Theory Test Pro
Mae Theory Test Pro yn efelychiad realistig iawn o brawf theori gyrru’r Deyrnas Unedig. Mae’n cynnwys banc o gwestiynau swyddogol i ymarfer ar gyfer y prawf, clipiau fideo i’ch helpu i adnabod peryglon a fersiwn ar-lein o Reolau’r Ffordd Fawr. Defnyddir yr holl ddeunydd dan drwydded yr Asiantaeth Safonau Gyrru, sef y bobl sy’n gosod y prawf.
Os ydych yn byw yng Nghymru, bydd ganddoch fynediad am ddim i’r adnodd Theory Test Pro drwy ymaelodi a’ch llyfrgell gyhoeddus lleol. Gallwch gael mynediad i’r adnodd o unrhywle drwy ddefnyddio eich rhif aelodaeth llyfrgell, a logio mewn yn uniongyrchol.
Sut i gofrestru ar gyfer Theory Test Pro:
- Pan fyddwch yn defnyddio Theory Test Pro am y tro cyntaf, bydd angen ichi gofrestru gan nodi eich enw, eich cyfeiriad e-bost a chyfrinair. Ni chodir tâl am hyn. Mae’r wybodaeth hon yn caniatáu i Theory Test Pro gadw eich sgorau fel y gallwch ddilyn eich cynnydd wrth i chi ymarfer ar gyfer y prawf.
- Bydd angen cyfeiriad e-bost dilys arnoch i gofrestru ar gyfer Theory Test Pro.
- Os ydych yn cofrestru gartref neu o unrhyw le arall ar wahân i’r llyfrgell bydd angen rhif côd bar llyfrgell dilys arnoch hefyd, sydd ar eich carden llyfrgell.
Os nad ydych yn aelod o lyfrgell cyhoeddus eto, i gael mynediad i Theory Test Pro, gallwch ymuno â’ch llyfrgell nail ai ar-lein neu mewn person. Gwybodaeth am sut i ymuno â‘ch llyfrgell leol yma.