Adnoddau Digidol ar Gyfer Plant
Mae ein casgliad anhygoel o adnoddau arlein yn cynnwys eLyfrau, eLyfrau Sain, eGomics ac eGylchgronau i blant a phobl ifainc, y gellid eu lawrlwytho am ddim.
Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn mae’n rhaid i chi fod yn byw yn y Deyrnas Unedig a bod yn aelod cofrestredig mewn llyfrgell yng Ngymru. Os ydych eisioes yn aelod o’r llyfrgell, gallwch gael mynediad i’r adnoddau digidol gan ddefnyddio rhif cerdyn aelodaeth eich llyfrgell.
ELyfrau ac eLyfrau Llafar
Mae ein gwasanaeth eLyfrau ac eLyfrau Llafar Borrowbox yn cynnwys dros 20,000 o deitlau yn y Gymraeg a’r Saesneg gan awduron poblogaidd fel Mererid Hopwood a Meleri Wyn James.
I gael mynediad i’r adnoddau yma, lawrlwythwch ap Borrowbox oddi wrth yr App Store neu Google Play, a mewngofnodwch gan ddefnyddio’r cyfarwyddiadau isod, a dechreuwch fenthyca, lawrlwytho a mwynhau eLyfrau ac eLyfrau Llafar o gasgliadau @Borrowbox Llyfrgelloedd Cymru. Gellid eu lawrlwytho i ddyfeisiau Apple iOS a Android Google am gyfnodau cyfyngedig drwy fenthyciadau digidol. Mae ffeiliau sain MP3 yn hygyrch ac yn gydnaws â holl ddyfeisiau.
Cylchgronau Digidol
Benthycwch eich hoff gylchgronau o’ch gwasanaeth llyfrgell leol. Gall defnyddwyr sydd â chardiau llyfrgell nawr ddarllen cylchgronau digidol ar Libby , yr ap darllen o Overdrive, neu drwy ymweld â gwefan eu hawdurdod llyfrgell . Ymhlith y prif deitlau i blant mae Minecraft World, National Geographic Kids, The Week Junior, Storytime a Total Girl.
Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn mae’n rhaid i chi fod yn byw yn y Deyrnas Unedig a bod yn aelod cofrestredig mewn llyfrgell yng Nghymru sy’n rhan o’r cynllun. Os ydych eisoes yn aelod o’r llyfrgell, gallwch fenthyca e-gylchgronau gan ddefnyddio rhif cerdyn aelodaeth eich llyfrgell.
Nid oes gan cylchgronau digidol trwy Libby unrhyw restrau aros neu geisiadau , ac nid ydynt yn cyfrif tuag at nifer eich benthyciadau. Gallwch hefyd eu hadnewyddu’n hawdd. Gall benthycwyr Llyfrgelloedd Cymru bori rhestrau o gylchgronau o fewn yr ap a chwilio yn ôl fformat i ddod o hyd i deitlau sydd ar gael.
Gall darllenwyr bori a benthyg teitlau yn syth ac yna dechrau darllen am ddim gyda cherdyn llyfrgell dilys. Mae’r gwasanaeth hwn yn gydnaws â’r holl brif gyfrifiaduron a dyfeisiau – iPhone®, iPad®, ffonau a thabledi Android ™ a Chromebook ™. Mae pob teitl yn dod i ben yn awtomatig ar ddiwedd y cyfnod benthyca ac nid oes unrhyw ffioedd hwyr. Gall darllenwyr hefyd lawrlwytho teitlau i Libby i’w defnyddio all-lein.
I ddechrau mwynhau cylchgronau digidol , lawrlwythwch Libby neu ewch i wefan eich awdurdod Llyfrgell.
Adnoddau Cyfeiriol Digidol
Fe gewch hyd i lu o adnoddau cyfeiriol ddigidol, fel gwyddoniaduron, bywgraffiadau, geiriaduron a phapurau newydd drwy eich lyfrgell gyhoeddus yng Nghymru. Bydd y rhain i gyd yn ddefnyddiol efo’ch gwaith cartref neu ymholiad ychwil arall. Dewch o hyd i beth sydd ar gael drwy wefan eich llyfrgell yma.
Adnoddau Electronig Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig ystod eang o adnoddau ar-lein rhad ac am ddim. I gael mynediad i’r rhain o bell, defnyddiwch eich tocyn darllenydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. I ymaelodi, llenwch y ffurflen gofrestru ar-lein.
Ewch i wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddarganfod fwy am y casgliadau helaeth sydd yno.