Simon Chandler

 

Mae dysgu Cymraeg yn rhugl yn dipyn o gamp, ond mae Simon Chandler, sy’n enedigol o Lundain, wedi mynd sawl cam ymhellach. Yn ogystal â meistroli’r gynghanedd, mae wedi ysgrifennu ei nofel gyntaf, sy’n rhannol seiliedig ar hanes chwarelyddol ardal Blaenau Ffestiniog.

   Mae’r nofel Llygad Dieithryn yn cael ei hadrodd o safbwynt Katja, Almaenes ifanc sydd wedi dysgu Cymraeg, a’i hen, hen daid, Friedrich, fu’n garcharor yng ngwersyll Rhyfel Fron-goch ger y Bala yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r ddau’n dod ar draws y Gymraeg mewn ffyrdd gwahanol iawn, ac yn gweld Cymru a’r Gymraeg o’r tu allan: gyda llygad dieithryn. Mae’r ddau hefyd yn datblygu cysylltiad personol iawn â Chymru, ac ardal Blaenau Ffestiniog yn benodol.

Yn 2001, cafodd Simon ei ysbrydoli yn ystod ymweliad â cheudyllau llechi Llechwedd. Clywodd recordiad sain yno am fywydau’r chwarelwyr ganrif ynghynt, a chafodd ei swyno gan lais yr adroddwr a’r hanesion, a dechreuodd ddysgu’r iaith Gymraeg. 

Aeth i ddysgu mwy am ardal Blaenau a’i chwareli, ac un o’r llyfrau a ddarllenodd oedd Stiniog a’r Rhyfel Mawr gan Vivian Parry Williams, lle dysgodd am wersyll-garchar Fron-goch. Daeth y syniad yn fuan wedyn am nofel yn trafod gwarchodwr o Gymru a charcharor o’r Almaen yn dod yn gyfeillion, ac wedi hynny, yn syrthio mewn cariad. Ochr yn ochr â hynny mae stori Katja sydd, fel y gwnaeth Simon ei hun, yn ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 2019.

Gan fod Simon wedi cael budd mawr o wrando ar lyfr llafar ar yr un pryd â darllen y llyfr print tra oedd yn dysgu Cymraeg, mae fersiwn llafar o Llygad Dieithryn yn cael ei lansio ochr yn ochr â’r fersiynau print ac e-lyfr – y nofel lafar gyntaf i oedolion i gael ei gwerthu ar wefan Ffolio y Cyngor Llyfrau. Caiff ei darllen gan Mererid Hopwood. 

Bellach, mae’n golofnydd yng nghylchgrawn Barddas, mae wedi rhyddhau dau albwm o ganeuon Cymraeg ac mae ganddo englynion mewn dwy flodeugerdd ddwyieithog. Mae’n gyfreithiwr yn ei waith bob dydd, a lluniodd Diogelwn ar gyfer Cymdeithas yr Iaith: cynllun cyfreithiol sy’n gwarchod enwau Cymraeg ar dai a thir. Mae’n rhedeg Grŵp Sgwrs a Pheint Manceinion yn ei ddinas fabwysiedig. Hon yw ei nofel gyntaf.

 

 

Llongyfarchiadau enfawr Simon ar gyhoeddi Llygad Dieithryn, rho ychydig o dy gefndir inni – magwraeth, addysg…

Cefais fy ngeni ac fy magu yn Llundain.  Er mawr gywilydd i mi, fe fynychais (oherwydd uchelgais fy nhad) ysgol fonedd yng Ngogledd Llundain sy’n berchen (ymysg asedau tiriog eraill) ar res o fythynnod ger Llanfihangel-y-Pennant ym Meirionnydd (o’r enw Cerrig Pryfaid), ac roedd yn rhaid i mi fynd i aros yno bob haf am flynyddoedd yn fy nglasoed er mwyn ei cherdded hi yn y mynyddoedd.  Dwi’n cofio’n glir iawn droedio trwy Feddgelert am 7 o’r gloch y bore ar un daith gerdded benodol.  Roedd gan Gymru ryw gyfaredd i mi hyd yn oed bryd hynny, er nad oeddwn i’n gallu’i hamgyffred.  Doedd dim arwydd bod gen i lawer o ddawn ieithyddol yn yr ysgol, ond dwi’n cofio mwynhau Lladin.  Mae’n rhaid cyfaddef i mi gasáu fy nyddiau ysgol â chas perffaith ar y cyfan.  Fawr o syndod y des i’n sosialydd nad yw’n hoff o bobl freintiedig sydd â theimlad o hawl i bopeth!  Fe fynychais Brifysgol Caerhirfryn wedyn a oedd yn llawer mwy at fy nant i.  Dwi wedi gweithio fel cyfreithiwr ym Manceinion ers 35 o flynyddoedd.  

