Pori Drwy Stori
Mae Pori Drwy Stori yn rhaglen ddwyieithog gyffrous sy’n cefnogi llythrennedd a rhifedd plant wrth iddynt ddechrau yn y dosbarth Meithrin, a thrwy gydol y flwyddyn Derbyn. Bydd plant yn derbyn llyfrau ac adnoddau hwyliog i’w darllen adref neu yn yr ysgol.
Mae’r rhaglen yn cefnogi ac annog rhieni a gofalwyr i chwarae rôl actif yn natblygiad addysgol eu plant drwy rannu rhigymau a chaneuon, mwynhau llyfrau gyda’i gilydd, chwarae gemau rhifedd a chwblhau gweithgareddau hwyliog.
Mae’r rhaglen wedi ei chynllunio a’i chyflawni gan BookTrust Cymru a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Pori Drwy Stori: