Sioned Erin Hughes
Ionawr 17, 2023
Graddiodd Sioned Erin mewn Cymdeithaseg a Chymraeg o Brifysgol Bangor, cyn dilyn cwrs Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol o dan arweiniad Yr Athro Gerwyn Wiliams. Dechreuodd ysgrifennu’n greadigol o ddifri yn 2017, pan aeth yn wael eto gyda chyflwr niwrogyhyrol. Defnyddiodd ysgrifennu fel dull ymdopi pan ddaeth ei bywyd, fel yr oedd hi’n ei adnabod, i stop.
Daeth yn fuddugol am y Goron yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed yn 2018, ac yn 2019, hi oedd curadur a golygydd y gyfrol Byw yn fy Nghroen (Y Lolfa), sy’n cynnwys straeon 12 o bobl ifanc sy’n byw, neu’n dioddef â chyflyrau iechyd corfforol a/neu feddyliol hirdymor. Enillodd y llyfr hwn Wobr Tir na n-Og iddi yn 2020, ac yn 2020 hefyd y cyhoeddodd ei llyfr cyntaf i blant, sef Y Goeden Hud (Gwasg Carreg Gwalch), yn ystod y cyfnod clo cyntaf.
Yn 2022, enillodd y Fedal Ryddiaith yng Ngheredigion am ei chyfrol gyntaf i oedolion, Rhyngom, ac ar hyn o bryd, mae’n arbrofi gyda llen meicro a cherddi ar ei chyfrif Instagram, @myfyrdod365.
Mae’n byw yng Ngheidio, Boduan, efo’i phartner, Dafydd, a’i chi bach, Eldra, ac yn gweithio fel Swyddog Marchnata i wasg y Lolfa dros gyfnod mamolaeth, ac ar brosiectau llawrydd hefyd.
Rydym yn ddiolchgar i’r awdur am ateb sawl cwestiwn inni’n ddiweddar am ei chyfrol Rhyngom a’r byd llyfrau…!
Beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu Rhyngom a dywedwch ychydig am y stori…
Mi wnes i sgwennu Rhyngom gan mod i’n byw a bod yn astudio’r rhyngweithiad rhwng pobl, felly roedd hi’n braf cael rhywbeth i’w ddangos am yr holl synfyfyrio dros y blynyddoedd! Does yna ddim byd yn hawlio fy sylw i fel y cysylltiad rhwng pobl. Dwi’n byw er mwyn dod o hyd i’r cysylltiadau hynny, a’u ffurfio nhw fy hun. Mae Rhyngom yn edrych ar y clymau rhwng bodau dynol, a sut mae clymau yn gallu uno a chaethiwo, yn dibynnu ar y sefyllfa. Mae’r gyfrol yn edrych ar yr ysfa i ddianc, a’r teimlad o fethu â dianc. Dwi’n gobeithio’i bod yn mynd at graidd pwy ydyn ni, neu o leiaf yn codi cwr y llen ar hynny. Mi gaiff y llyfr nesaf fynd â ni i fwy o fanylder, pryd bynnag ddaw hwnnw i’r golwg!
Pam rydych chi’n ysgrifennu?
Gan na alla i feddwl peidio. Dwi wedi cael ryw seibiant o flwyddyn o ysgrifennu, ond mi dwi wedi dechrau cyfrif ar Instagram eleni o’r enw myfyrdod365, lle dwi’n sgwennu cerdd neu ddarn o lên meicro bob dydd am flwyddyn (bob croeso i unrhyw un fy nilyn!) Fel gefail, mae’r angen i sgwennu wedi cydio eto. Mae’r adegau yma’n gallu achosi’r newid mwyaf tu mewn imi. Dwi wedi mynd o fod yn gymdeithasol iawn y llynedd i fod eisiau treulio fy nyddiau ar fy mhen fy hun yn darllen a sgwennu ers ryw dair wythnos rŵan, ac yn ei chael hi’n anodd drybeilig meddwl mynd i ganol pobl eto. Ond mi wna i newid eto mewn ychydig fisoedd, felly dwi’n gweithio a dwi ddim yn digio at y patrwm – mae’n rhoi’r gorau o’r ddau fyd imi.
Beth sy’n eich ysbrydoli?
Pobl, eu straeon nhw. Llyfrau, yn bendant, ond pobl o gig a gwaed hefyd. Mae’n rhyfedd sut mae cymaint o bobl yn grediniol nad oes ganddyn nhw ddim byd difyr i’w rannu, ond o siarad, mae ’na berlau drud o hanesion yn llifo allan. Mi faswn i wir yn caru tasa pawb yn credu bod yna werth eithriadol i’w straeon nhw, a ’mod i eisiau gwrando ar bob manylyn sydd ganddyn nhw i’w rannu.
Sut oeddech chi’n gwybod eich bod eisiau bod yn awdur a phryd ddaethoch yn ymwybodol o hyn?
Does gen i ddim ateb i hyn mewn gwirionedd – pobl eraill ddywedodd wrtha i mod i’n awdur, cyn i fi fy hun arddel y teitl. Ac o ran gwybod mod i eisiau sgwennu, dwi’n meddwl nes i ddod i’r sylweddoliad yn araf bach yn ystod cyfnodau hir o waeledd. Roedd sgwennu’n achubiaeth imi a doedd yna ddim troi yn ôl wedyn.
Pwy yw rhai o’r awduron rydych chi’n eu hedmygu?
