Tyfu gyda’n Gilydd – Creu dyddiau da yn eich llyfrgell leol
Mehefin 20, 2023
Mae Llyfrgelloedd Cymru’n lansio ymgyrch i hyrwyddo’r holl wahanol ffyrdd y gall eich llyfrgell leol gefnogi datblygiad cynnar plentyn, a chynnig cyfle i rieni newydd a gofalwyr fynd allan o’r tŷ i gwrdd â phobl newydd.
Mae llyfrgelloedd yn croesawu plant pan nad ydynt ond ychydig fisoedd oed, ac maent wrthi’n helpu rhieni a gofalwyr i gefnogi eu plant wrth iddynt dyfu a dysgu. Bydd yr ymgyrch ‘Creu dyddiau da yn eich llyfrgell leol’ yn rhoi sylw i’r holl weithgareddau a digwyddiadau gwych sydd ar gael yn eich llyfrgell, a’r effaith gadarnhaol y gall treulio amser arbennig gyda’n gilydd ei chael ar blant bach a’u teuluoedd.
Mae rhannu llyfr neu gân yn ffordd fendigedig o glosio at ein gilydd sy’n helpu plant i ddysgu am y byd o’u cwmpas a rhoi enwau ar bethau. Bydd darllen straeon gyda’ch gilydd yn hybu datblygiad eich plentyn – eu hemosiynau a lleferydd, dysgu cyfrif a thu hwnt. Mae hefyd yn ffordd o gyflwyno plant i amrywiaeth a’u helpu i ddeall gwahanol ddiwylliannau. Nid yw hi byth yn rhy gynnar i ddechrau rhannu llyfrau, straeon a rhigymau â’ch plentyn a does yr unlle gwell i ddod o hyd i’r stori berffaith na’ch llyfrgell leol.
Mae magu neu ofalu am fabanod a phlant bach yn medru bod yn waith llethol o brysur ac weithiau mae’n anodd cael amser i fynd o’r tŷ i wneud rhywbeth difyr – mae ymweld â’ch llyfrgell leol yn gyfle gwych i chi a’ch plentyn fynd allan ar grwydr, rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol a chwrdd â ffrindiau newydd. Mae cael sgwrs â ffrind yn y llyfrgell, mynd am baned, mynd â’r plant am dro neu fynd i’r cae chwarae ar ôl ichi ymweld â’r llyfrgell yn medru rhoi hwb go iawn i’ch diwrnod chi.
P’un a ydych chi awydd dod i ddarllen stori dawel i’ch plentyn ar eich glin neu forio canu gyda’ch ffrindiau i gyd, fe fydd rhywbeth at eich dant chi yn eich llyfrgell leol, felly dewch draw i weld beth sydd ar gael!
Kate Leonard (Llyfrgelloedd Aura) sydd wedi bod yn trefnu’r ymgyrch, a dywedodd,
“Mae ein hymgyrch ‘Creu Dyddiau Da’ yn rhoi sylw i’r gwaith y mae Llyfrgelloedd yng Nghymru’n ei wneud i gefnogi datblygiad babanod a phlant bach, a’r effaith gadarnhaol y mae ein gwasanaethau’n ei chael wrth weithio â rhieni a gofalwyr. Rydym am annog cymaint â phosib o bobl i gael golwg ar yr hyn sydd gan eu llyfrgell leol i’w gynnig, boed hynny’n weithgareddau a digwyddiadau difyr i deuluoedd, neu rywle tawel i ddod i rannu stori arbennig.
“Mae ein llyfrgelloedd yma i roi croeso cynnes a lle i rieni ddod ynghyd a chefnogi ei gilydd mewn cyfnod sydd weithiau’n gallu bod yn heriol. Rydym yn cydnabod mor bwysig ydi gosod trefn, a mynd allan i gwrdd â phobl sy’n mynd drwy’r un profiadau â chi, a chredwn fod ymweld â’ch llyfrgell leol yn rheolaidd yn ffordd berffaith o wneud hynny!”
I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch Byw’n Dda yng Nghymru, ewch i Byw’n Dda yng Nghymru – Libraries Wales (llyfrgelloedd.cymru)