LINC y Gogledd

Beth yw LINC-y-Gogledd?

Cynllun benthyca rhwng llyfrgelloedd cyhoeddus, llyfrgelloedd addysg uwch ac addysg bellach yng Ngogledd Cymru yw LINC.  Mae’r cynllun yn cynnwys llyfrgelloedd cyhoeddus siroedd Gwynedd, Conwy, Ynys Môn, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam yn ogystal a llyfrgelloedd Prifysgol Bangor, Grŵp Llandrillo Menai, Coleg Cambria a llyfrgell Cyfoeth Naturiol Cymru ym Mangor.

Mae’r cynllun yn caniatáu i ddefnyddwyr cofrestredig llyfrgelloedd y rhanbarth i fenthyca deunydd o lyfrgelloedd y bartneriaeth mewn un o ddwy ffordd; Benthyca Partneriaid a Benthyca Personol. Gall unrhyw un sy’n aelod presennol o un o lyfrgelloedd partner LINC ofyn i lyfrau gael eu trosglwyddo i’w llyfrgell leol yn rhad ac am ddim.

Cynllun Benthyca Personol

Gallwch fenthyg yn bersonol o lyfrgelloedd y prifysgolion a llyfrgelloedd y colegau addysg bellach drwy lenwi ffurflen aelodaeth LINC. Bydd angen i’r ffurflen gael ei stampio a’i wirio gan eich llyfrgell gartref. Ewch a’r ffurflen, gydag eich cerdyn aelodaeth llyfrgell gartref, at ddesg ddosbarthu’r llyfrgell yr ydych yn bwriadu ei ddefnyddio. Byddwch yn derbyn cerdyn benthyca a fydd yn eich caniatáu i fenthyg 6 eitem am 2 wythnos.

  • Ffurflen Aelodaeth LINC-Y-Gogledd

Cookie Settings