Sian Llywelyn

 
Magwyd Siân Llywelyn ym Mhenrhyndeudraeth. Astudiodd am radd ar y cyd mewn Cymraeg a Cherddoriaeth, ac aeth ymlaen i ddilyn M.A mewn Ysgrifennu Creadigol. Bu’n athrawes am 15 mlynedd. Mae wedi profi llwyddiant mewn cystadlaethau ysgrifennu amrywiol yn Eisteddfodau Powys a Môn, a phan nad yw’n sgwennu mae’n treulio’i hamser hamdden yn cerdded, meddwi ar hanes Cymru, teithio a garddio. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Drychwll, yn 2020.
 
Bydd ail nofel Sian, Darogan, yn cael ei gyhoeddi ar y 15ed o Dachwedd gan Gwasg Carreg Gwalch…
 
Mewn lleoliad anhysbys yn Nolgellau mae pencadlys DAROGAN, asiantaeth gudd sy’n ymchwilio i ddigwyddiadau anesboniadwy a goruwchnaturiol. Wrth i Beca a Taran Fôn gydweithio i geisio datrys sawl dirgelwch, maent yn cael eu tynnu’n ôl i orffennol dyrys Cymru, ac yn darganfod nad o’r tu allan yn unig mae’r bygythiad.

Diolch i Sian am gyflwyno ei nofel inni’n ddiweddar…

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu Darogan?

  Yn syml iawn, hanes Cymru. Mae ein hanes ni’n llawn o’r hyn sydd wedi siapio Cymru heddiw ac mae digon o straeon i ddewis ohonynt. Dwi’n hoff o elfennau goruwchnaturiol mewn straeon hefyd, felly unwaith eto, fel yn fy nofel gyntaf, Drychwll, penderfynais gyfuno’r ddau beth.

 

 

Dywedwch ychydig am y stori…

 Mae asiantaeth o’r enw DAROGAN yn archwilio achosion paranormal, reit debyg i’r X-Files oedd ar y teledu yn y 1990au. Ond mae pob achos â’i wreiddiau’n ddwfn mewn elfen o hanes Cymru.

Beth ydych chi’n gobeithio y bydd darllenwyr yn ei gael o’r stori hon?

 Difyrrwch ydy’r peth mwyaf. Yr awydd yna i droi i’r dudalen nesaf a darllen mwy. Gobeithio y bydden nhw’n magu awydd i wybod mwy am hanes ein gwlad hefyd.

Oedd unrhyw heriau arbennig wrth baratoi’r llyfr?

 Wrth gynllunio, roedd hi’n bwysig cyfuno rhan o hanes efo achos goruwchnaturiol oedd yn gweddu i’r hanes hwnnw. Hefyd mae un o’r prif gymeriadau yn anneuaidd, ac roedd defnyddio’r ramadeg gywir er mwyn parchu’r cymeriad yn gofyn am feddwl, ail feddwl a meddwl eto yn aml iawn (yn enwedig wrth osgoi treigladau ac ati).

O ble ydych chi’n cael eich ysbrydoliaeth?

 Gwylio The X-Files oeddwn i yn ystod y cyfnod clo, a daeth y syniad i mi yn sydyn, wedyn dyma ddechrau ysgrifennu syniadau fel fflamia!

Pe bai’n rhaid ichi ddisgrifio eich hun mewn tri gair yn unig, beth fyddai’r rheini?

 Cenedlaetholgar, penderfynol, gobeithiol.

Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc?

Cyfres Rala Rwdins, Llyfr Mawr y Plant, Straeon Tylwyth Teg, Teulu’r Cwpwrdd Cornel, Straeon i Godi Gwallt, Straeon Hanner Nos, Ysbrydion, Sweet Valley Twins, Cyfres y Corryn, Jabas, Cysgod y Cryman, Seren Wen ar Gefndir Gwyn, Y Chwedlau Cymraeg Canol, The Da Vinci Code, Angels and Demons.

Pa lyfr sydd ar eich bwrdd wrth ochr y gwely ar hyn o bryd?

 Safana gan Jerry Hunter, a The Ragged Trousered Philanthropist gan Robert Tressell.

 

     

 

Pe gallech wahodd unrhyw dri pherson am ginio, pwy fyddech chi’n ei wahodd?

 Mae gormod o ddewis, ond un yn bendant fyddai Ellis Wynne, y Bardd Cwsg o’r Lasynys Fawr, Harlech.

Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnoch drwy eich bywyd?

 Mae’n siŵr mai’r llyfrgell rydw i wedi treulio’r rhan fwyaf o amser ynddi ydy Llyfrgell Shankland, Prifysgol Bangor. Mae hi’n ystafell hardd iawn ac wedi bod yn hafan i ddianc iddi er mwyn cael canolbwyntio ar fy ngwaith am flynyddoedd.

Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau er mwyn annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?

Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod darllen llyfr yn mynd i fod yn ddiflas. Mae darllen yn ymarfer y meddwl mewn ffyrdd all sgrin gyfrifiadur neu deledu ddim ei wneud. Os ydych chi’n dymuno gwella eich darllen, dewch o hyd i griw o rai sy’n dymuno gwneud yr un peth a sefydlwch eich clwb darllen eich hun. Cofiwch hefyd bod gwahanol fathau o ffurfiau i’w darllen, nid straeon yn unig.

A oes gennych unrhyw gynlluniau ar gyfer teitlau pellach?

 Ar hyn o bryd dwi’n dilyn doethuriaeth o dan Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Bangor mewn Ysgrifennu Creadigol. Felly dwi’n gweithio ar nofel arall. Ei theitl am rŵan ydy ‘Croesi Manogan’, ond efallai y bydd hynny’n newid yn y pen draw.

Cyhoeddir Darogan ar 15 Tachwedd gan Gwasg Carreg Gwalch (Twitter @CarregGwalch)

Darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur sy’n cyflwyno’r awdur a’i llyfr newydd. 

Darllenwch am ein Hawduron y Mis  eraill yn ‘sgwennu’n y Gymraeg

Cookie Settings