Gweithredu a Newid Bywydau ar gyfer Wythnos Llyfrgelloedd 2021

Mae Wythnos Llyfrgelloedd yn ddathliad wythnos gron o lyfrgelloedd poblogaidd y genedl, gyda’r ffocws yn 2021 ar gefnogi cymunedau gweithgar ac ymgysylltiedig a’r rôl ganolog y mae llyfrgelloedd yn ei chwarae yn eu cymuned fel sbardun ar gyfer cynhwysiant, cynaliadwyedd, symudedd cymdeithasol a chydlyniant cymunedol.

Drwy gydol yr wythnos bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithredu drwy amrywiaeth o ddigwyddiadau i ymgysylltu â’r gymuned leol, gyda gweithgareddau i oedolion a phobl ifanc, gan gynnwys rhyddhad y rhediad diweddaraf o gynnwys awduron grŵp Prosiect Digidol Estyn Allan. Sefydlwyd y prosiect diolch i grant gan Gronfa Adfer Diwylliannol Llywodraeth Cymru ac yn 2020 lansiwyd pecyn hyfforddiant digidol cyffrous i staff ar draws holl Awdurdodau Lleol Cymru. Mae’r rhaglen hyfforddi wedi bod yn amhrisiadwy wrth greu sylfaen i Lyfrgelloedd Cymru i hyrwyddo eu cynigion llyfrgell i gynulleidfaoedd presennol a newydd i’r dyfodol.

Poster Y tu hwnt i'r tudalen cypress sgyrsiau arlein gan awduron

Mae’r prosiect wedi bod yn gweithio gyda gydweithfa awduron trosedd Cymru Crime Cymru dros yr haf, ac mae ganddynt amrywiaeth o gynnwys i’w ryddhau, gan gynnwys cyfweliadau, fideos awdur a digwyddiad byw yn cynnwys awduron Crime Cymru Alis Hawkins a Katherine Stansfield. Mae’r ddwy awdur yn ysgrifennu ffuglen hanesyddol sy’n cwmpasu ystod eang o gyfnodau amser o’r canoloesoedd hyd ddechrau’r ugeinfed ganrif. Yn y digwyddiad ar-lein, bydd y pâr yn archwilio beth yw ffuglen hanesyddol (a beth nad yw!), a sut maen nhw’n llunio eu darganfyddiadau’n straeon gafaelgar. Bydd Prosiect Estyn Allan yn parhau i ryddhau cynnwys awduron Crime Cymru dros gyfnod o 5 wythnos yn dechrau ar 4ydd Hydref (rhyddheir 4 neu 5 fideo yr wythnos gan wahanol awduron).

  Poster Sgwrs Awdur arlein gyda Katherine Stansfield a Alis Hawkins

Yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd byddwn hefyd yn dathlu rôl amhrisiadwy llyfrgelloedd yn gwella lles a hyrwyddo cydraddoldeb drwy ddysgu, llythrennedd a gweithgarwch diwylliannol gyda digwyddiadau a gweithgareddau rheolaidd a gynhelir yr wythnos hon a thrwy gydol y flwyddyn gan gynnwys sesiynau amser stori a rhigwm i blant (a gynhelir yn y llyfrgell ac ar-lein), sesiynau hanes teulu, sesiynau cymorth TG a digwyddiadau awduron. Bydd yr ap gwasanaeth rheoli llyfrgell ‘PORI’ sydd newydd ei ddatblygu yn cael ei lansio yn ystod yr wythnos, gan roi ffordd fwy cyfleus i ddefnyddwyr llyfrgell gael mynediad i’w cyfrifon llyfrgell ar-lein.

Mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn lansio grŵp Ffrindiau Darllen yn Llyfrgell y Rhyl yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd. Os ydych chi’n teimlo’n ynysig ac eisiau cwrdd â phobl newydd beth am ymuno â’r grŵp am baned a sgwrs? Cysylltwch â Llyfrgell y Rhyl i archebu lle ar 01745 353814.

Poster Cynllun Ffrindiau Darllen Llyfrgelloedd Sir Ddinbych

Fel rhan o ddathliadau Wythnos Llyfrgelloedd mae Llyfrgelloedd Ceredigion wedi trefnu’r digwyddiadau gwych yma drwy eu tudalen Facebook:

  • Dydd Llun, 4 Hydref – Cyfweliad â Non Parry o’r grŵp pop Eden (cyfrwng Cymraeg)
  • Dydd Mawrth, 5 Hydref – Cyhoeddi enillwyr cystadleuaeth Sialens Ddarllen yr Haf.
  • Dydd Mercher, 6 Hydref  – Gwenallt Llwyd Ifan, enillydd Cadair Eisteddfod AmGen 2021,  yn darllen darn o’i waith buddugol (cyfrwng Cymraeg).
  • Dydd Iau, 8 Hydref – Cyfweliad y garddwr ac awdur Huw Richards (cyfrwng Saesneg).
  • Dydd Gwener, 9 Hydref – Lawnsio pôl Gwobr Booker.

