Iechyd a Lles
Mae’r adran hon yn rhoi cyflwyniad i fentrau Darllen yn Well a Byw’n Dda, sydd yn cefnogi iechyd a lles drwy adnoddau a gweithgareddau wedi eu cymeradwyo ac sydd ar gael mewn llyfrgelloedd ar draws Cymru.
Mae Darllen yn Dda yn eich cefnogi i ddeall ac i reoli eich iechyd a’ch lles gyda darllen defnyddiol. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth y gallwch ymddiried ynddi i gefnogi eich lles drwy gasgliadau Darllen yn Dda a geir yn eich llyfrgell leol.
Menter i’r genedl gyfan yw Byw’n Dda yng Nghymru sydd yn dod a llyfrgelloedd cyhoeddus a phartneriaid eraill ynghyd er mwyn pwysleisio’r rhan bwysig sydd gan lyfrgelloedd i’w chwarae yng nghanol eu cymunedau lleol, ac i hyrwyddo’r miloedd o ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd yn hybu iechyd a lles a gynhelir mewn llyfrgelloedd bob blwyddyn.
Darllen yn Well
Llyfrau Darllen yn Well ar Bresgripsiwn yng Nghymru
Mae Darllen yn Well yn eich cefnogi chi er mwyn deal a rheoli eich iechyd a lles drwy ddefnyddio darllen sy’n gymorth. Cymeradwyir y llyfrau i gyd gan arbenigwyr iechyd, yn ogystal â phobl sy’n byw gyda’r anhwylderau sy’n cael sylw, eu perthnasau a’u gofalwyr.
Darllen yn WellByw’n Dda yng Nghymru
Byw’n Dda yng Nghymru
Mae Llyfrgelloedd Cymru yn gwneud eu rhan dros Gymru hapusach a iachach gyda lansiad ymgyrch newydd i hybu lles y genedl. Menter dros Gymru gyfan yw Byw’n Dda yng Nghymru sydd yn dod â llyfrgelloedd cyhoeddus a sefydliadau partner ynghyd er mwyn pwysleisio’r rôl bwysig sydd gan lyfrgelloedd yng nghalon eu cymunedau lleol ac er mwyn hybu’r miloedd o ddigwyddiadau a gweithgareddau hyrwyddo iechyd a lles sydd yn cael eu cynnal mewn llyfrgelloedd bob blwyddyn.
Byw’n Dda yng Nghymru