Amser Rhigwm Mawr Cymru

Mother and baby reading a book at Bridgend Libraries

Mae llyfrgelloedd ar draws Cymru yn rhedeg sesiynau Amser Stori ac Amser Rhigwm rhad ac am ddim ar gyfer babanod a phlant. Mae’r sesiynau hwyliog hyn yn rhoi cyfle i gwrdd â ffrindiau newydd a mwynhau storiau, llyfrau a rhigymau yn cael eu darllen gan llyfrgellwyr plant ac adroddwyr storiau cymunedol – gyda’ch plentyn.

Yn ogystal â chynnig cannoedd o lyfrau am ddim i blant a rhieni i’w benthyg, mae llyfrgelloedd ar draws Cymru hefyd yn cynnig clybiau gweithgaredd ar gyfer plant ac yn trefnu digwyddiadau dod-â’r-teulu-ynghyd. Sieciwch galendr eich llyfrgell leol am ddyddiadau, amserau a lleoliadau digwyddiadau sy’n agos atoch chi. 

Eich llyfrgell leol

Amser Stori a Rhigwm, Llyfrgelloedd Aura. Ffotograffiaeth Ginger Pixie.

Amser Rhigwm Mawr Cymru

Cymerodd dros 22,000 o blant yn ysgolion, meithrinfeydd, llyfrgelloedd a lleoliadau blynyddoedd cynnar ar draws Cymru ran yn Amser Rhigwm Mawr Cymru 2020.

Mae Amser Rhigwm Mawr Cymru, a drefnir gan BookTrust Cymru, yn hybu hwyl a gweithgaredd difyr yn rhannu rhigymau ar gyfer plant yng Nghymru o oedran 0-5, yn Gymraeg a Saesneg. Digwyddodd eleni ym mis Chwefror 10-14.

Bydd Amser Rhigwm Mawr Cymru yn ei ôl yn 2021. Tan hynny, cymerwch olwg ar adnoddau BookTrust Cymru er mwyn helpu trefnu digwyddiadau hwyliog i rannu rhigymau a chaneuon gyda phlant.

Diolch i Dîm Dechrau Da Sir Ddinbych  am rannu eu rhigymau. Cewch ragor ar eu sianel YouTube.

Er mwyn dathlu Amser Rhigwm Mawr Cymru, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi dethol rhai o’u hoff lyfrau rhigymau yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Ariennir Amser Rhigwm Mawr Cymru gan Lywodraeth Cymru.

Llyfrau Rhigymau

Wythnos Adrodd Storiau Cenedlaethol

Mae Wythnos Adrodd Storiau Cenedlaethol yn digwydd yn flynyddol yn gynnar ym mis Chwefror ac yn cael ei chydlynu gan y Society for Storytelling, sydd hefyd yn cefnogi’r gelfyddyd o adrodd storiau  a storiwyr unigol mewn dwsinau o ffyrdd drwy’r flwyddyn. 

Mae ysgolion, llyfrgelloedd a chyrff addysg eraill wedi bod yn cymryd rhan ers creu’r gymdeithas yn 1993 a cheir hyd i wybodaeth ac adnoddau ar wefan y gymdeithas: 

Society for Storytelling

 

 
 
Cookie Settings