Gwasanaethau a Gweithgareddau Llyfrgell
Plant
Plant a Theuluoedd
Mae'r adran hon yn rhoi braslun ichi o'r cyfoeth o gyfleoedd dysgu a mentrau atyniadol a gynigir gan lyfrgelloedd ar draws Cymru er mwyn cefnogi plant a theuluoedd. Mae llyfrgelloedd yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd i bob plentyn - i gael hwyl, i ddysgu, i ddarganfod a rhannu, gan gynnwys sesiynau adrodd stori i blant ifanc iawn a chlybiau codio i blant hyn. Mae gan y gweithgareddau hyn ran hanfodol i'w chwarae mewn datblygu darllen, dysgu a chyfranogi i gymdeithas sydd fwyfwy yn gwerthfawrogi gwybodaeth, llythrennedd a'r gallu i ddod o hyd ac i ddefnyddio gwybodaeth. Mae’n rhwydd i ymuno a’ch llyfrgell leol yng Nghymru, cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Plant a TheuluoeddBobl Ifanc
Bobl Ifanc
Mae'r adran hon yn cynnig cyflwyniad i lenyddiaeth ar gyfer plant yn eu harddegau a phobl ifanc drwy Flog Arddegau newydd, llwyfan unigryw i bobl ifanc gael ysgrifennu a darllen am eu profiadau darllen. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am fentrau iechyd a lles Darllen yn Well ar gyfer pobl ifanc, a'r ystod eang o gyfleoedd dysgu a gwasanaethau print, digidol a TG sydd ar gael o'ch llyfrgell leol yng Nghymru.
Bobl IfancIechyd a Lles
Iechyd a Lles
Mae'r adran hon yn rhoi cyflwyniad i fentrau Darllen yn Well a Byw'n Dda, sydd yn cefnogi iechyd a lles drwy adnoddau a gweithgareddau wedi eu cymeradwyo ac sydd ar gael mewn llyfrgelloedd ar draws Cymru. Mae Darllen yn Dda yn eich cefnogi i ddeall ac i reoli eich iechyd a'ch lles gyda darllen defnyddiol. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth y gallwch ymddiried ynddi i gefnogi eich lles drwy gasgliadau Darllen yn Dda a geir yn eich llyfrgell leol. Menter i'r genedl gyfan yw Byw'n Dda yng Nghymru sydd yn dod a llyfrgelloedd cyhoeddus a phartneriaid eraill ynghyd er mwyn pwysleisio'r rhan bwysig sydd gan lyfrgelloedd i'w chwarae yng nghanol eu cymunedau lleol, ac i hyrwyddo'r miloedd o ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd yn hybu iechyd a lles a gynhelir mewn llyfrgelloedd bob blwyddyn.
Iechyd a LlesTechnoleg a Dysgu
Technoleg a Dysgu
Mae'r adran hon yn rhoi cyflwyniad i gyfleusterau IT a'r cyfleoedd dysgu sydd ar gael oddi wrth eich llyfrgell gyhoeddus leol yng Nghymru.
Technoleg a DysguOutreach
Gwasanaeth y Llyfrgell Deithiol ac Estyn Allan
Mae’r gwasanaeth llyfrgell deithiol yng Nghymru yn ymweld â chymunedau o fewn awdurdodau yn reolaidd lle mae’n anodd i breswylwyr gael mynediad i’n llyfrgelloedd sefydlog. Os nad yw’n bosib i chwi ymweld â’r llyfgell deithiol oherwydd damwain, salwch neu anabledd, efallai bydd eich awdurdod lleol yn cynnig gwasanaeth i bobl sy’n gaeth i’r tŷ.
Gwasanaeth y Llyfrgell Deithiol ac Estyn AllanEstyn Allan
Ffocws Awdur Estyn Allan
Mae Estyn Allan yn gywaith rhwng llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru i greu cynnwys digidol, dan arweiniad Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru (SCL Cymru) ac wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Estyn Allan