Meleri Wyn James
Tachwedd 4, 2024
Cafodd Meleri ei magu yn Beulah ac Aber-porth.Fe raddiodd yn y Gymraeg o Goleg Prifysgol Aberystwyth ac astudiodd MA yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Mae’n ysgrifennu llyfrau i blant ac oedolion ers dros 25 mlynedd. Mae’n mwynhau rhedeg, reidio ceffylau, darllen a threulio amser gyda theulu a ffrindiau.
Fe enillodd Meleri Wyn James y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Llyn ac Eifionydd yn 2023 am ei nofel Hallt. Ers hynny, mae hi wedi cael blwyddyn brysur yn hyrwyddo stori y nofel am berthynas mam a’i merch sy’n niwroamrywiol, yn siarad ar S4C a Radio Cymru ac yn ymweld â chlybiau darllen a chymdeithasau llenyddol dros Gymru.
Nofel ddirgelwch gyda llinyn storïol gref yn llinach nofelau ditectif Agatha Christie yw ei llyfr diweddaraf Dim Ond Un, wedi ei chyhoeddi gan Y Lolfa.
“Mae Carys a Nav yn edrych ymlaen i dreulio amser yn byw a gweithio ar ynys Enlli. Mae’n gyfle i newid byd, i ailddechrau ac i Carys wella ar ôl cwymp gas oddi ar geffyl rasio sydd wedi effeithio ar ei chorff a’i meddwl. Mae’n swnio fel cyfle delfrydol ond o fewn dim maen nhw wedi eu caethiwo ar yr ynys, gan amgylchiadau y tu hwnt i’w rheolaeth. Ac wrth iddyn nhw geisio penderfynu beth i wneud nesaf maen nhw’n dod o hyd i gorff…”
Mae’r nofel hon hefyd yn stori am berthnasau a chymlethdodau teuluol mewn cymuned cefn gwlad agos. Mae’r ddirgelwch yn anos i’w datrys i Carys oherwydd mae’r gwymp oddi ar y ceffyl wedi effeithio ar ei chof ac mae’n ddibynnol ar eraill i rannu gwybodaeth gyda hi. Ond, ydy pawb yn dweud y gwir? Bydd yn rhaid darllen y nofel i gael yr atebion!
Diolch Meleri am ateb rhai cwestiynau gan Lyfrgelloedd Cymru. Rho ychydig o dy gefndir inni…
Ces i fy ngeni yn Llandeilo ond fe symudodd y teulu i bentre Beulah ger Castell Newydd Emlyn pan o’n i’n fach iawn. Roedd Mam-gu yn cadw’r Post yn y pentref ac roedd angen help Dad arni gyda’r cyfrifon ac felly fe wnaethon ni symud i fod yn agosach ati. Yna, pan o’n i’n 9 oed fe symudon ni i bentref Aber-porth i fyw. Fe fuais i ysgolion cynradd Beulah, Aber-porth ac Ysgol Uwchradd Aberteifi.
Pan rwy’n edrych nôl ar fy mhlentyndod rwy’n cofio’r holl ryddid oedd gen i a fy chwaer, Catrin. Fe fydden ni’n crwydo’r pentre am oriau, yn anturio ac yn chwarae gyda ffrindiau. Roedd Mam-gu Post yn un dda am ddweud straeon ar lafar ac roedd Mam yn dda am ddarllen llyfrau gyda ni. Roedd Dad a Dacs (Dat-cu) yn barddoni ac felly fe ges fy magu yn sŵn geiriau a straeon. Rwy’n ddarllenwr brwd erioed ac fe ddechreuais i sgwennu straeon pan o’n i’n ifanc, rhyw 7 oed, a dwi ddim wedi stopio!
Es i i Brifysgol Aberystwyth i astudio gradd mewn Cymraeg ac astudio MA mewn Ysgrifennu Creadigol yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.
Pa ddylanwadau ac atgofion oedd yn sefyll allan yn dy blentyndod?