 Pa ddylanwadau ac atgofion oedd yn sefyll allan yn dy blentyndod? 

O ran y Gymraeg, roedd gen i gyfaill da yn yr ysgol gynradd a oedd yn Gymro twymgalon.  Rhys oedd ei enw, ac dwi’n cofio eistedd wrth ei ymyl ar fws un diwrnod ar drip ysgol i Gaerfaddon, ac yntau’n ceisio fy addysgu i sut i ynganu’r gair “Cymru”.  Collon ni gysylltiad yn yr ysgol uwchradd am ryw reswm, ond fe gysylltodd Rhys unwaith eto’n gynharach eleni ar ôl iddo ddarganfod (trwy erthygl mewn papur newydd yn Lloegr ynglŷn â chynllun DIOGELWN y gwnes i ei lunio i Gymdeithas yr Iaith) fy mod i wedi dysgu Cymraeg.  Cawson ni’n sgwrs gyntaf ni ers bron i hanner canrif yn ddiweddar (dros Zoom)… ond yn Gymraeg y tro hwn, wrth gwrs!  Roedd yn brofiad gwefreiddiol. 

 Fel person ifanc, pwy neu beth wnaeth ddylanwadu arnat? Miwsig, enwogion, rhaglenni teledu, llyfrau, cylchgronau, pobl yn dy fywyd bob dydd…

Fel person ifanc, roedd fy nylanwadau’n gwbl Saesneg (ond wedyn roedd yna ambell un Almaeneg hefyd ar ôl i mi ddysgu’r iaith honno yng nghanol fy ugeiniau).  O ran cerddoriaeth (sef fy mhrif ddiddordeb yn fy arddegau a’m hugeiniau cynnar), roeddwn i ag obsesiwn â David Sylvian, prif leisydd y grŵp pop, Japan, ond roeddwn i’n hoff o lwyth o gerddoriaeth bop arall hefyd yn hanner cyntaf y 1980au, gan gynnwys Duran Duran, Simple Minds, Imagination, Sting, Level 42, Human League, George Michael, Style Council, Bronski Beat ayyb.  O ran llyfrau, fe gafodd y nofel La Peste gan Albert Camus gryn dipyn o effaith arnaf i pan oeddwn i’n 17 oed, ac roedd hi’n brofiad rhyfedd darllen y cyfieithiad campus, Pla, gan Anna Gruffydd eleni, 42 o flynyddoedd yn ddiweddarach.  Roeddwn i’n hoff iawn o raglenni teledu fel Blackadder ac Inspector Morse yn ogystal.  Cwrddais â’m gwraig i pan oeddwn dim ond yn 20 oed, ac felly mae’n rhaid crybwyll ei dylanwad hi sydd wedi bod yn un cyson ers dros bron i bedwar degawd.  O ran dylanwadau di-Saesneg, mae’r iaith Almaeneg a’i llenyddiaeth wedi bod yn hynod o bwysig i mi ers dros 30 mlynedd, ond dwi hefyd yn hoff iawn o Ffrangeg (yn ogystal â Phortiwgaleg Frasilaidd a’r dull cerddorol o Frasil, bossa nova, sy’n cael ei ganu yn yr iaith honno). 

 Beth yw dy ddylanwadau nawr?

