Cadw Ein Cymunedau Mewn Cysylltiad

 

Mae pobl yn ymwybodol nawr yn fwy nag erioed pa mor bwysig yw hi i bawb deimlo cysylltiad ag eraill a phrofi ymdeimlad o berthyn i’w cymuned.

Mae astudiaethau wedi dangos y gall colli cyswllt cymdeithasol am gyfnod hir gael effaith sylweddol ar eich iechyd a’ch lles. Mae unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol yn gysylltiedig â risg gynyddol o iselder, hunan-barch isel, problemau cysgu ac ymateb cynyddol i straen.

Mae Llyfrgelloedd Cymru yn cydweithio i fynd i’r afael â’r materion hyn – gan sicrhau fod eu cymunedau’n cadw mewn cysylltiad a chefnogi pobl i gael cysylltiadau cymdeithasol cadarnhaol ac ystyrlon.

Maent yn darparu ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n galluogi pobl i gysylltu gyda ffrindiau neu gyfarfod pobl newydd, rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol neu ddysgu sgil newydd, a darganfod beth arall sydd ar gael iddynt o fewn eu cymuned.

 

Children's Storytime at Bridgend Libraries

Beehive Photography Studios.

Yn 2022 mae Llyfrgelloedd Cymru yn amlygu’r gwaith hanfodol hwn drwy eu hymgyrch newydd Lle i Gysylltu.

Mae Lle i Gysylltu yn ffurfio rhan o brosiect ehangach Byw’n Dda yng Nghymru, sy’n amlygu’r rôl bwysig mae Llyfrgelloedd Cymru yn ei chwarae yng nghanol eu cymunedau lleol a hyrwyddo’r gwaith maent yn ei wneud i gefnogi iechyd a lles pobl.

Mae llyfrgelloedd mewn sefyllfa ddelfrydol i ddarparu ystod o fanteision o ran iechyd a lles i’w cymunedau lleol. Maent yn adnodd gwych, yn nhermau’r wybodaeth a’r deunyddiau sydd ganddynt i’w cynnig ac fel canolbwynt o fewn eu cymuned lle gall pobl ddod ynghyd ar gyfer digwyddiadau neu weithgareddau sydd o fudd i’w lles. Mae’r prosiect Byw’n Dda yng Nghymru yn fenter genedlaethol sy’n ceisio dathlu Llyfrgelloedd Cymru a’r gwaith pwysig y maent yn ei wneud yn ogystal ag annog pobl i gael mwy o fudd o’u llyfrgell leol.

 

Ginger Pixie Photography.

Dywedodd Arweinydd Iechyd a Lles Cymdeithas y Prif Lyfrgellwyr (Cymru) a Rheolwr Datblygu Llyfrgelloedd, Hamdden a Llyfrgelloedd Aura, Kate Leonard:

 “Mae’r ddwy neu dair blynedd diwethaf wedi amlygu pa mor hanfodol yw cysylltiad cymdeithasol i les pawb, rydym i gyd yn cofio cymaint y gwnaethom ni golli gweld a siarad gyda phobl eraill. Mae Llyfrgelloedd Cymru yn gweithio i ddarparu’r cysylltiad hwnnw o fewn eu cymunedau lleol, drwy ddigwyddiadau a gweithgareddau, cyfeirio at wasanaethau eraill neu drwy ddarparu gofod i bobl i ymlacio a sgwrsio gydag eraill. Fe fydd ein hymgyrch ‘Lle i Gysylltu’ yn amlygu’r gwaith y mae ein llyfrgelloedd yn ei wneud i gefnogi’r cysylltiadau hyn ac annog pobl i edrych yn fanylach ar yr hyn sydd gan eu llyfrgell leol i’w gynnig.”

Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:

“Mae Wythnos Llyfrgelloedd yn gyfle gwych i ddarganfod yr ystod o bethau y gallwch eu gwneud yn eich llyfrgell, o chwarae a dysgu ar gyfer plant, i reoli eich iechyd, cael mynediad at wifi a gemau am ddim, a dod o hyd i swyddi.Mae’r holl elfennau hyn yn ffyrdd gwych o ddod â phobl at ei gilydd, ac ysbrydoli pobl i ddysgu a darganfod rhywbeth newydd ac  theimlo’n rhan o gymuned – mae ein llyfrgelloedd yn adnodd sydd am ddim i bawb ei ddefnyddio a’i fwynhau.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch Byw’n Dda yng Nghymru, cysylltwch â:  byw.dda.yng.nghymru@llgc.org.uk

Cookie Settings