Sioned Wiliam

 

Magwyd Sioned Wiliam yn y Barri ac mae hi bellach yn byw yn Llundain. Mae’n enw cyfarwydd ym myd teledu yn y Deyrnas Unedig – dechreuodd gyda’r BBC yn Llundain yn yr adran radio adloniant ysgafn cyn gweithio fel cynhyrchydd annibynnol. Bu’n gomisiynydd comedi i ITV ac i BBC Radio 4. Mae’n adolygu theatr a theledu i BBC Radio Cymru ac ar sioe wythnosol Gaby Roslin ar BBC Radio London.

Y mis yma, mae Sioned yn dathlu cyhoeddi ei phedwerydd nofel, Y Gwyliau, gyda’r Lolfa, Mae’n  nofel lawn hiwmor, yn dilyn poblogrwydd y dair nofel gyntaf, Dal i Fynd, Chwynnu a Cicio’r Bar

“Pythefnos mewn fila yn Umbria… o dan yr haul crasboeth ac o gwmpas y pwll glas… ond fe fydd bywyd wedi newid am byth i rai o’r cymeriadau erbyn diwedd y gwyliau.

Mae Tudur ac Elinor yn edrych ymlaen at gael teulu a ffrindiau i aros yn eu fila hyfryd. Hoff beth Tudur yw cwmni diddan o gwmpas y bwrdd tra fod Elinor yn edrych ymlaen at nosweithau melfedaidd yn swpera o dan y lloer. Golygfeydd syfrdanol, haul a’u hoff bobol yn eu hoff le – beth allai fod yn well?”

Diolch i Sioned am rannu’r ysbrydoliaeth y tu ol i’w nofel efo ni’n ddiweddar… beth wnaeth dy ysbrydoli i ysgrifennu Y Gwyliau a dywed ychydig am y stori…
Mi fum yn teithio i’r Eidal i aros gyda ffrindiau ers rhai blynyddoedd bellach ac wedi dod i adnabod un darn bach ohono yn dda iawn. Ac wrth dreulio amser yno roedd hi’n anodd peidio gweld tebygrwydd mawr rhwng y sefyllfa yng Nghymru a’r un yn yr Eidal o ran tai hâf a thwristiaeth. Ar ben hynny, ro’n i’n chwilio am gyfle arall i ysgrifennu am rhai o gymeriadau fy ail nofel sef Chwynnu. Roedd stwffio pawb i dindroi mewn dŷ haf am bythefnos yn y gwres yn teimlo fel dechrau da i stori.

 

Clawr y Gwyliau [blodau a gwin]

 

Nofel ddychanol am griw o ffrindiau ar wyliau yn Umbria yw Y Gwyliau. Maent yn aros yn Casa Dei Girasole, fila gosgeiddig Tudur ac Elinor Ifans, pâr dosbarth canol o Gaerdydd. Ymhlith y criw y mae’r cyfarwyddwr teledu a’r cyn garcharor Dylan Morgan a’i wraig Meriel, eu merch Rhian a’i gwr Huw, a’u hwyrion Twm ac Osian.

Yn ymuno a nhw y mae Awen awdur llwyddiannus y nofel ‘We Cried Soot for Tears,’ ei gwr Meic, cyflwynydd teledu sy’n wyneb cyfarwydd ar S4C a’u merch Llinos. Mae Tecwyn, actor Hollywoodaidd sydd a’i wreiddiau yng Ngheredigion yno hefyd. Mae gan bawb rhywbeth i’w guddio ar y gwyliau yma ac wrth i’r tymheredd godi fe ddatgelir bob math o wirioneddau a sgerbydau. Heb son am eu cymdogion Gio a Lucia, yr Eidalwyr sy’n gweld eu pentre’n marw o dan bwysu’r tai haf melltigedig.

Pam rwyt ti’n ysgrifennu?
Rwy’n mwynhau ysgrifennu’n fawr iawn , yn aml yn ei wneud ar wyliau i ymlacio. Fe ddechreuais y nofel yma yn ystod y cyfnod clo ac roedd e’n teimlo fel rhywbeth adeiladol i’w wneud mewn amser mor ansicr. Dydw i ddim yn honni fod yn llenor mawr o gwbwl ond rwy’n awyddus i sgrifennu rhywbeth fydd yn diddanu – gyda thamed o ddychan a hiwmor.