Ar wahân i’r bobl rwy wedi sôn amdanyn nhw eisoes, mae’n rhaid i mi dalu teyrnged i ddau athro Saesneg arbennig wnaeth danio fy niddordeb mewn llenyddiaeth Saesneg a rhoi hyder i mi, sef Carol Williams a’r diweddar Dafydd Wyn Jones. Roedd gan Dafydd Wyn Jones y ddawn i ddod â llên yn fyw. Rwy’n ddiolchgar iawn iddo am ei frwdfrydedd a’i anogaeth.
Fel person ifanc, pwy neu beth wnaeth ddylanwadu arnat?
Mae hwn yn gwestiwn mawr ac fe allai’r ateb fod yn un hir iawn! Ond, yn fyr, ro’n i’n blentyn yr wythdegau oedd yn gwylio Top of the Pops ac yn recordio caneuon oddi ar sioe y Top 40 ar Radio One ar nos Sul a mynd i’r Radio One Roadshows. Roedd Radio Cymru ymlaen yn y tŷ ac ro’n i’n mwynhau gwylio bandiau Cymraeg os oedden nhw’n chwarae’n lleol neu pan o’n ni yn yr Eisteddfod. Ro’n i’n ffan mawr o gerddoriaeth Prince ac mae ei LPs gen i o hyd, gyda ‘Meleri James’ wedi eu hysgrifennu arnyn nhw rhag ofn i fy chwaer eu dwyn! Ro’n i yn yr ysgol gydag aelodau Jess, roedd Brychan Llyr ac Emyr Penlan yn yr un dosbarth â fi. Roedd yn amser cyffrous i’w dilyn nhw nhw a’u gweld nhw’n blaguro.
Rwy wrth fy modd gyda straeon dirgelwch erioed ac felly roedd Doctor Who a Quincy yn hoff raglenni, yn ogystal â’r snwcer! Ro’n i wrth fy modd gyda straeon Alan Bennett, Roald Dahl a Dylan Thomas. Yn Gymraeg, fel plentyn, ro’n i’n darllen T. Llew Jones, cyfres y Llewod, Gweneth Lilly ac Emily Huws. Fe wnaeth llyfr Angharad Tomos Yma o Hyd a Meg Elis Cyn Daw’r Gaeaf argraff mawr arna i yn fy arddegau.
Rwy’n darllen y newyddion a chylchgronau yn gyson hefyd. Rwy’n hoffi gwybod beth sy’n digwydd a phwy yw pwy. Ac rwy’n caru ffasiwn!
Beth yw dy ddylanwadau nawr?
Teulu a ffrindiau da sy’n amyneddgar, yn garedig ac yn gariadus.
Pryd ddest ti’n ymwybodol dy fod eisiau sgwennu, oedd unrhyw ffactorau arbennig wedi cael effaith?
Ddechreuais i sgwennu straeon antur pan o’n i’n rhyw 7 oed ac fe wnes i drio cystadleuaeth sgwennu gyda chylchgrawn Pony pan o’n i’n 9 oed. Ro’n i wrth fy modd yn reidio ceffylau (ac yn dal i fod) ond doedd dim jodhpurs gen i. Fe enillias i bâr am sgwennu stori, peth cyffrous iawn ar y pryd. Dwi ddim yn meddwl bod sgwennu yn ddewis i mi. Mae yna straeon yn chwyrlio yn fy mhen o hyd. Rwy’n mwynhau sgwennu ac mae’r mwynhad yna o fod ym myd dychymyg ac o fireinio geiriau yn bwysig ofnadwy yn fy marn i.
Mae cystadlu wedi bod yn hwb i mi fel awdur. Fe wnes i gyhoeddi fy llyfr cyntaf ar ôl ennill Medal Lenyddiaeth yr Urdd yn 1991, sef Mwydyn yn yr Afal a chyhoeddi fy nofel gyntaf, Catrin Jones yn Unig, diolch i gystadleuaeth gan wasg Gomer. Mae yna awduron eraill sydd wedi fy annog i dros y blynyddoedd, gan gynnwys Dr John Rowlands, Menna Elfyn, Manon Rhys a Rhiannon Ifans a roddod gic i mi gystadlu am Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae gwasg y Lolfa wedi bod yn gefnogol tu hwnt ers blynyddoedd mawr ac rwy’n ddiolchgar iawn i deulu’r Lolfa.
