Awst 9, 2019
Llyfrau, yn Aml, yw’r Moddion Gorau: Darllen yn Well ar Bresgriptiwn yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r Asiantaeth Ddarllen i ddarparu Darllen yn Well ym mhob un o’r 22 awdurdod llyfrgell yng Nghymru. Mae’r cynllun Darllen yn Well yn cefnogi unigolion i ddeall a rheoli eu hiechyd drwy gyfrwng llyfrau pwrpasol. Bydd swyddogion proffesiynol y maes iechyd yn gallu argymell llyfr i unrhyw un sydd angen mwy […]
Darllen MwyGorffennaf 16, 2019
Plant Cymru yn Mentro i’r Gofod wrth i Sialens Ddarllen yr Haf Gychwyn
Paratowch i ddathlu ugeinfed pen-blwydd Sialens Ddarllen yr Haf a mynd ar Ras Ofod. Cafodd y sialens ei lansio gan yr Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yn Llyfrgell y Drenewydd ddydd Gwener, 12 Gorffennaf 2019, yng nghwmni’r awdur a’r darlunydd poblogaidd Max Low. Teitl Sialens Ddarllen yr Haf eleni yw Ras […]
Darllen MwyMai 22, 2019
£1 miliwn i amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yng Nghymru
Wrth annerch Cynhadledd Flynyddol Cymru Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth(CILIP) heddiw, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Yr Arglwydd Elis-Thomas, y byddai amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yng Nghymru yn derbyn bron i £1 filiwn o gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru er mwyn datblygu a gwella eu cyfleusterau a’u gwasanaethau. Diben y Rhaglen […]
Darllen MwyMai 31, 2018
E-lyfrau ac e-lyfrau llafar
Mae gwasanaeth e-lyfrau Cymru wedi newid cyflenwr ers y 1af o Fai. Symudwyd ein casgliad e-lyfrau ac e-lyfrau llafar i BorrowBox fel yr unig gyflenwr e-lyfrau ac e-lyfrau llafar ar gyfer llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru. O ganlyniad i hyn, bydd y dewis stoc yn cynyddu’n sylweddol, ac mae yna ap ar gael hefyd ar gyfer defnyddwyr […]
Darllen MwyMai 25, 2018
£1.35 miliwn ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd Cymru
Wrth ymweld ag Archifau Morgannwg (22.5.18), cyhoeddodd y Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y bydd amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yng Nghymru yn elwa ar dros £1.35 miliwn o gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu a gwella eu cyfleusterau a’u gwasanaethau. Bydd y Rhaglen Grantiau Cyfalaf yn helpu amgueddfeydd, archifau a […]
Darllen MwyMai 24, 2018
Gwnewch amser i chi eich hun yr hydref hwn yn eich llyfrgell
Bydd llyfrgelloedd ledled Cymru yn dod yn fyw yn ystod mis Hydref eleni ac yn dangos sut y gallant chwarae rôl allweddol yn ein lles. Ar draws y wlad, bydd llyfrgelloedd yn cynnal digwyddiadau gydag awduron a darlunwyr gwadd, sesiynau darllen grŵp, gweithgareddau addysgol a llenyddiaeth, digwyddiadau cerddorol a llawer mwy i’ch denu yn ystod […]
Darllen MwyEbrill 24, 2018
Agoriad swyddogol Llyfrgell Y Bala
Yn dilyn gwaith uwchraddio, mae Llyfrgell Y Bala wedi ei agor yn swyddogol i’r cyhoedd ar ei newydd wedd. Mae’r llyfrgell wedi dychwelyd i’w gartref ar safle Ysgol y Berwyn yn y dref yn dilyn cyfnod dros dro yng Nghanolfan Hamdden Penllyn tra roedd y gwelliannau yn cael eu cwblhau. Gyda hynny, bydd y llyfrgell […]
Darllen MwyChwefror 20, 2018
Gweinidog yn ail-agor Llyfrgell Tref-y-clawdd
Mae’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas AC wedi ail-agor y llyfrgell gyhoeddus o fewn canolfan gymuned Tref-y-clawdd a’r Fro dydd Iau 15 Chwefror 2018. Ers mis Rhagfyr y llynedd, mae’r ganolfan wedi bod yn gartref i’r llyfrgell ac yn bartneriaeth lwyddiannus rhwng y pwyllgor rheoli a’r llyfrgell. Gwireddwyd y cynllun trwy gynllun […]
Darllen MwyRhagfyr 21, 2017
Sialens Ddarllen yr Haf 2017: canlyniadau Anifail-Ysbiwyr
Sialens Ddarllen yr Haf 2017: The Reading Agency a llyfrgelloedd yn cyhoeddi cynnydd yn nifer y rhai a gymerodd ran yn y sialens Anifail-Ysbiwyr, ac mai’r Beano fydd thema 2018: Cymerodd 761,758 o blant ran yn y sialens Anifail-Ysbiwyr ar lefel y DU, ac roedd hynny’n gynnydd o 6,550 ar gyfanswm 2016 Mae’r cyfanswm hwn […]
Darllen Mwy