Children’s Laureate Wales & Bardd Plant Cymru

Children’s Laureate Wales
Mae’r Children’s Laureate Wales yn rôl lysgenhadol genedlaethol sydd â’r nod o ymgysylltu â ac ysbrydoli plant Cymru drwy lenyddiaeth.
Ers ei sefydlu yn 2019, caiff y rôl ei gwobrwyo pob dwy flynedd i awdur o Gymru sydd yn angherddol dros sicrhau fod mwy o blant a phobl ifanc yn darganfod gwefr a grym llenyddiaeth.
Y Children’s Laureate Wales presennol yw’r bardd a’r perfformiwr Connor Allen, ac ef yw’r ail awdur i gamu i’r rôl.
Cyhoeddwyd mai Connor oedd y Laureate newydd ar Ddiwrnod Barddoniaeth 2021. Bydd yn ymgymryd â’r rôl hyd at Awst 2023, gan weithio’n galed er mwyn sicrhau bod barddoniaeth yn hygyrch, yn hwyliog, ac yn berthnasol i blant a phobl ifanc ar draws Cymru.
Mae’r Children’s Laureate Wales yn chwaer-brosiect i Bardd Plant Cymru, ac mae’r ddwy rôl yn cyfrannu tuag at fagu cenhedlaeth iachach, fwy creadigol a mwy amrywiol o ddarllenwyr ac awduron ar draws Cymru.
Mae Connor Allen yn fardd ac artist amlgyfrwng o Gasnewydd. Ers graddio o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant fel Actor yn 2013, mae Connor wedi gweithio gyda chwmnïau megis Taking Flight Theatre, Theatr y Sherman, Royal Exchange Manchester, Tin Shed Theatre, BBC Wales a National Theatre Wales. Mae’n aelod o National Youth Theatre of Great Britain ac ef hefyd oedd enillydd Triforces Cardiff Monologue Slam, gan gynrychioli Cymru yn y rownd derfynol yn Llundain. Caiff ei waith ei ysbrydoli gan elfennau o’i fywyd ei hun megis galar, cariad, gwrywdod, hunaniaeth ac ethnigrwydd.
Y mae wedi ysgrifennu ar gyfer BBC Wales, Theatr y Sherman, BBC Radio 4 a Protest Fudur, ac wedi derbyn nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer cynhyrchu ei ddrama gyntaf, Working Not Begging – drama un ddynes sydd yn trafod digartrefedd a galar. Yn fwy diweddar, cyrhaeddodd restr fer Dave & UKTV Writerslam 2021 Triforce, enillodd Wobr Rising Stars Cymru 2021 Llenyddiaeth Cymru a Firefly Press a derbyniodd gyllid gan Jerwod Live Work Fund yn 2021. Ar hyn o bryd mae Connor yn gweithio ar ei sioe hunangofiannol un dyn, casgliad o farddoniaeth ac addasiad llwyfan.
Un o brif flaenoriaethau Connor fel Children’s Laureate Wales yw grymuso plant a phobl ifanc i fynegi eu straeon unigryw eu hunain drwy farddoniaeth.
Mae’r Children’s Laureate Wales wedi ymrwymo i:
- Ehangu mynediad plant a phobl ifanc at lenyddiaeth, yn benodol plant a phobl ifanc o gefndiroedd ymylol a chefndiroedd sydd yn cael eu tangynrychioli
- Gwella iechyd a llesiant meddyliol a chorfforol plant a phobl ifanc drwy lenyddiaeth
- Cynyddu mwynhad plant a phobl ifanc o lenyddiaeth
- Grymuso plant a phobl ifanc drwy greadigrwydd
Mae’r Children’s Laureate Wales yn cadw’n brysur drwy:
- Rhedeg gweithdai barddoniaeth oddi fewn a thu hwnt i’r dosbarth
- Ysgrifennu cerddi comisiwn swyddogol i nodi achlysuron arbennig ac ymgyrchoedd sydd o bwys i blant a phobl ifanc
- Creu adnoddau creadigol ar-lein ar gyfer plant a phobl ifanc
- Eirioli dros leisiau plant a phobl ifanc Cymru yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llenyddiaeth Cymru, neu cysylltwch ar childrenslaureate@literaturewales.org
Dilynwch Children’s Laureate Wales ar Twitter. Ffotograffiaeth c. LlenyddiaethCymru
Bardd Plant Cymru
Ers ei sefydlu yn 2000, caiff y rôl ei gwobrwyo pob dwy flynedd i fardd Cymraeg sydd yn angherddol dros sicrhau fod mwy o blant a phobl ifanc yn darganfod gwefr a grym llenyddiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Y Bardd Plant Cymru presennol yw’r gantores-gyfansoddwraig ac awdur o Fangor, Casi Wyn, a hi yw’r ail fardd ar bymtheg i gamu i’r rôl.
