Ysgolion ac Athrawon

Mae’r adran hon yn rhoi gwybodaeth am y cynlluniau a’r gweithgareddau a gynigir gan lyfrgelloedd sydd o fudd i ysgolion ac athrawon, gan gynnwys ymweliadau â llyfrgelloedd, Sialens Ddarllen yr Haf, a mynediad at gyfoeth o adnoddau digidol.

 
 
 
 
 
 
 
 

Sialens Ddarllen

Sialens Ddarllen yr Haf

Digwyddiad blynyddol wedi ei anelu at blant 4-11 oed yw Sialens Ddarllen yr Haf. Anogir plant i ddarllen chwe llyfr llyfrgell o’u dewis yn ystod gwyliau’r haf ac i dderbyn gwobrau bach yn anogaeth y gellir eu casglu wrth fynd ymlaen.

Sialens Ddarllen yr Haf

Digidol

Adnoddau Digidol

Mae ein casgliad anhygoel o adnoddau arlein yn cynnwys eLyfrau, eLyfrau Sain, eGomics ac eGylchgronau i blant a phobl ifainc, y gellid eu lawrlwytho am ddim.

Adnoddau Digidol

Awduron

Awdur y Mis

Bob mis ar wefan Llyfrgelloedd Cymru, byddwn yn canolbwyntio ar awdur ysbrydoledig sy’n byw yng Nghymru neu’n ysgrifennu am Gymru.

Awdur y Mis

Plant

Bardd Plant Cymru a Children's Laureate Wales

Mae Bardd Plant Cymru a Children’s Laureate Wales yn ddwy rôl lysgenhadol genedlaethol sydd â’r nod o ymgysylltu â ac ysbrydoli plant Cymru drwy lenyddiaeth, ac i hyrwyddo hawl plant i fynegi eu hunain.

Mwy o wybodaeth

Pori Drwy Stori

Pori Drwy Stori

Mae Pori Drwy Stori yn rhaglen ddwyieithog gyffrous sy'n ceisio cefnogi llythrennedd a rhifedd plant wrth iddynt ddechrau yn y dosbarth Derbyn ymhob ysgol yng Nghymru. Mae’r rhaglen yn adeiladu ar gynllun poblogaidd Dechrau Da, a anelir at blant ifancach.

Pori Drwy Stori

E-CALM

Pob Plentyn yn Aelod o’r Llyfrgell

Yn 2013, daeth llyfrgelloedd ac ysgolion Cymru at ei gilydd i roi cerdyn llyfrgell i bob plentyn ysgol gynradd, gyda chwe awdurdod lleol yn tywys y menter. Diolch i gyllid Llywodraeth Cymru o’r adran Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, ehangwyd y fenter i bob un o’r 22 awdurdod lleol, yn targedu fyny i 35,000 o blant ysgol cynradd Blwyddyn 4.

E-CALM
Cookie Settings