Adolygiad ‘Tom’ gan Cynan Llwyd

Fy enw i yw Catrin ac rydw i’n bedwar ar ddeg mlwydd oed. Rydw i’n hoff iawn o ddarllen ac yn mwynhau llyfrau antur a dirgel. 

Dechreuais ddarllen yn gyson yn ystod y cyfnod clo cyntaf. Roedd hyn yn amser i mi ganolbwyntio ar fy hobïau a diddordebau. Roeddwn yn gwario fy nyddiau yn eistedd yn yr ardd efo fy nheulu yn darllen llawer, cwblhau gwaith cartref, arlunio, ac ymlacio a dianc o bopeth oedd yn mynd ymlaen yn y byd.

Rhai o fy hoff lyfrau i yw Pluen gan Manon Steffan Ros, Do you Speak Chocolate? gan Cas Lester a’r gyfres llyfrau dirgel One of Us is Lying gan Karen McManus. Rwyf yn eich annog i ddarllen y llyfrau yma hefyd os ydynt yn apelio atoch chi!

Yn ddiweddar darllenais i’r llyfr Tom gan Cynan Llwyd. Mae’r nofel yn son am fywyd cymhleth Tom sef prif gymeriad y llyfr. Yn syml mae Tom yn ddisgybl pymtheg oed sydd yn mynychu Ysgol Uwchradd Caercoed ac mae o’n byw yn stad Caercoed yn Grangetown efo’i fam. Mae lleoliad dinesig y nofel yn cyflwyno themâu hynod o gignoeth. Mae ganddo salwch meddwl OCD. Ei ffrindiau gorau yw Ananya a Dai, dyn wythdeg dau mlwydd oed. Ma’ nhw’n rhannu’r un diddordebau, er enghraifft darllen cylchgronau archarwyr. Mae ei fywyd yn anodd ac mae o’n cael ei hun ynghlwm ym mhethau ar adegau ond mae’n gwneud y peth iawn yn y diwedd. 

Rydw i’n hoff o’r ffordd mae Cynan yn dod mewn ag agweddau annymunol oherwydd rydym yn derbyn llawer o negeseuon pwysig wrth ddarllen y nofel rymus. Byddwn yn argymell y nofel i blant / pobl ifanc deuddeg oed a hyn oherwydd yn fy marn i mae’n lyfr arbennig ac mae angen i bawb ei ddarllen. Mae’r llyfr yn cynnwys llawer o themâu pwysig sydd yn hanfodol i wybod mewn bywyd er enghraifft tlodi, cymdogaeth, cyffuriau a hiliaeth.

Rwy’n gobeithio ewch chi i ddarllen y nofel gyfoes yma ar ôl ichi ddarllen fy adolygiad ohoni. Fe wnes i wir mwynhau ei ddarllen. Digwyddodd rhywbeth cyffrous ar bob tudalen! Ewch ati i ddarllen llyfr Tom, ni fyddwch chi yn gwastraffu eich amser.

Catrin Edwards

Cookie Settings