Yn ystod mis Hydref, bydd yr awduron Nicola Davies a Bethan Gwanas yn ymddangos ar wefan Llyfrgelloedd Cymru fel Awduron y Mis, a bydd darllenwyr yn cael cipolwg arbennig ar eu llyfrau newydd, yn ogystal â chael gwybod am eu hoff awduron a sut mae llyfrgelloedd wedi eu hysbrydoli. MaeThe Songs that Sings Us gan Nicola Davies yn epig amgylcheddol syfrdanol gyda darluniau clawr a phennod gan y darlunydd arobryn, Jackie Morris, a Bethan Gwanas yn cyflwyno ei hantur ddiweddarafCadi a’r Gwrachodyn y gyfres boblogaidd sy’n cynnwys Cadi, y ferch fach ddireidus,  gyda darluniau gan Janet Samuel.

Dychwelodd Sialens Ddarllen yr Haf eleni, a gallai plant 4 i 11 oed gymryd rhan drwy lyfrgell eu hawdurdod lleol neu ar-lein. Mae’r Sialens yn annog plant rhwng 4 a 11 oed i fwynhau manteision darllen fel hamdden dros wyliau’r haf, gan ddarparu llawer o hwyl a mwynhad, yn ogystal â helpu atal gostyngiad mewn darllen dros yr haf. Bob blwyddyn, mae’r Sialens yn ysgogi dros 700,000 o blant i ddal ati i ddarllen er mwyn adeiladu eu sgiliau a’u hyder. Eleni, thema’r Sialens oedd Arwyr y Byd Gwyllt, a grëwyd mewn partneriaeth â WWF, ac a ddarluniwyd gan yr awdur plant a’r darlunydd llwyddiannus Heath McKenzie. Roedd y thema Arwyr y Byd Gwyllt yn ysbrydoli plant i archwilio ffyrdd o helpu i achub y blaned, gan ganolbwyntio ar weithredu dros fyd natur a thaclo problemau amgylcheddol y byd go iawn, o lygredd plastig a datgoedwigo i ddirywiad bywyd gwyllt a byd natur. 

Yng Nghymru, cyflwynodd yr awduron Luned Aaron, Emma Rea ac Eloise Williams, a’r sylwedydd natur a’r cyflwynydd teledu Iolo Williams fideos difyr yn cefnogi thema Arwyr y Byd Gwyllt, drwy Sianel Youtube Estyn Allan a gwefan Llyfrgelloedd Cymru. Mae’r fideos yn cyflwyno materion amgylcheddol cyfredol, gydag awgrymiadau ar gyfer deunydd darllen, gan atgyfnerthu’r rôl amhrisiadwy y mae llyfrgelloedd yn ei chwarae wrth gynnig deunydd darllen diddorol am ddim i blant yng Nghymru.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

“Mae llyfrgelloedd yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau ac yn gallu helpu i newid bywydau. Mae helpu pobl, yn enwedig plant, i ffurfio’r arfer gydol oes o ddarllen yn ganolog i lawer o’r prosiectau rydym yn eu cefnogi.

“Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn cymryd rhan ac yn mwynhau’r rhaglen o weithgareddau sy’n cael eu cynnal ledled Cymru yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd.”

Ymunwch yn y sgwrs #WythnosLlyfrgelloedd #LibrariesWeek a chael gwybodaeth bellach ar www.librariesweek.org.uk @librariesweek

Chwiliwch gwefan Llyfrgelloedd Cymru i gael gwybod mwy am yr holl wasanaethau a gweithgareddau sydd gan lyfrgelloedd yng Nghymru i’w cynnig drwy gydol y flwyddyn sy’n ymgysylltu â’u cymunedau.

Gall aelodau newydd gofrestru ar gyfer cerdyn llyfrgell a chael y newyddion diweddaraf, drwy ein dilyn ar @LlyfrgelloeddCymru ar Facebook, @LlyfrgellCymru ar Twitter a @librarieswales ar Instagram. 

Noddir Wythnos Llyfrgelloedd 2021 gan Nielsen a Bolinda / Borrowbox, a fe’i drefnir gan CILIP, y gymdeithas llyfrgell a gwybodaeth, ac fe’i cefnogir gan bartneriaid sy’n cynnwys The Reading Agency, Libraries Connected, Arts Council England, London Libraries a’r School Libraries Association.

Cookie Settings