A ydych wedi cwrdd â’r Horwth …?
Awst 14, 2020Dyma ni’n dal fyny efo Elidir Jones, a gofyn iddo ddatgelu ychydig am ei nofel ffantasi newydd i bobl Ifanc …
Beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu’r llyfr hwn?
Pan o’n i’n ifanc, roeddwn i ar dân eisiau darllen llyfrau ffantasi yn Gymraeg, ond ychydig iawn o ddewis oedd ar gael bryd hynny. Rŵan fy mod i mewn sefyllfa i wneud rhywbeth am y peth, dwi’n angerddol am greu llyfrau ffantasïol y bydd plant a phobl ifanc yng Nghymru eisiau eu darllen er pleser, yn eu hamser sbâr.
Roeddwn i wedi ysgrifennu nofel ffantasi i oedolion rai blynyddoedd yn ôl – sydd ddim wedi ei chyhoeddi eto, er dwi’n gobeithio’n fawr y bydd yn gweld golau dydd rywdro. Pan gefais i gynnig ysgrifennu llyfr gan Atebol, felly, roedd ysgrifennu nofel wedi ei seilio yn yr un byd dychmygol yn teimlo fel peth naturiol iawn i wneud. Doedd ’na ddim un foment fawr o ysbrydoliaeth roddodd enedigaeth i Yr Horwth – dim ond eistedd o flaen sgrîn am ddyddiau ar y tro, efo lot fawr iawn o goffi. Dyna sut mae o i mi 99% o’r amser.
Dywedwch ychydig am y stori rydych chi wedi’i chreu.
Yr Horwth ydi’r cynta mewn cyfres (gobeithio!) o straeon ffantasi i bobl ifanc o’r enw Chwedlau’r Copa Coch.
Mae’r nofel yn dilyn pedwar prif gymeriad – Sara, Heti, Pietro a Nad – wrth iddyn nhw fynd ar siwrne beryglus i fynydd yng nghanol y tir gwyllt, y Copa Coch, er mwyn trechu bwystfil o’r enw’r Horwth sydd wedi bod yn ymosod ar y wlad o’i gwmpas. Yn hynny o beth, dydi’r plot sylfaenol ddim yn annhebyg i unrhyw nifer o straeon ffantasi clasurol fel The Hobbit, ond mae ’na fwy nag un tro yn y gynffon wrth i’r nofel fynd yn ei blaen.
Ac, yn wahanol i nifer o straeon ffantasi (a heb sbwylio unrhyw beth, gobeithio), dydi’r cymeriadau ddim yn mynd “yno ac yn ôl eto”. Maen nhw’n aros ar y Copa Coch – a’r berthynas rhwng y cymeriadau a’u cartref newydd fydd un o’r themâu mwyaf wrth i’r gyfres barhau.
Beth ydych chi’n gobeithio y bydd darllenwyr yn ei gael o’r stori hon?
Mae gen i obaith, wrth gwrs, y bydd darllenwyr sydd wrth eu boddau efo ffantasi yn barod yn cael blas ar Yr Horwth. Ond rydw i hefyd wir yn gobeithio y bydd y llyfr yn apelio at ddarllenwyr sydd erioed wedi darllen ffantasi o’r blaen, ac yn eu hysbrydoli digon fel eu bod yn troi at fwy o glasuron o’r genre, yn Gymraeg neu’n Saesneg.
Dydi Yr Horwth yn sicr ddim yn nofel sydd wedi ei hanelu at fechgyn – mae fy hoff gymeriadau yn y llyfr oll yn ferched! Dydw i hefyd ddim wedi targedu un oed yn benodol pan mae’n dod at ddarllenwyr, ac yn gobeithio y bydd plant, pobl ifanc ac oedolion oll yn mwynhau Yr Horwth yn eu ffordd eu hunain.
Yn bennaf oll, dwi’n gobeithio y bydd Yr Horwth yn agor llygaid pobl o ran llyfrau ffantasi yn gyffredinol, a rôl ffantasi mewn llenyddiaeth Cymraeg yn fwy penodol.
Pa wybodaeth arbenigol neu ymchwil oedd ei hangen i ysgrifennu’r llyfr hwn?
Un o bleserau mawr ysgrifennu ffantasi ydi bod dim angen ymchwilio os dydych chi ddim eisiau gwneud! Yn amlwg, mae hanes, chwedl, straeon tylwyth teg, a gweithiau ffantasi eraill yn medru cael eu bwydo i mewn i’r broses o ysgrifennu ffantasi. Ond mae’n bwysig cofio mai byd dychmygol sy’n cael ei ddarlunio, a bod dim rhaid ufuddhau i unrhyw reolau, na defnyddio unrhyw ddylanwadau, os nad ydi’r awdur eisiau gwneud. Yr unig “ymchwil” sydd wir angen ei wneud ydi darllen digon o lyfrau ffantasi eraill! Ond dydi ymchwil ddim fel arfer mor hwyl…
Beth wnaeth i chi ddechrau ysgrifennu?
