Llyfr Glas Nebo

 

Awdures talentog sydd yn ysgrifennu llyfrau cyffrous a theimladwy yw Manon Steffan Ros. Fe wnes i wirioneddol mwynhau darllen ei  llyfr Pluen, gwnaeth yr ysgrifennu gwych f’ysbrydoli i ddarllen ei llyfrau eraill fel ei llyfr adnabyddus Llyfr Glas Nebo.

Mae Manon Steffan Ros wedi ennill nifer o wobrau amdano – y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 2018, Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019, ac yn fwyaf diweddar fe wnaeth hi gyfieithu Llyfr Glas Nebo o’r Gymraeg i’r Saesneg a enillodd y Carnegie Medal for Writing 2023.

Lleoliad y llyfr yw Nebo, Gwynedd, yng Ngogledd-orllewin Cymru, ac mae’r stori’n canolbwyntio ar fywyd Rowenna a’i ddau blentyn sef Siôn ei mab pedwar-ar-ddeg oed a Dwynwen ei babi. Maen nhw’n adrodd eu hanes wrth fyw yn ystod cyfnod diwedd y byd sy’n cael ei adrodd mewn llyfr glas, ac o safbwynt y fam a’r mab pob yn ail bennod. Maen nhw’n cofnodi eu teimladau fel ffordd o wneud synnwyr o’r byd rhyfedd, ofnus a brawychus maen nhw’n profi, tra’n ceisio goroesi digwyddiad sy’n cael effaith ddinistriol ar drigolion pentref Nebo a thu hwnt.

Prif themâu cyfoes, modern a phwysig sy’n cael eu trafod sef meddyliau am y dyfodol, trychineb niwclear, llonyddwch, iechyd meddwl, unigrwydd, gwallgofrwydd, cyfrinachedd, gobaith, bywyd a marwolaeth. 

Rydym yn dysgu am fywyd cyn y digwyddiad ofnadwy trwy olion fflach o gof y fam, er enghraifft Siôn yn mynychu’r ysgol a’r fam yn cael hwyl wrth gweithio mewn siop trîn gwallt, sy’n gyferbyniol â’i bywyd unig, newydd. Roedd Siôn ond yn chwe blwydd oed pan ddaeth y diwedd. Ganwyd chwaer Siôn ar ddechrau’r cyfnod newydd, felly nid yw hi wedi profi bywyd gwahanol. I ryw raddau gall y darllenydd uniaethu â’r llyfr trwy ei atgoffa ychydig am y cyfnodau clo. 

Mae’r fam a’r mab yn ymdopi mewn ffyrdd gwahanol iawn. Daeth diwedd ar blentyndod Siôn yn fuan iawn, a cynorthwyodd ei fam trwy arddio, coginio a darllen llyfrau yn dawel bach, oedd hefyd yn cymryd ei feddwl oddi ar ei bryderon. Mae Rowenna yn brysur yn gofalu am ei dau blentyn ac yn cerdded trwy’r strydoedd i chwilio am fwyd.

Rydw i’n argymell y llyfr yma yn fawr i bob oed ei ddarllen, o ganlyniad i’w neges bwysig a delweddau pwerus. Mae’r llyfr yn medru taro ein cydwybod mewn ffordd arbennig i wneud inni ystyried sut y dylem ofalu am y byd o’n cwmpas.

Catrin Edwards.

Cookie Settings