Cystadleuaeth Dylunio Logo i Lyfrgelloedd yng Nghymru

Yn galw myfyrwyr Addysg Uwch yng Nghymru! Fe’ch gwahoddir i greu logo newydd ar gyfer brand ‘Llyfrgelloedd Cymru’, a fydd yn cyd-fynd â’r wefan sydd wedi’i  hail-ddylunio, ac yn adlewyrchu’r rôl hanfodol y mae llyfrgelloedd yn ei chwarae yn ein cymunedau.

Mae gwefan llyfrgelloedd.cymru wedi’i chreu a’i dylunio fel rhan o gefnogaeth Llywodraeth Cymru i lyfrgelloedd. Mae’n ‘borth un stop’ ar gyfer llyfrgelloedd yng Nghymru – gallwch gael gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd mewn llyfrgelloedd, pori ystod eang o adnoddau ar-lein, dod o hyd i’ch llyfrgell agosaf ac ymuno ar-lein, cael gwybod am fentrau sy’n cefnogi iechyd, pobl ifanc, plant a theuluoedd, ymuno â grŵp darllen, defnyddio’r gwasanaeth ymholiadau a mwy.

Dylai’r logo newydd fod yn fywiog ac yn hawdd ei adnabod, ac yn adlewyrchu nod y Cynigion Llyfrgell Cyffredinol presennol i gysylltu cymunedau, gwella lles a hyrwyddo cydraddoldeb drwy ddysgu, llythrennedd a gweithgarwch diwylliannol.

  • Diwylliant a Chreadigrwydd
  • Iechyd a Lles
  • Gwybodaeth a Digidol
  • Darllen

Bydd angen i’r logo newydd ategu a gwella’r wefan gyfredol:

https://libraries.wales (Saesneg)      

https://llyfrgelloedd.cymru (Cymraeg)

Bydd y logo newydd hefyd yn ymddangos ar y gwefannau cyfryngau cymdeithasol canlynol, ac yn ymddangos ar ddeunydd hyrwyddol.

  • Facebook @librarieswales @llyfrgelloeddcymru
  • Twitter @LibrariesWales & @LlyfrgellCymru
  • Instagram @librarieswales

Gellir gweld fersiynau cyfredol y logo ar adran Pecyn Offer Staff y wefan, lle bydd y logos newydd yn ymddangos hefyd.

https://libraries.wales/staff-toolkit/logos-toolkit-test/

Cynulleidfa darged

Mae ein cynulleidfa darged yn cynnwys unrhyw un sy’n dymuno dysgu mwy am wasanaethau llyfrgell ledled Cymru, gan gynnwys yr Adnoddau Digidol a nodweddion newydd fel ‘Awdur y Mis’ a ‘Blog Pobl Ifanc’. Bydd defnyddwyr hefyd yn ymweld â’r wefan i gael gwybod am fentrau sy’n hyrwyddo ymgysylltu â llyfrgelloedd, llythrennedd a darllen yng Nghymru.

Cyllideb ac amserlen

Bydd y Gystadleuaeth yn cael ei lansio’n swyddogol yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd (4-10 Hydref 2021), a derbynnir ceisiadau o’r 4 Hydref 2021. Bydd y gystadleuaeth yn cau ddydd Llun 17 Ionawr am 5pm, a chyhoeddir yr enillydd ar neu cyn 31 Ionawr 2022.

Rhaid i bob ymgeisydd fod yn fyfyrwyr cofrestredig cyfredol mewn Coleg / Prifysgol yng Nghymru, a rhaid iddynt fod yn 18 oed neu’n hŷn. Bydd un cofnod cystadleuaeth yn unig y pen yn cael ei dderbyn.

Bydd y cais buddugol yn derbyn taleb Amazon gwerth £500.

Mae’r Briff Dylunio bellach ar gael i’w lawrlwytho, a bydd yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ichi i gystadlu.

Anfonwch eich cais neu unrhyw ymholiad i logo.comp@llgc.org.uk

(Dylech gynnwys eich enw llawn a defnyddiwch yr un e-bost wrth gyflwyno ffeiliau!)

Er mwyn i’ch cofnod fod yn ddilys, rhaid i chi hefyd lenwi’r ffurflen gyflwyno ar-lein https://forms.office.com/r/TkXqdzGsTJ

Pob lwc!

Logo Competition Poster Welsh

Cookie Settings