Adnoddau Digidol ar gyfer Pobl Ifanc

Young woman listening to Audiobooks

 

Mae ein casgliad anhygoel o adnoddau arlein yn cynnwys eLyfrau, eLyfrau Sain a Chylchgronau Digidol i blant a phobl ifainc, y gellid eu lawrlwytho am ddim.

Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn mae’n rhaid i chi fod yn byw yn y Deyrnas Unedig a bod yn aelod cofrestredig mewn llyfrgell yng Ngymru. Os ydych eisioes yn aelod o’r llyfrgell, gallwch gael mynediad i’r adnoddau digidol gan ddefnyddio rhif cerdyn aelodaeth eich llyfrgell.

E-Lyfrau ac e-Lyfrau Llafar

 

 

Mae ein gwasanaeth eLyfrau ac eLyfrau Llafar Borrowbox yn cynnwys dros 20,000 o deitlau yn y Gymraeg a’r Saesneg gan awduron poblogaidd fel Mererid Hopwood a Geraint V. Jones.

I gael mynediad i’r adnoddau yma, lawrlwythwch ap Borrowbox oddi wrth yr App Store neu Google Play, a mewngofnodwch gan ddefnyddio’r cyfarwyddiadau isod, a dechreuwch fenthyca, lawrlwytho a mwynhau eLyfrau ac eLyfrau Llafar o gasgliadau Borrowbox Llyfrgelloedd Cymru. Gellid eu lawrlwytho i ddyfeisiau Apple iOS a Android Google am gyfnodau cyfyngedig drwy fenthyciadau digidol. Mae ffeiliau sain MP3 yn hygyrch ac yn gydnaws â holl ddyfeisiau

Cylchgronau Digidol

Benthycwch eich hoff gylchgronau o’ch gwasanaeth llyfrgell leol. Gall defnyddwyr sydd â chardiau llyfrgell nawr ddarllen cylchgronau digidol ar Libby , yr ap darllen o Overdrive, neu drwy ymweld â gwefan eu hawdurdod llyfrgell . Ymhlith y prif deitlau mae National Geographic, BBC History, a CARA a Lingo Newydd yn y Gymraeg. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys teitlau mewn llu o feysydd yn cynnwys ffotograffiaeth, cyfrifiaduron, hanes, celf a llawer mwy.

Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn mae’n rhaid i chi fod yn byw yn y Deyrnas Unedig a bod yn aelod cofrestredig mewn llyfrgell yng Nghymru sy’n rhan o’r cynllun. Os ydych eisoes yn aelod o’r llyfrgell, gallwch fenthyca e-gylchgronau gan ddefnyddio rhif cerdyn aelodaeth eich llyfrgell.

Nid oes gan cylchgronau digidol trwy Libby unrhyw restrau aros neu geisiadau , ac nid ydynt yn cyfrif tuag at nifer eich benthyciadau. Gallwch hefyd eu hadnewyddu’n hawdd. Gall  benthycwyr Llyfrgelloedd Cymru bori rhestrau o gylchgronau o fewn yr ap a chwilio yn ôl fformat i ddod o hyd i deitlau sydd ar gael.

Gall darllenwyr bori a benthyg teitlau yn syth ac yna dechrau darllen am ddim gyda cherdyn llyfrgell dilys. Mae’r gwasanaeth hwn yn gydnaws â’r holl brif gyfrifiaduron a dyfeisiau – iPhone®, iPad®, ffonau a thabledi Android ™ a Chromebook ™. Mae pob teitl yn dod i ben yn awtomatig ar ddiwedd y cyfnod benthyca ac nid oes unrhyw ffioedd hwyr. Gall darllenwyr hefyd lawrlwytho teitlau i Libby i’w defnyddio all-lein.

I ddechrau mwynhau cylchgronau digidol , lawrlwythwch Libby neu ewch i wefan eich awdurdod Llyfrgell.

 

 

Theory Test Pro

Mae Theory Test Pro yn efelychiad realistig iawn o brawf theori gyrru’r Deyrnas Unedig. Mae’n cynnwys banc o gwestiynau swyddogol i ymarfer ar gyfer y prawf, clipiau fideo i’ch helpu i adnabod peryglon a fersiwn ar-lein o Reolau’r Ffordd Fawr. Defnyddir yr holl ddeunydd dan drwydded yr Asiantaeth Safonau Gyrru, sef y bobl sy’n gosod y prawf.

Os ydych yn byw yng Nghymru, bydd ganddoch fynediad am ddim i’r adnodd Theory Test Pro drwy ymaelodi a’ch llyfrgell gyhoeddus lleol. Gallwch gael mynediad i’r adnodd o unrhywle drwy ddefnyddio eich rhif aelodaeth llyfrgell, a logio mewn yn uniongyrchol.

Sut i gofrestru ar gyfer Theory Test Pro:

  1. Pan fyddwch yn defnyddio Theory Test Pro am y tro cyntaf, bydd angen ichi gofrestru gan nodi eich enw, eich cyfeiriad e-bost a chyfrinair. Ni chodir tâl am hyn. Mae’r wybodaeth hon yn caniatáu i Theory Test Pro gadw eich sgorau fel y gallwch ddilyn eich cynnydd wrth i chi ymarfer ar gyfer y prawf.
  2. Bydd angen cyfeiriad e-bost dilys arnoch i gofrestru ar gyfer Theory Test Pro.
  3. Os ydych yn cofrestru gartref neu o unrhyw le arall ar wahân i’r llyfrgell bydd angen rhif côd bar llyfrgell dilys arnoch hefyd, sydd ar eich carden llyfrgell.

Os nad ydych yn aelod o lyfrgell cyhoeddus eto, i gael mynediad i Theory Test Pro, gallwch ymuno â’ch llyfrgell nail ai ar-lein neu mewn person. Gwybodaeth am sut i ymuno â‘ch llyfrgell leol yma.

 

 

Adnoddau Cyfeiriol Digidol

Fe gewch hyd i lu o adnoddau cyfeiriol ddigidol, fel gwyddoniaduron, bywgraffiadau, geiriaduron a phapurau newydd drwy eich lyfrgell gyhoeddus yng Nghymru. Bydd y rhain i gyd yn ddefnyddiol efo’ch gwaith cartref neu ymholiad ychwil arall. Dewch o hyd i beth sydd ar gael drwy wefan eich llyfrgell yma.

 

Adnoddau Electronig Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig ystod eang o adnoddau ar-lein rhad ac am ddim. I gael mynediad i’r rhain o bell, defnyddiwch eich tocyn darllenydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. I ymaelodi, llenwch y ffurflen gofrestru ar-lein.

Ewch i wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddarganfod fwy am y casgliadau helaeth sydd yno.

 
Cookie Settings