Ro’n i’n sgwennu ambell i stori fach wirion yn fy amser sbâr pan yn hogyn bach, a ges i gyfnod reit brysur o wneud tua diwedd fy nghyfnod yn yr ysgol uwchradd. Ond ychydig iawn ysgrifennais i wedyn tan 2010, pan gefais i fy swydd cyntaf yn ysgrifennu ar gyfer y teledu ar sail gyrfa fer fel digrifwr stand-yp.
Er fy mod i wrth fy modd yn ysgrifennu ar gyfer y teledu a’r radio, mae’n rhaid cadw pethau diflas fel cyllid ac ymarferoldeb mewn cof drwy’r amser. Mae’n braf, felly, ysgrifennu nofel (yn enwedig nofel ffantasi) a gadael i’r dychymyg fynd ar grwydr. Fe gychwynnais i ysgrifennu fy nofel gyntaf, Y Porthwll, yn 2014, a prin ydw i wedi stopio ers hynny!
Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc?
Gormod i’w rhestru, mae’n siŵr! Un gyfres wnaeth argraff fawr iawn arna i oedd Fighting Fantasy gan Steve Jackson ac Ian Livingstone – llyfrau ffantasi o’r 80au (sy’n cael eu hailargraffu bob ychydig o flynyddoedd, ac yn denu dilynwyr newydd bob tro), ble mae’r darllenwyr yn fflicio yn ôl ac ymlaen drwy’r llyfr, yn creu eu hantur eu hunain, yn hytrach na darllen drwy’r llyfr o’r dechrau i’r diwedd. Nhw wnaeth fy nghyflwyno i ffantasi. O hynny, fe es i ymlaen i ddarllen y gyfres Redwall gan Brian Jacques, ac wrth gwrs, campweithiau J.R.R. Tolkien.
Mae’n rhaid sôn hefyd am y llyfrau Asterix, oedd yn cael eu pentyrru wrth ymyl y gwely a’u llowcio’n awchus bob tro o’n i adre’n sâl o’r ysgol!
Pa brofiadau yn eich bywyd sydd wedi dylanwadu ar eich ysgrifennu fwyaf?
Er mai ffantasi ydw i’n ei ysgrifennu gan amlaf, mae’n berffaith naturiol i’r byd go-iawn ymyrryd o bryd i’w gilydd!
Dwi’n meddwl bod ’na ran ohona i ym mhob un o brif gymeriadau Yr Horwth. Fel Pietro, dwi wrth fy modd efo darllen. Dwi’n ffan mawr o eistedd mewn cadair gyfforddus efo paned o de, yn union fel Heti. Dydi fy jôcs i ddim wastad yn cael yr ymateb maen nhw’n eu haeddu, fel Nad druan. Ac, fel Sara, dwi’n figan! Doeddwn i erioed wedi dod ar draws cymeriad figan mewn nofel ffantasi o’r blaen, ond mae ’na dro cynta i bopeth, sbo…
Pe gallech ddewis fod yn gymeriad o lyfr am ddiwrnod, pwy fyddai hwnnw a pham?
Mae’n ddewis braidd yn ddiflas, ond fyddwn i wrth fy modd yn profi diwrnod ym mywyd Sam o The Lord of the Rings. Gardd mewn pentre allan o’r ffordd, tŷ llawn llyfra, pantri sy’n gwegian dan bwysa bwyd a diod… perffaith.
Tan bod rhaid i chi gerdded am fisoedd, drwy bob math o beryglon, er mwyn achub y byd. Fyddwn i’n medru gwneud heb hynny…
Pa gymeriad yn eich llyfrau ydych chi’n lleiaf tebygol o ddod ymlaen gyda hi/ef?
Mae’r ateb cywir i’r cwestiwn yma yn debyg o sbwylio diwedd Yr Horwth! Ateb dipyn symlach, felly: yr Horwth ei hun, wrth gwrs!
Pa neges sydd gennych i ysbrydoli ysgrifenwyr ifanc?
Y peth gwych am ysgrifennu ydi bod dim angen unrhyw beth arnoch chi oni bai am ddychymyg, a rhywbeth i ysgrifennu efo fo. Wneith papur a phensel yr un mor dda, fwy neu lai, â’r cyfrifiadur mwya drud.
Fe allech chi ysgrifennu unrhyw le, unrhyw bryd. Yn y bath. Ar ben mynydd. Tra’n hongian ar ben i lawr fel ystlum. Gewch chi drio rhannu eich ysgrifennu efo’r byd, neu gadw’r cyfan i chi’ch hun. Does dim otsh!
Ac mae’n hwyl! Does dim math arall o “waith” dwi’n fodlon ei wneud tan oria mân y bore. Mae’n gwneud i mi deimlo fel fy mod i erioed wedi tyfu i fyny. Sy’n deimlad reit dda i ddyn sydd newydd droi’n 35.
Am ragor o wybodaeth darllenwch ein taflen sy’n cyflwyno Elidir a’i lyfr newydd. Athrawon a staff llyfrgell, gallwch ei lawrlwytho yma!