Mai 16, 2024
Elusen genedlaethol The Reading Agency yn lansio casgliad newydd grymus o lyfrau Darllen yn Well ar gyfer Dementia
Mae The Reading Agency yn lansio Darllen yn Well ar gyfer Dementia, casgliad arloesol wedi’i guradu o lyfrau ac adnoddau sydd wedi’u cynllunio i harneisio grym darllen ar gyfer cefnogi iechyd a lles pobl y mae’r cyflwr yn effeithio arnyn nhw. Mae’r casgliad llyfrau yn cael ei lansio, mewn partneriaeth â llyfrgelloedd cyhoeddus, yn […]
Darllen MwyGwynedd i Arwain Prosiect Cenedlaethol ar gyfer Llyfrgelloedd
Bydd gwasanaethau llyfrgell ar draws Cymru yn cael eu trawsnewid o ganlyniad i system newydd sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac a arweinir gan Gyngor Gwynedd. Bydd hyn yn golygu y bydd un system ar gael ynghyd ag ap i bori catalog llyfrau a llyfrau llafar, yn ogystal ag archebu neu adnewyddu […]
Darllen MwyMawrth 7, 2024
Dathlu Diwrnod y Llyfr yng Nghymru 2024
Mae elusen Diwrnod y Llyfr yn cynnal ei dathliad blynyddol ar ddydd Iau 7 Mawrth, ac yn annog plant ledled y wlad i fwynhau darllen, gan dderbyn tocyn llyfr £1 i’w gyfnewid am un o’r llyfrau £1 a gyhoeddwyd yn arbennig ar gyfer y cynllun AM DDIM, neu i’w roi tuag at lyfr arall […]
Darllen MwyChwefror 5, 2024
Amser Rhigwm Mawr Cymru yn helpu plant Cymru i fwynhau rhigymu’n ddwyieithog
Mae BookTrust Cymru, yr elusen ddarllen i blant, yn annog teuluoedd, ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar ledled Cymru i ymuno yn Amser Rhigwm Mawr Cymru, dathliad wythnos o hyd ar gyfer rhannu rhigymau, cerddi a chaneuon dwyieithog gyda miloedd o blant yn eu blynyddoedd cynnar. Mae Amser Rhigwm Mawr Cymru, a ddatblygwyd gyda chefnogaeth […]
Darllen MwyIonawr 8, 2024
Hyb Llyfrgell Rhymni ar ei newydd wedd yn agor ei ddrysau
Fe wnaeth y Maer agor Hwb Llyfrgell Rhymni yn swyddogol heddiw, ddydd Llun 8 Ionawr, ar ôl gwaith ailwampio cyffrous diolch i gyllid gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chronfa Trawsnewid Cyfalaf Llywodraeth Cymru. Mae’r gwelliannau’n cynnwys ailwampio a moderneiddio dau lawr y llyfrgell, yn ogystal â hwb addysg, darllen a chymorth arloesol i drigolion, […]
Darllen MwyRhagfyr 8, 2023
Diweddariad Gwasanaeth Ap PORI
Yn anffodus, mae Ap PORI wedi’i analluogi am gyfnod oherwydd problemau seilwaith difrifol sydd y tu hwnt i’n rheolaeth yn llwyr. Mae’n bosibl y byddwch yn dal i allu cael mynediad i’r ap, fodd bynnag ni fydd unrhyw chwiliadau catalog yn bosibl a gall unrhyw ddata a all ymddangos yn eich adran Fy Nghyfrif […]
Darllen MwyMedi 27, 2023
Ewch yn Wyrdd yr Wythnos Llyfrgelloedd yma!
Yn 2023, bydd Wythnos Llyfrgelloedd yn Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd! Mae Wythnos Llyfrgelloedd yn ddathliad blynyddol o’r gorau sydd gan lyfrgelloedd i’w gynnig, a drefnir gan CILIP. Bob blwyddyn dewisir thema, ac mae’r pethau arloesol a rhyfeddol y mae llyfrgelloedd yn eu gwneud i gefnogi eu cymunedau yn cael eu harchwilio. Rhwng yr 2il a’r […]
Darllen MwyGorffennaf 19, 2023
Cymryd Rhan a Chael Hwyl gyda Sialens Ddarllen yr Haf 2023: Ar eich Marciau, Darllenwch!
Sialens Ddarllen yr Haf yw rhaglen ddarllen er pleser fwyaf y DU i blant, a gyflwynir gan The Reading Agency mewn partneriaeth â llyfrgelloedd. Mae’r Sialens yn annog plant 4-11 oed i ddal ati i ddarllen yn ystod gwyliau’r haf. Mae’r plant sy’n cymryd rhan yn gosod targedau darllen ac yn gallu darllen unrhyw […]
Darllen MwyMehefin 20, 2023
Tyfu gyda’n Gilydd – Creu dyddiau da yn eich llyfrgell leol
Mae Llyfrgelloedd Cymru’n lansio ymgyrch i hyrwyddo’r holl wahanol ffyrdd y gall eich llyfrgell leol gefnogi datblygiad cynnar plentyn, a chynnig cyfle i rieni newydd a gofalwyr fynd allan o’r tŷ i gwrdd â phobl newydd. Mae llyfrgelloedd yn croesawu plant pan nad ydynt ond ychydig fisoedd oed, ac maent wrthi’n helpu rhieni a […]
Darllen Mwy