Rhagfyr 10, 2024
Neuadd y Dref Maesteg yn Ailagor i’r Cyhoedd
Roedd dydd Mercher 20 Tachwedd 2024 yn ddiwrnod hanesyddol i bobl Maesteg a Chwm Llynfi ehangach, wrth i Neuadd y Dref Maesteg agor ei drysau’n swyddogol i’r cyhoedd, yn dilyn prosiect ailddatblygu hynod uchelgeisiol, gwerth miliynau o bunnoedd, a gyflawnwyd gan y cyngor a’i bartneriaid. yn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen. Ymunodd Huw Irranca-Davies, MS a Stephen […]
Darllen MwyRhagfyr 6, 2024
System Rheoli Llyfrgell Newydd ar gyfer Llyfrgelloedd Cymru
Yn ystod Rhagfyr, bydd Llyfrgelloedd Cymru’n trosglwyddo i system rheoli llyfrgelloedd newydd. Dyma’r system gyfrifiadurol sy’n cadw cofnodion ar gyfer pethau fel gwybodaeth am eich aelodaeth llyfrgell a chyfrifon cwsmeriaid, ein catalog stoc, cofnodion o fenthyciadau ac archebion ac unrhyw ffioedd a godir mewn perthynas â’r rhain. Mae hefyd yn cefnogi mynediad i rai […]
Darllen MwyTachwedd 13, 2024
Newidiadau i’r Mynediad i Gylchgronau a Phapurau Newydd Digidol
Pressreader yw platfform newydd cylchgronau a phapurau newydd digidol llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru. Lawnsiwyd y gwasanaeth ar 1af o Dachwedd, ac mae nawr ar gael i ddefnyddwyr llyfrgell dros Gymru gyfan am y tro cyntaf. Ar ap PressReader neu pressreader.com, gallwch gael mynediad i fwy na 7,000 o gyhoeddiadau gorau’r byd cyn gynted ag […]
Darllen MwyTachwedd 6, 2024
Llyfrgell a Chanolfan Dysgu Oedolion yn y Gymuned Abertyleri wedi symud i galon canol y dref
Mae Llyfrgell a Chanolfan Dysgu Oedolion yn y Gymuned Abertyleri wedi symud i galon canol y dref Abertyleri ac mae Hyb Cymunedol y Cyngor wedi ymuno â nhw, gan ddarparu mynediad hawdd at y gwasanaethau cymunedol pwysig hyn. Fe welwch nhw yn eu cartref newydd yng Nghapel y Drindod ar Stryd yr […]
Darllen MwyTachwedd 4, 2024
Penodau Newydd: Trawsnewid Llyfrgelloedd Cymunedol yng Nghonwy
Mae’n bleser gan Rwydwaith Llyfrgelloedd Cymunedol yng Nghonwy gyhoeddi bod cam adeiladu’r prosiect “Penodau Newydd” wedi ei gwblhau’n llwyddiannus. Menter drawsnewidiol yw “Penodau Newydd” yn dilyn cais cydweithredol i Lywodraeth y DU, trwy’r UK Shared Prosperity Fund (UKSPF) a Chronfa Allweddol Adfywio Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae’r prosiect yma wedi adfywio tair llyfrgell gymunedol, […]
Darllen MwyHydref 24, 2024
Buddsoddi yn Llyfrgell Cwmbrân
Bydd bron i hanner miliwn o bunnau yn cael ei fuddsoddi yn Llyfrgell Cwmbrân y flwyddyn nesaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi Grant Cyfalaf Trawsnewid gwerth £300,000 tuag at y gwaith adnewyddu, a bydd Cyngor Torfaen yn rhoi £127,000 ychwanegol. Bydd cynlluniau manwl nawr yn cael eu llunio ac mae […]
Darllen MwyHydref 18, 2024
Pressreader yn Dod yn Fuan!
Mi fydd gwasanaeth eGylchgronau ac eBapurau cwmni Overdrive, Pressreader, yn cyrraedd Llyfrgelloedd Cymru ym mis Tachwedd! Mi fydd y gwasanaeth ar gael i ddefnyddwyr llyfrgell dros Gymru gyfan am y tro cyntaf. Beth yw Pressreader? PressReader yw eich stondin newyddion digidol ar gyfer papurau newydd a chylchgronau – fydd ar gael yn fuan drwy […]
Darllen MwyHydref 16, 2024
Gwaith Adnewyddu ar y Gweill yn Llyfrgell Betws
Bydd Llyfrgell Betws, a reolir gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ar gau o 18ed Hydref tan ddechrau Chwefror 2025 i gael ei adnewyddu. Gyda bron i £150,000 yn cael ei fuddsoddi, mae’r gwaith yn cael ei ariannu gan Grant Cyfalaf Trawsnewid Llywodraeth Cymru gydag arian cyfatebol yn […]
Darllen MwyHydref 2, 2024
Mentrau Gwyrdd yw Ffocws Wythnos Llyfrgelloedd
Bydd Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd yn dychwelyd rhwng 7-13 Hydref 2024, yn dathlu llyfrgelloedd a chanolbwyntio ar yr hinsawdd a chynaliadwyedd. Yn 2023, aeth Wythnos Llyfrgelloedd yn Wyrdd, gyda llyfrgelloedd o Jersey i John O’Groats yn cynnal mwy na 290 o weithgareddau amgylcheddol a chynaliadwyedd rhwng 2 a 8 Hydref. Mae’r ymgyrch Llyfrgelloedd Gwyrdd yn […]
Darllen Mwy