Bookstart Cymru

Adult and younger child reading picture books at Aberdare Library

Annog cariad at ddysgu

Gallwch feithrin datblygiad plant drwy’r rhaglenni cymorth i ddysgu cynnar hyn sydd ar gael yng Nghymru. P’un ai ydy’ch plentyn yn faban, yn cropian neu ar fin dechrau’r ysgol bydd sesiynau Stori a Rhigwm, a Dechrau Da yn helpu plant i ddatblygu eu sgiliau iaith a darllen. Bydd digwyddiadau’n cyfuno darllen, canu, siarad a chwarae er mwyn dod â swyn llyfrau a storiau’n fyw. 

Amser Stori

Mae llyfrgelloedd ar draws Cymru yn rhedeg sesiynau Amser Stori ac Amser Rhigwm rhad ac am ddim ar gyfer babanod a phlant. Mae’r sesiynau hwyliog hyn yn rhoi cyfle i gwrdd â ffrindiau newydd a mwynhau storiau, llyfrau a rhigymau yn cael eu darllen gan llyfrgellwyr plant ac adroddwyr storiau cymunedol – gyda’ch plentyn.

Yn ogystal â chynnig cannoedd o lyfrau am ddim i blant a rhieni i’w benthyg, mae llyfrgelloedd ar draws Cymru hefyd yn cynnig clybiau gweithgaredd ar gyfer plant ac yn trefnu digwyddiadau dod-â’r-teulu-ynghyd. Sieciwch galendr eich llyfrgell leol am ddyddiadau, amserau a lleoliadau digwyddiadau sy’n agos atoch chi. 

Dewch o hyd i’ch llyfrgell leol

Amser Stori, Llyfrgell Caerfyrddin.

Dechrau Da yng Nghymru

Dyw hi byth yn rhy gynnar i ddechrau rhannu llyfrau, storiau a rhigymau gyda’ch plentyn. Gyda Dechrau Da mae BookTrust Cymru yn cefnogi teuluoedd ar draws Cymru i ddarllen gyda’u gilydd yn rheolaidd.

Gall pob plentyn yng Nghymru dderbyn dau pecyn Dechrau Da arbennig cyn cyrraedd tair oed. Caiff teuluoedd y pecynnau gan eu hymwelydd iechyd.

Ceir llawer o adnoddau llawn sbort a gwybodaeth gyfleus ar wefan Booktrust Cymru.

Amser Stori a Rhigwm, Llyfrgelloedd Awen. Beehive Photography Studio.

Dechrau Da Babi 

Daw’r pecyn Dechrau Da Babi yn rhodd fel rheol yn ystod archwiliad iechyd chew misol eich plentyn. Mae’n cynnwys llyfr Saesneg a llyfr Chymraeg, wedi’u dewis yn ofalus i apelio at blant ifanc iawn, a llyfryn arbennig â syniadau ar gyfer rhannu llyfrau, straeon a rhigymau.

Yn 2019, derbyniodd rhyw 30,000 o fabis y llyfr hardd Bouncing Babies gan Helen Oxenbury fel rhan o’u pecyn Dechrau Da Babi.

‘Mae darluniau Bouncing Babies wastad yn gwneud i mi wenu, maent mor hwyliog, ac ma’ rhywbeth mor nynnes a chysurlon iwan am y llyfr hwn

‘Mae darluniau Bouncing Babies wastad yn gwneud i mi wenu, maen nhw mor serchus, ac mae rhywbeth cynnes a chysurlon iawn am y llyfr hwn.’ Donna Hardman, llyfrgelloedd Blaenau Gwent.

Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar

Daw’r pecyn Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar yn rhodd fel rheol yn ystod archwiliad iechyd 27 mis eich plentyn. Mae’n cynnwys llyfr darluniau Cymraeg ac un Saesneg, a llyfryn llawn syniadau ar gyfer rhannu llyfrau, straeon a rhigymau. Mae bag gwyrdd Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar wedi’i ddylunio i’ch plentyn ei ddal – sy’n berffaith i fynd ag ef i’r llyfrgell.

Os nad ydych chi wedi derbyn eich pecynnau Dechrau Da, yna cysylltwch â’ch ymwelydd iechyd.

Mae rhaglen Dechrau Da yng Nghymru’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Llyfrgell Plant, Llyfrgelloedd Aura. Ffotograffiaeth Ginger Pixie.

Darllen gyda’ch plentyn

Mae rhannu llyfr gyda phlentyn yn hwyl! Mae’n amser ar gyfer agosatrwydd, chwerthin a siarad â’ch gilydd – a gall roi hwb ymlaen mewn bywyd i blant a’u helpu i ddod yn ddarllenwyr gydol oes.

Os nad ydych yn hyderus ynglŷn â darllen yn uchel neu rannu llyfr, peidiwch â phoeni – does dim ffordd iawn na ffordd anghywir chwaith i fwynhau stori gyda’ch gilydd.

Dyw hi byth yn rhy gynnar i ddechrau rhannu llyfrau. Efallai na fydd babanod yn deall y geiriau ond byddant wrth eu bodd yn cwtsio, clywed eich llais, ac edrych ar y lluniau. 

Wrth i’ch plentyn dyfu, gall rhannu llyfrau lluniau fod yn dipyn o hwyl – peidiwch â phoeni os bydd rhywbeth arall yn mynd â sylw’ch plentyn, os bydd am gnoi’r llyfr neu grwydro i ffwrdd … dyna’r arfer gyda phlant! Peidiwch â phoeni os nad oes llawer o amser gennych chwaith yn ystod diwrnod gwaith prysur – gall ychydig funudau wneud byd o wahaniaeth. 

Llyfrgell Plant, Llyfrgelloedd Awen.

Dyma ambell awgrym at eich helpu chi i fwynhau amser stori gyda’ch plentyn, wedi’u darparu gan BookTrust:

  • Gadewch i’ch plentyn ddewis beth hoffen nhw ddarllen. Bydd mwy o ddiddordeb ganddynt yn y stori os mai nhw sydd wedi ei dewis. Peidiwch â phoeni os ânt yn ôl at yr un stori dro ar ôl tro!
  • Os gallwch, diffoddwch y teledu, radio neu gyfrifiadur. Mae’n rhwyddach mwynhau’r stori heb ddim yn tarfu arnoch chi.
  • Eisteddwch yn agos. Gallwch annog eich plentyn i ddal y llyfr ei hunan ac i droi’r tudalennau hefyd.
  • Edrychwch ar y lluniau. Does dim rhaid darllen y geiriau ar y dudalen yn unig. Efallai bod rhywbeth doniol yn y lluniau y gallwch chwerthin amdano gyda’ch gilydd neu efallai bod eich plentyn yn mwynau dyfalu beth fydd yn digwydd nesaf.
  • Gofynwch gwestiynau a siaradwch am y llyfr. Gall llyfrau lluniau fod yn ffordd wych o drafod ofnau a phryderon eich plentyn, neu o’i helpu i delio ag emosiwn. Rhowch gyfle iddynt siarad a gofynwch iddynt mae’n yn teimlo am y sefyllfa yn y stori.
  • Mwynhewch! Does dim ffordd iawn na ffordd anghywir chwaith o rannu stori – cyn belled eich bod chi a’ch plentyn yn cael hwyl. Peidiwch fod ag ofn actio rhannau o’r stori na defnyddio lleisiau dwl – bydd plant bach wrth eu bodd!

Am ragor o gyngor ynglŷn â meithrin darllen ac ysgrifennu plant ewch i wefan Booktrust.

BookTrust

 

 
 
 
 
 
Cookie Settings