Banc Ffotograffau
Comisiynwyd y ffotograffau yma gan Lywodraeth Cymru i’w defnyddio gan staff llyfrgelloedd yng Nghymru. Mae’r ffotograffau yn cynnwys detholiad o oedolion a phlant yn manteisio ar amrywiaeth eang o wasanaethau llyfrgell gan gynnwys llyfrgell symudol, addysg bellach ac uwch, amser rhigymau, gwasanaeth i bobl sy’n gaeth i’r tŷ a gweithgareddau allgymorth.
Mae’r holl bobl sydd i’w gweld yn y ffotograffau wedi rhoi caniatâd i’w lluniau gael eu defnyddio gan lyfrgelloedd yng Nghymru.
Gallwch ddefnyddio’r ffotograffau hyn i helpu i hyrwyddo eich gwasanaethau ar bosteri, cyfryngau cymdeithasol a hysbysebion, mewn adroddiadau neu gyflwyniadau.
Nodwch fod hawlfraint y delweddau yn perthyn i Lywodraeth Cymru – ©LlywodraethCymru
Danfonwch e-bost at Photo.Bank.Resource@llgc.org.uk am y cyfrinair
Cliciwch yma i fynd i’r oriel, ac ewch i ‘Media Library’.
Gallwch ddefnyddio’r ffotograffau hyn ble bynnag yr ydych yng Nghymru. Does dim rhaid i chi fod yn un o’r llyfrgelloedd sydd yn y ffotograffau.
Os byddwch yn tynnu ffotograffau yn eich digwyddiad eich hun, gallwch lawrlwytho ffurflen ganiatâd ddwyieithog ar gyfer ffotograffau yma: