Newyddion
Gorffennaf 19, 2023
Cymryd Rhan a Chael Hwyl gyda Sialens Ddarllen yr Haf 2023: Ar eich Marciau, Darllenwch!
Sialens Ddarllen yr Haf yw rhaglen ddarllen er pleser fwyaf y DU i blant, a gyflwynir gan The Reading Agency mewn partneriaeth â llyfrgelloedd. Mae’r Sialens yn annog plant 4-11 oed i ddal ati i ddarllen yn ystod gwyliau’r haf. Mae’r plant sy’n cymryd rhan yn gosod targedau darllen ac yn gallu darllen unrhyw […]
Darllen MwyMehefin 20, 2023
Tyfu gyda’n Gilydd – Creu dyddiau da yn eich llyfrgell leol
Mae Llyfrgelloedd Cymru’n lansio ymgyrch i hyrwyddo’r holl wahanol ffyrdd y gall eich llyfrgell leol gefnogi datblygiad cynnar plentyn, a chynnig cyfle i rieni newydd a gofalwyr fynd allan o’r tŷ i gwrdd â phobl newydd. Mae llyfrgelloedd yn croesawu plant pan nad ydynt ond ychydig fisoedd oed, ac maent wrthi’n helpu rhieni a […]
Darllen MwyMai 10, 2023
Llywodraeth Cymru yn Buddsoddi £1.7m i Drawsnewid Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd yng Nghymru
Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden, wedi cyhoeddi y bydd rhai o hoff amgueddfeydd a llyfrgelloedd Cymru yn cael eu trawsnewid ar ôl i Lywodraeth Cymru ddyfarnu swm o £1.7 miliwn. Nod y Rhaglen Gyfalaf Trawsnewid Diwylliannol yw galluogi llyfrgelloedd cyhoeddus, amgueddfeydd lleol a gwasanaethau archifau i drawsnewid y ffordd […]
Darllen MwyEbrill 3, 2023
Llyfrgell Pencoed yn Ailagor yn Swyddogol
Mae Llyfrgell Pencoed wedi ailagor yn swyddogol ar ei phenblwydd yn 50oed! Yn ystod ei chyfnod byr ar gau, mae’r llyfrgell wedi’i thrawsnewid yn llwyr i fod yn ofod llachar, croesawgar i’r gymuned gyfan ei ddefnyddio a’i fwynhau. Diolch i gyllid gan Raglen Grant Cyfalaf Trawsnewid Llywodraeth Cymru, mae’r dodrefn wedi’i ddiweddaru […]
Darllen MwyMawrth 28, 2023
Cyfnod newydd i Lyfrgell Castell-nedd
Mae Llyfrgell Castell-nedd wedi’i leoli mewn safle awdurdodol yng nghanol Castell Nedd, yn edrych dros Erddi Fictoria’r dref, am yn agos i 120 o flynyddoedd. Wedi’i hadeiladu ym 1904 mae’r Llyfrgell Carnegie draddodiadol wedi gwasanaethu sawl cenhedlaeth o drigolion Castell-nedd a’r cymunedau cyfagos, ac mae’n un o adeiladau mwyaf poblogaidd y dref. Ond wrth […]
Darllen MwyMawrth 6, 2023
Buddsoddiad yn Llyfrgell Penygroes a Petha Penygroes
Mae gwelliannau sylweddol wedi eu gwneud i Lyfrgell Penygroes gan Gwasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Gwynedd i greu gofod atyniadol, cyfoes a chyfforddus i ddefnyddwyr, diolch i grant o £60,000 gan Gronfa Cyfalaf Trawsnewid Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru. Mae Llyfrgell Penygroes yn cael defnydd da gan drigolion y Dyffryn gyda mwy na 14,000 o fenthyciadau llyfrau yn […]
Darllen MwyChwefror 28, 2023
Gwnewch e’n Ddiwrnod y Llyfr I CHI yn 2023
Mae elusen Diwrnod y Llyfr yn cynnal ei dathliad blynyddol ddydd Iau, 2 Mawrth 2023 – diwrnod sydd wedi’i ddynodi’n arbennig i sicrhau bod pob plentyn yn gallu datblygu cariad at ddarllen. Bydd Diwrnod y Llyfr yn darparu nifer fawr o gyfleoedd i sicrhau bod teuluoedd a phlant yn cael nodi’r diwrnod mewn dulliau […]
Darllen MwyChwefror 15, 2023
Llyfrgell Y Waun yn Dathlu ei Hanner Canmlwyddiant
Agorwyd Llyfrgell Y Waun (Chirk) ar 17eg o Fai, 1973 gan Lyfrgellydd y Sir, E.R Luke, mewn adeilad pwrpasol newydd. Mae’r Llyfrgell yn 2023 yn dathlu ei hanner canmlwyddiant, ac mae’r staff yn brysur yn cynllunio gweithgareddau arbennig i ddathlu twf a datblygiad y gwasanaeth. Mae’r llyfrgell, sydd ar agor 21 awr yr wythnos […]
Darllen MwyChwefror 3, 2023
Mae Bwrlwm y Rhigwm i Bawb wrth i Amser Rhigwm Mawr Cymru BookTrust Cymru ddychwelyd yn 2023
Mae BookTrust Cymru, yr elusen ddarllen i blant, yn annog teuluoedd, ysgolion, a lleoliadau blynyddoedd cynnar ledled Cymru i ymuno ag amser Rhigwm Mawr Cymru fis Chwefror eleni. Bellach yn ei bumed flwyddyn, Amser Rhigwm Mawr Cymru yw’r wythnos o ddathliad cenedlaethol i rannu rhigymau, cerddi, a chaneuon dwyieithog gyda phlant yn y blynyddoedd […]
Darllen Mwy