Bellach, mae fy nylanwadau’n Gymraeg i gyd, bron â bod, sy’n dangos y trawsffurfiad llwyr sydd wedi digwydd yn fy mywyd ers i mi ddysgu’r iaith.  Tröedigaeth yw’r gair siŵr o fod!  Dwi wrth fy mod gyda’r rhan fwyaf o gerddoriaeth, llenyddiaeth a barddoniaeth Gymraeg.  Mae dysgu cynghanedd wedi bod yn brofiad chwyldroadol hefyd.  Mae byd y Gymraeg fel cefnfor rydw i’n gallu nofio ynddo, ond mae’r byd hwnnw hefyd yn ymdebygu i wlad hud a lledrith, megis Narnia.  Y gwir yw (a minnau bron yn chwe deg oed bellach) fy mod i’n dal i deimlo fel plentyn ym myd y Gymraeg ar ôl treulio dim ond saith mlynedd ynddo.  Mae gen i gymaint i’w ddysgu o hyd, nid yn unig am yr iaith ei hun, ond hefyd am bobl Cymru, eu hanes a’u hymarferion cymdeithasol.  Dwi’n dal i godi cywilydd arnaf i fy hun yn aml trwy wneud camgymeriadau cymdeithasol gwirion oherwydd anwybodaeth.  

 

 

Pryd ddest ti’n ymwybodol dy fod eisiau sgwennu, oedd unrhyw ffactorau arbennig wedi cael effaith?

Dwi’n cofio darllen nofelau hanesyddol, rhamantus Jean Plaidy (sef ffugenw Eleanor Alice Burford) pan oeddwn i tua deg oed, ac yn breuddwydio am ysgrifennu nofelau tebyg.  Mae gan bob un o’r nofelau rydw i wedi’u hysgrifennu neu’u plotio hyd yn hyn elfen o ramant ynddi, rhaid cyfaddef.  Wedi dweud hynny, y tro cyntaf i fi gael syniad da ar gyfer plot nofel oedd ar ôl i mi ymweld â cheudyllau llechi Llechwedd yn 2001 pan oeddwn i’n 37 oed.  Roeddwn i’n awyddus i briodi Cymru (ac yn enwedig Blaenau Ffestiniog) a’r Almaen (ac yn enwedig Berlin) mewn nofel, ac (wrth gwrs) dyna’r hyn a wnes i yn achos Llygad Dieithryn yn y pen draw hefyd.  Treuliais ddwy flynedd (rhwng 2001 a 2003) yn datblygu plot enfawr ar gyfer nofel Saesneg “epig”, ond mae’n amlwg i mi bellach i mi fod yn mynd ar ôl sgwarnog ar y pryd.  Nid oedd gen i’r wybodaeth na’r sgiliau roedd eu hangen i ysgrifennu nofel gwerth ei darllen, ac yn enwedig un wedi’i gosod yn rhannol yng Nghymru.  Roedd fy arddull ysgrifennu (yn Saesneg) yn orflodeuog hefyd.  Fodd bynnag, es i ati y llynedd (ar ôl i mi gwblhau Llygad Dieithryn) i ysgrifennu nofel Gymraeg yn seiliedig ar y plot gwreiddiol hwnnw ac fe wnes i gwblhau’r nofel (sef Hiraeth Neifion, fy ail nofel Gymraeg ac, yn wir, fy ail nofel mewn unrhyw iaith) cyn diwedd y flwyddyn. 

 Dywed ychydig am Llygad Dieithrin, o ble ddaeth yr ysbrydoliaeth, a beth wyt ti’n gobeithio bydd darllenwyr yn gael o’r stori hon…

Oherwydd bod Llygad Dieithryn yn nofel ddirgelwch, dylwn beidio â datgelu gormod amdani, ond (yn y bôn) mae Katja, Almaenes ifanc (sydd wedi dysgu Cymraeg ar ôl cael ei hysbrydoli gan straeon chwedlonol am ei hen, hen daid), yn dod i Gymru ar drywydd cyfrinach deuluol sy’n ymestyn dros ganrif i’r gorffennol.  Mae yna stori garu ymysg y dirgelwch hefyd.  Ysbrydolwyd plot y nofel gan un paragraff bach yn llyfr ffeithiol Vivian Parry Williams, ’Stiniog a’r Rhyfel Mawr, sy’n sôn am hen waith wisgi o’r enw Frongoch (ger Y Bala) a gafodd ei addasu’n wersyll-garcharor ym 1915 ar gyfer swyddogion ym Myddin yr Almaen.  Dwi’n gobeithio y bydd siaradwyr newydd yn gallu uniaethu â Katja, y prif gymeriad, ac y bydd siaradwyr iaith gyntaf yn cael blas ar weld eu byd nhw trwy eu llygaid hi. 

