Cyfle i Ennill Tocynnau Llyfr Drwy Ysgrifennu am eich Profiadau Darllen

A hoffech i’ch Blog gael ei gyhoeddi? Mae Llyfrgelloedd Cymru yn creu Blog newydd fel llwyfan i’ch profiadau darllen!
Bydd cyfle i ennill £20 o docynnau llyfr ar gyfer pob blog cyhoeddedig.
Dyma rai syniadau a allai fod yn y Blog:

  • Adolygiad neu gipolwg ar lyfr/au rydych yn ei ddarllen neu wedi ei ddarllen.
  • Cymhariaeth o lyfrau rydych wedi eu darllen.
  • Cyflwyniad i nifer o lyfrau ar bwnc arbennig sydd o ddiddordeb ichi. 
  • Eich profiadau o wasanaeth eGomics RBdigital.
  • Eich profiadau o ddefnyddio e-lyfrau llafar neu e-lyfrau Borrowbox neu RBdigital yn ystod y cyfyngiadau.
  • Darn yn trafod ‘Beth sy’n arbennig am fy llyfrgell leol.’

 

Gellir ysgrifennu’r Blog yn Gymraeg neu yn Saesneg, a dylai fod rhwng 300-600 o eiriau. Dychwelwch y Blogiau gorffenedig at jhe@llgc.org.uk

Felly dewch mewn cysylltiad, a phob lwc!

 
Cookie Settings