Beth sy’n d’ysbrydoli di?
Popeth – does dim yn mynd yn angof i awdur!

Sut oeddet yn gwybod dy fod eisiau bod yn awdur a phryd oeddet yn ymwybodol o hyn?
Mi dw i wastod wedi potsio gyda thamed o sgrifennu a dw i’n ferch i awdur ac yn briod a sgrifennwr hefyd. Felly roedd sgrifennu’n rhywbeth naturiol yn fy mywyd. Ond dw i’n meddwl taw’r prif sbardun oedd y teimlad ar ôl blynyddoedd o gynhyrchu gwaith pobol eraill mod i am weithio ar rhywbeth i fi fy hun.

Pwy yw rhai o’r awduron rwyt yn eu hedmygu?
Mae cyn gymaint ohonyn nhw! Dwi’n ddarllewnwr brwd ac wedi cael pleser mawr yn y misoedd diwethaf o gael darllen y llyfrau yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn. Yn y Gymraeg dw i’n dwli ar waith Manon Steffan Ros, Bethan Gwanas, Myfanwy Alexander, Rhian Cadwaladr, Ifan Morgan Jones, Llwyd Owen, Marlyn Samuel a llu o bobol eraill. Yn Saesneg Barbara Pym, David Nicholls, Laurie Graham, Lissa Evans, Bonnie Garmus, Curtis Sittenfeld, Joanthan Coe a Ben Aaronovitch. Ond mae’n anodd cyfyngu!

 

 

Ai ysgrifennu yw’r unig gyfrwng artistig rwyt yn ei wneud?
Dw i di gweithio ym myd comedi am flynyddoedd maith ac wedi mwynhau gwneud hynny’n fawr. Dw i’n hoff o ddarlledu hefyd.

Pa gyngor y byddet yn ei roi i dy hunan yn iau?
Mwynhewch y siwrne!

Beth yw dy broses ysgrifennu?
Dwi’n aml yn dechrau ar wyliau yn gwneud nodiadau, yna mae na gyfnod adre yn ail wampio’r syniadau ac yn ceisio roi trefn arnynt. Ac wedi creu drafft sy’n rhoi rhyw fath o siap ar bethau mae’r gwaith caled yn dechrau o ddifri, yn saernio ac yn trio rhoi rhy fath o sglein ar y deunydd. Weithiau dwi’n cael cyfnod eitha hir o weithio bron bob dydd, dro arall mae’n ysbeidiol. Mae’n dibynnu beth arall sy’n digwydd yn fy mywyd.

Pa lyfrau rwyt yn darllen ar hyn o bryd?
Llyfrau cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn yn y Gymraeg ac yn Saesneg dw i newydd ddechrau Romantic Comedy, llyfr diweddara Curtis Sittenfeld.

Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnot drwy dy fywyd?
Dwi’n dwli ar lyfrgelloedd. Roeddwn i’n benthyg llyfrau bob wythnos o’r llyfgell yn y Barri pan oedddwn i’n blentyn. Yna yn y coleg ces i’r fraint o weithio yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth a’r Bodleian yn Rhydychen. Nawr dwi’n defnyddio app i ordro a benthyg llyfrau o’n llyfrgell leol ni yn Kilburn – sy’n hollol wych!

Oes gennyt unrhyw awgrymiadau er mwyn annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?
Meddwl bod angen dileu’r holl snobyddiaeth am lenyddiaeth ysgafn – pan o’n i’n blentyn roedd pawb yn beirniadu Enid Blyton a nawr Harri Potter sydd o dan y lach. Does dim ots beth yw’r llyfr os ydy e’n cael plentyn i ddianc i fyd cyfrin trwy ddarllen mae e wedi gwneud ei job. Byswn i ddim wedi dechrau mwynhau darllen heb Blyton ac Agatha Christie!

A oes gennyt unrhyw gynlluniau ar gyfer teitlau pellach?
Dw i wedi dechrau nodiadau ar gyfer y bennod nesa ym mywydau Delyth, Nia ac Anwen. 60 Rhywbeth…

Cyhoeddwyd Y Gwyliau dechrau Mehefin gan wasg Y Lolfa (Twitter @YLolfa)

Darllenwch hefyd ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur ac am ein Hawduron y Mis  eraill yn ‘sgwennu’n y Gymraeg

Cookie Settings