Cyfle i Ennill Tocynnau Llyfr Drwy Ysgrifennu am eich Profiadau Darllen
Awst 14, 2020A hoffech i’ch Blog gael ei gyhoeddi? Mae Llyfrgelloedd Cymru yn creu Blog newydd fel llwyfan i’ch profiadau darllen!
Bydd cyfle i ennill £20 o docynnau llyfr ar gyfer pob blog cyhoeddedig.
Dyma rai syniadau a allai fod yn y Blog:
- Adolygiad neu gipolwg ar lyfr/au rydych yn ei ddarllen neu wedi ei ddarllen.
- Cymhariaeth o lyfrau rydych wedi eu darllen.
- Cyflwyniad i nifer o lyfrau ar bwnc arbennig sydd o ddiddordeb ichi.
- Eich profiadau o wasanaeth eGomics RBdigital.
- Eich profiadau o ddefnyddio e-lyfrau llafar neu e-lyfrau Borrowbox neu RBdigital yn ystod y cyfyngiadau.
- Darn yn trafod ‘Beth sy’n arbennig am fy llyfrgell leol.’
Gellir ysgrifennu’r Blog yn Gymraeg neu yn Saesneg, a dylai fod rhwng 300-600 o eiriau. Dychwelwch y Blogiau gorffenedig at jhe@llgc.org.uk
Felly dewch mewn cysylltiad, a phob lwc!