio darllen llyfrau Cymraeg am gyfnod yn ystod fy arddegau. Gesh i fy swyno gan awduron Americanaidd poblogaidd fel John Green, ac o’n i’n cael trafferth dod o hyd i lyfrau Cymraeg efo lleisiau ifanc o’n i’n gallu uniaethu efo nhw yn yr un modd. Felly, dwi’n siŵr mai’r awch hwnnw am lyfrau Cymraeg ‘YA’ a’m sbardunodd i ddechrau sgwennu tu ôl i’r awyr yn fy arddegau. Ond dwi’n cofio darllen O! tyn y gorchudd ac Un Nos Ola Leuad yn ystod fy arddegau hwyr a gwirioni’n llwyr efo nhw. Dwi’n meddwl mai darllen y ddwy nofel honno wnaeth fy sadio i a’m hatgoffa fod yr arlwy o lenyddiaeth sydd ar gael yn y Gymraeg yn gwbl ddihafal, a dwi mor, mor ddiolchgar am hynny.
O ran y bobl a ddylanwadodd arna i, mae’n rhaid i mi sôn am athrawon Adran y Gymraeg, Ysgol Dyffryn Nantlle. Mi oedden nhw’n fy annog yn barhaol i gystadlu mewn Eisteddfodau lleol er mwyn datblygu fy nghrefft.
Beth yw dy ddylanwadau nawr?
Yr holl awduron a phobl greadigol anhygoel sydd gennym ni yma yng Nghymru, yn enwedig yr holl ferched a phobol LHDTC+ sy’n sgwennu’n y Gymraeg rŵan. Mae’n fraint cael bod yn eu mysg nhw a bod yn rhan o gymuned mor arbennig.
Pryd ddest ti’n ymwybodol dy fod eisiau sgwennu, oedd unrhyw ffactorau arbennig wedi cael effaith?
A bod yn onest, dwi ddim yn cofio pryd wnes i ddechrau sgwennu. Mae ’na phentyrrau o benodau cyntaf nofelau’n hel llwch adra; penodau cyntaf nofelau wnes i drio’u sgwennu pan o’n i’n hogan fach. Dwi’n siŵr fod creadigrwydd fy rhieni wedi bod yn ysgogiad mawr, ac roedden nhw wastad yn annog fy chwaer a finnau i fod yn greadigol.
Dywed ychydig am Astronot yn yr Atig, o ble ddaeth yr ysbrydoliaeth, a beth wyt ti’n gobeithio bydd darllenwyr yn gael o’r stori hon…
Mi fydd Astronot yn yr Atig yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa cyn bo hir, nofel wyddonias i blant tua 8-12 oed. Dwi ddim yn siŵr o ble ddaeth yr ysbrydoliaeth, ond y teitl ddaeth yn gyntaf ac wedyn dechreuodd y stori a’r cymeriadau dyfu.
Mae’r stori hon yn un eithaf personol a dwi’n meddwl y byddwn i wedi gwerthfawrogi stori o’r fath pan o’n i’n yr Ysgol Gynradd. Felly, dwi’n cyflwyno’r nofel i unrhyw un sydd erioed wedi teimlo fel nad ydyn nhw’n perthyn, ac yn gobeithio y bydd yn gwneud i rai darllenwyr deimlo’n llai unig yn ogystal â mynd â nhw ar antur llawn hwyl drwy’r gofod!
Beth yw dy hoff genres darllen, a pha lyfrau wyt yn darllen ar hyn o bryd?
Unrhyw beth heb law arswyd a straeon ditectif, ac yn anaml iawn fydda i’n darllen llyfrau ffeithiol. Dwi’n arbennig o hoff o lyfrau sy’n gwthio ffiniau’r dychymyg ac yn cario’r darllenydd i rywle hollol newydd. Dwi’n ail-ymweld â’r gyfres His Dark Materials yn aml, a llyfrau hudolus Erin Morgenstern fel The Night Circus a The Starless Sea. Yn ddiweddar, mi ges i’r un profiad dyrchafol wrth ddarllen campwaith Owain Owain, Y Dydd Olaf, am y tro cyntaf. Nofel arall sy’n wreiddiol ac unigryw tu hwnt yw Bearmouth; mae hi bron yn amhosib i’w disgrifio – oll fedra’ i ei wneud ydi erfyn ar bawb i’w darllen. Ar hyn o bryd, dwi ar ganol darllen Beloved gan Toni Morrison (dwi’n synnu nad ydw i wedi’i darllen o’r blaen gan ei bod yn gymaint o glasur ac wedi’i gosod yn Cincinnati, ble magwyd fy nhad!), Drift gan Caryl Lewis a chyfrol gyntaf Tegwen Bruce-Deans, Gwawrio. Dwi wedi gwirioni ar sgwennu hudolus y tair. Mi ydw i hefyd yn gwneud fy ffordd trwy gyfres wefreiddiol o straeon byrion gwyddonias gan N. K. Jemisin o’r enw How Long ’til Black Future Month?
Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnot yn ystod dy fywyd?
Roedd mynd i’r llyfrgell ar ôl ysgol wastad yn teimlo fel trît, hyd at fy arddegau; wna i fyth anghofio’r cyffro o’n i’n ei deimlo bob tro o’n i’n mynd i’r llyfrgell wrth dyfu i fyny. Dwi wedi bod yn ddarllenydd brwd ers erioed, felly roedd cael fy amgylchynu gan lyfrau yn y llyfrgell – a phob un ar gael i’w benthyg am ddim – yn bleser eithriadol.
Pa awgrymiadau sydd gyda ti i annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?
Sicrhau fod ’na amrywiaeth eang o lyfrau ar gael sy’n adlewyrchu amrywiaeth o leisiau a phrofiadau. Mae pob plentyn a pherson ifanc yn ysu am lais neu gymeriad maen nhw’n gallu uniaethu efo nhw.
Rho ddyfyniad sydd wrth wraidd dy fywyd di…
Dwi ’di bod yn ffodus iawn i fod yn rhan o griw Cynrychioli Cymru efo Llenyddiaeth Cymru eleni, ac yn ddiweddar gawson ni weithdy ysbrydoledig dan arweiniad Alex Wharton. Ro’n i’n teimlo’n eithaf isel y diwrnod hwnnw, ond mi ddywedodd Alex ei fod yn trin byw yn gyffredinol fel rhan o’r broses sgwennu ac yn trio mynd i’r afael â phopeth yn ei fywyd efo agwedd greadigol. Mi wnaeth clywed hynny sbarduno rhywbeth y tu mewn i mi. Dwi wedi bod yn troi at yr hyn ddywedodd o bob dydd ers y gweithdy hwnnw.
Cyhoeddir Astronot yn yr Atig ar 23ain o Hydref gan Y Lolfa.
Darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur ac am ein Hawduron y Mis eraill yn ‘sgwennu’n y Gymraeg