Yn y Gymraeg, dwi’n neidio at yr enwau Aled Jones Williams a Sonia Edwards. Dwi hefyd yn credu bod sgwennu Angharad Tomos yn athrylithgar, ac er na alla i sgwennu fel Mihangel Morgan, alla i ddim llai na rhyfeddu ato a’i ddychymyg prin – dwi’n meddwl ei fod o’n wirioneddol wych.
Dwi ddim yn dilyn gwaith un awdur penodol yn y Saesneg ond yn hytrach yn prynu tocyn o lyfrau amrywiol. Rhai o’r llyfrau sy’n mynd i aros efo fi am byth ydi Know My Name gan Chanel Miller, The Choice gan Edith Edger, Educated gan Tara Westover, The Body Keeps The Score gan Bessel Van Der Kolk, The Man Who Mistook His Wife for a Hat gan Oliver Sacks, ac wrth gwrs, The History of Love gan Nicholas Krauss. Mae’r rhestr, mewn gwirionedd, yn ddiddiwedd. Does yna ddim byd sy’n well gen i na meddwl bod yna gannoedd ar filoedd o lyfrau allan yna yn dal i aros imi eu darllen. Maen nhw’n ddihangfa, yn noddfa, ac yn ffordd imi ddysgu am fyd sy’n gallu bod yn gymhleth iawn imi.
Ai ysgrifennu yw’r unig gyfrwng artistig rydych chi’n ei wneud?
Ar hyn o bryd, ia, ond dwi’n gobeithio dechrau podlediad fy hun ryw ddydd. Go brin gaf i amser rhwng popeth eleni, ond mi fydd yn rhywbeth i’w gadw mewn cof at 2024 – 2025.
Pa gyngor y byddech chi’n ei roi i’ch hunan yn iau?
Mor anodd! Dwi’n mynd yn ddagreuol bob tro dwi’n gweld cwestiwn fel ’ma. Ond dwi’n meddwl mai’r prif beth fyddwn i’n ei ddweud wrtha i fy hun fyddai i beidio â thrio mor galed i wneud bob dim yn iawn, ac mi fyddwn i’n ychwanegu bod gwneud rhywbeth bach o’i le ddim yn golygu mod i’n berson drwg.
Beth yw eich proses ysgrifennu?
Fel imi ei ddweud uchod, dwi’n sgwennu cerdd neu ddarn o lên meicro bob diwrnod am flwyddyn, ond dwi’n gwneud hynny yn gwybod nad ydyn nhw’n mynd i fod yn berffaith. Mi fydd yna ddiwrnodau lle fyddai’n methu â gwasgu mwy na dyrniad o eiriau allan ohona i, dwi’n eu rhagweld nhw rŵan! Ond does yna ddim byd yn bod efo hynny. Dwi’n mynd i’w rhoi nhw allan i bawb eu gweld, beth bynnag, i brofi nad oes rhaid wrth berffeithrwydd. Mae bod yn dyst i’r broses yn ddifyr ac yn gyfle imi ddod i adnabod ffyrdd fy meddwl fy hun yn well.
Ond ia, dyma’r cysondeb mwyaf sydd erioed wedi bod o ran fy sgwennu. Mi fydda i’n mynd am fisoedd bwygilydd yn peidio sgwennu gair, ac yna’n deffro un bore a sgwennu fel diawl dan dri o gloch y bore canlynol. Felly dwi’n gweithio fel arfer a dwi’n grediniol bod yna ddim byd yn bod efo hynny, mae’n rhaid imi barchu fy ffyrdd fy hun.
Pa lyfrau rydych yn darllen ar hyn o bryd?
Dwi newydd orffen Three Women gan Lisa Taddeo a I Am, I Am, I Am gan Maggie O’Farrell – dau lyfr arall wna i eu cadw’n dynn ata i. Maen nhw jest wedi fy atgoffa i unwaith eto o ba mor anhygoel ydi merched.
Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnoch drwy eich bywyd?
Dwi’n caru, caru llyfrgell Prifysgol Bangor, ac yn gweld ei hisio yn ofnadwy. Ro’n i’n benthyg llyfrau fesul bwndel o ugain a throsodd yn ystod fy nghyfnod fel myfyriwr yma!
Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau er mwyn annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?
Cymryd yr amser i ddarllen efo nhw bob cyfle a thrwy hyn, bydd y plentyn yn dysgu bod llyfrau yn gallu tanio’r dychymyg lawn cystal, os nad gwell na rhaglenni a gemau electronig.
A oes gennych unrhyw gynlluniau ar gyfer teitlau pellach?
Wrth gwrs! Byddai’n wych gallu cyhoeddi fy ngwaith myfyrdod365 ar ffurf llyfrau yn y pen draw – hynny yw, casgliad ar gyfer gwanwyn, haf, hydref a gaeaf fy mywyd yn 2023. Dwi’n rhagweld blwyddyn drawsnewidiol arall o fy mlaen, a byddai’n braf cael cofnod o hynny, fel rhyw fath o ddyddiadur cyhoeddus i bawb gael rhyddid i’w ddarllen.
Cyhoeddwyd Rhyngom yn Awst 2022 gan Y Lolfa (Twitter @YLolfa)
Darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur sy’n cyflwyno’r awdur a Rhyngom.
Darllenwch am ein Hawduron y Mis eraill yn ‘sgwennu’n y Gymraeg