Cyhoeddwyd mai Casi oedd y Bardd Plant newydd ar Ddiwrnod Barddoniaeth 2021. Bydd yn ymgymryd â’r rôl hyd at Awst 2023, gan weithio’n galed er mwyn sicrhau bod barddoniaeth yn hygyrch, yn hwyliog, ac yn berthnasol i blant a phobl ifanc ar draws Cymru.
Mae Bardd Plant Cymru yn chwaer-brosiect i Children’s Laureate Wales, ac mae’r ddwy rôl yn cyfrannu tuag at fagu cenhedlaeth iachach, fwy creadigol a mwy amrywiol o ddarllenwyr ac awduron ar draws Cymru.
Mae Casi Wyn yn wyneb cyfarwydd yng Nghymru a thu hwnt fel cantores a chyfansoddwraig o ardal Bangor. Mae ei chaneuon Aderyn, Dyffryn, ac Eryri yn cael eu chwarae’n gyson ar orsafoedd radio ledled Prydain. Mae Casi hefyd yn un o sefydlwyr gwasg annibynnol a chylchgrawn Codi Pais, sydd yn annog lleisiau newydd ac amrywiol. Yn 2021 fe ryddhaodd lyfrau dwyieithog cerddorol i blant, Tonnau Cariad a Dawns y Ceirw. Dangoswyd ei ffilm fer gerddorol animeiddiedig Dawns y Ceirw ar S4C ar noswyl Nadolig 2020.
Mae Casi yn edrych ymlaen yn fawr at danio dychymyg plant a phobl ifanc Cymru drwy eiriau ac alawon. Mae dathlu amrywiaeth Cymru a phontio cymunedau drwy hud barddoniaeth yn flaenoriaeth ganddi, ac mae hi hefyd yn awyddus i wau’r thema byd natur drwy’r gwaith yn ystod ei chyfnod yn y rôl.
Yn ogystal ag ymweliadau ysgolion, bydd rhaglen weithgaredd Casi yn cynnwys amrywiaeth o brosiectau cymunedol, cenedlaethol a rhyngwladol, chyfrannu at Siarter Iaith Llywodraeth Cymru, a bydd yn cyfansoddi cerddi amrywiol i nodi digwyddiadau ac ymgyrchoedd o ddiddordeb i blant a phobl ifanc.
Mae Bardd Plant Cymru wedi ymrwymo i:
- Ehangu mynediad plant a phobl ifanc at lenyddiaeth Gymraeg, yn benodol plant a phobl ifanc o gefndiroedd ymylol a chefndiroedd sydd yn cael eu tangynrychioli
- Gwella iechyd a llesiant meddyliol a chorfforol plant a phobl ifanc drwy lenyddiaeth
- Cynyddu mwynhad plant a phobl ifanc o lenyddiaeth
- Grymuso plant a phobl ifanc drwy greadigrwydd
Mae Bardd Plant Cymru yn cadw’n brysur drwy:
- Rhedeg gweithdai barddoniaeth oddi fewn a thu hwnt i’r dosbarth
- Ysgrifennu cerddi comisiwn swyddogol i nodi achlysuron arbennig ac ymgyrchoedd sydd o bwys i blant a phobl ifanc
- Creu adnoddau creadigol ar-lein ar gyfer plant a phobl ifanc
- Eirioli dros leisiau plant a phobl ifanc Cymru yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llenyddiaeth Cymru, neu cysylltwch â barddplant@llenyddiaethcymru.org
Dilynwch Bardd Plant Cymru ar Twitter