 Beth yw dy hoff genres darllen, a pha lyfrau wyt yn darllen ar hyn o bryd?

Fy hoff genre yw nofelau ditectif hanesyddol, ond dwi’n hoff iawn o straeon ysbïo hefyd, a phob math o nofelau eraill.  Dwi’n mwynhau darllen nofelau Cymraeg ac Almaeneg (ond nid Saesneg, er fy mod i wedi darllen ambell i nofel Ffrangeg yn y gorffennol hefyd).  Yn ddiweddar, dwi wedi darllen Cwlwm gan Ffion Enlli, Ffoi Rhag y Ffasgwyr gan Myrddin ap Dafydd ac Adra gan Simon Brooks, ac dwi newydd ddechrau darllen Adar Mud gan Sian Rees, y bydd fy nghlwb darllen i (sef Clwb Darllen Ar-lein Manceinion (a thu hwnt!)) yn ei thrafod yng nghwmni’r awdures ei hun ym mis Medi. 

 

 

 Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnot yn ystod dy fywyd?

Y gwir yw nad ydw i wedi gwneud defnydd mawr o lyfrgelloedd ers amser maith (ar wahân i lyfrgelloedd y gyfraith, a minnau’n gyfreithiwr).  Y prif reswm dros hynny yw’r ffaith i mi fod yn awyddus ers degawdau (cyn i mi ddysgu Cymraeg) i ddarllen llyfrau Almaeneg yn bennaf nad ydynt ar gael mewn llyfrgelloedd ym Mhrydain.  Ar y llaw arall, fe gefais flas mawr ar fy ymweliad ag Archifdy Meirionnydd yn Nolgellau pan oeddwn i’n gwneud gwaith ymchwil ar gyfer Llygad Dieithryn, ac dwi’n edrych ymlaen at dreulio amser yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth fel rhan o’m gwaith ymchwil ar gyfer fy nhrydedd nofel (rydw i wedi’i phlotio’n barod, ac sydd wedi’i gosod yn rhannol yn y dref honno).  Er bod cynifer o adnoddau digidol ar gael ar y rhyngrwyd y dyddiau hyn, dim ond mewn archifdai a llyfrgelloedd eraill y mae modd dod o hyd i rai o’r darnau aur mwyaf gwerthfawr o wybodaeth.  

 Pa awgrymiadau sydd gyda ti i annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?

Hyd yn oed pan oeddwn i’n blentyn yn y 1970au, roeddwn i wrth fy modd gyda llyfrau llafar.  Mae gwrando ar lyfr llafar fel cael rhiant yn darllen stori amser gwely i chi, ac dwi’n dal i deimlo rhywbeth tebyg hyd heddiw.  Yn fy marn i, dyna ffordd wych o ysgogi plant i ddarllen.  Fe gytunodd Cyngor Llyfrau Cymru i ariannu llyfr llafar Llygad Dieithryn (wedi’i leisio gan Mererid Hopwood), sy’n cyd-fynd â nofel, er mwyn annog rhagor o bobl (gan gynnwys pobl ifanc) i ddarllen er pleser, ac dwi’n croesawu hynny’n fawr. 

 Rho ddyfyniad sydd wrth wraidd dy fywyd di…

“Dyfal donc a dyr y garreg”: dyma’m hethos i, yn ogystal â’r frawddeg gyntaf a ddysgais yn Gymraeg.  Yn fy marn i, mae dyfalbarhad yn llawer pwysicach na thalent neu ddawn. 

Cyhoeddwyd Llygad Dieithryn ar 7 Gorffennaf 2023 gan Gwasg Carreg Gwalch.

Darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur ac am ein Hawduron y Mis  eraill yn ‘sgwennu’n y Gymraeg

Cookie Settings