Dywed ychydig am Dim Ond Un, o ble ddaeth yr ysbrydoliaeth, a beth wyt ti’n gobeithio bydd darllenwyr yn gael o’r stori hon…
Nofel ddirgelwch yw hi ac mae’n cychwyn wrth i Carys a Nav deithio i ynys Enlli i ddechrau ar gyfnod newydd yn eu bywyd. Mae Carys yn dal i ddioddef ar ôl cael anaf difrifol sydd wedi effeithio ar ei chof ac ar ei chorff. Ond er eu bod yn mynd i’r ynys i ddianc maen nhw’n canfod eu hunain wedi eu caethiwo gan storm ac wrth i gyfrinachau ddod i’r amlwg mae yna corff yn cael ei ddarganfod. Dwi ddim am ddweud mwy na hynny. Gobeithio y bydd pobol yn cael blas ar y stori, y bydd hi’n gafael o’r bennod gyntaf ac yn dal y darllenydd nes y diwedd.
Beth yw dy hoff genres darllen, a pha lyfrau wyt yn darllen ar hyn o bryd?
Yn fy ngwaith yn y Lolfa, rwy newydd ddarllen Dynol Iawn, sef casgliad o ysgrifau gan bobol sy’n byw gydag ADHD ac awtistiaeth, wedi ei golygu gan Non Parry. Mae’n gyfrol bwysig yn fy marn i. Fe es i ati i lunio’r nofel Hallt am berson ifanc niwro amrywiol am ei fod yn bwysig tu hwnt i glywed gwahanol leisiau yn Gymraeg. Yn Saesneg, dwi newydd ddarllen Ultra-Processed People. Fe fyddai’n rhedeg Hanner Marathon Caerdydd cyn bo hir. Rwy’n aelod o Glwb Athletau Aberystwyth ac mae bwyta’n iach a chadw’n heini yn bwysig i mi. Wrth fy ngwely ar hyn o bryd mae Kate Atkinson, Shrines of Gaiety a Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Rhondda Cynon Taf 2024 a geid i Delhi, Jaipur ac Agra ble fyddai’n mynd ym mis Tachwedd.
Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnot yn ystod dy fywyd?
Galla i gofio fan y llyfrgell deithiol yn parcio tu allan i’r ty ym mhentre Beulah a chyffro cael mynd i mewn i ddewis llyfr newydd i’w ddarllen. Dwi ddim yn amau i hynny drawsnewid fy mywyd i. Pan oedd fy mhlant innau yn fach fe fydden ni’n mynd i lyfrgell y dre yn Aberystwyth un pnawn yr wythnos i ddewis llyfr yr un ac i fwynhau’r awyrgylch – ymgolli ym myd y llyfrau lliwgar, gwrando ar stori a thynnu llun wrth y bwrdd bach.
Pa awgrymiadau sydd gyda ti i annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?
Darllenwch gyda phlant a gadewch iddyn nhw eich gweld chi yn ddarllen. Annogwch nhw i ddilyn eu diddordeb o ran yr hyn maen nhw’n ddarllen. Fe fydden i’n annog plant a phobol ifanc i feddwl beth maen nhw’n fwynhau, beth yw eu breuddwydion… alla i eu sicrhau nhw bod yna gannoedd o lyfrau am y pethau hynny! Os nad yw llyfr yn eich difyrru chi, gadwch e i fod a dewiswch rhywbeth arall.
Rho ddyfyniad sydd wrth wraidd dy fywyd di…
Gwell trio a methu na pheidio trio o gwbl – felly, ewch amdani.
Diolch Meleri.
Cyhoeddwyd Dim Ond Un ar Hydref 30ain gan Y Lolfa.
Llun Meleri Wyn James gan Elin Vaughan Crowley
Lawrlwythwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur a dysgwch hefyd am ein Hawduron y Mis eraill yn ‘sgwennu’n y Gymraeg