Mehefin 23, 2021

£1.1 miliwn ar gyfer Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd yng Nghymru

Bydd wyth amgueddfa a llyfrgell yn elwa o gyllid o £1.1 miliwn drwy Grantiau Cyfalaf Trawsnewid Llywodraeth Cymru. Nod y cynllun yw cefnogi amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd lleol i adfywio cyfleusterau gan ganolbwyntio’n benodol ar ehangu mynediad, gweithio mewn partneriaeth a datblygu gwasanaethau cynaliadwy. Bydd pum llyfrgell yn cael eu moderneiddio gyda’r cyllid yn mynd […]

Darllen Mwy

Ebrill 8, 2021

Gwasanaeth eGylchgronau RB Digital yn Symud i Overdrive

Mae’r gwasanaeth eGylchgronau RB Digital nawr wedi symud draw i Overdrive. Mae dros 3,000 o gylchgronau  poblogaidd  bellach ar gael i’w lawrlwytho a’u darllen ar unrhyw ddyfais 24 /7 . Bydd defnyddwyr gyda cherdyn llyfrgell yn gallu darllen cylchgronau digidol ar Libby , yr ap darllen o Overdrive, neu drwy ymweld â gwefan eu hawdurdod llyfrgell . Ymhlith y prif deitlau mae The Economist, National Geographic a Vanity Fair a channoedd o gylchgronau poblogaidd […]

Darllen Mwy

Mawrth 16, 2021

Llyfrgelloedd Cymru yn Estyn Allan i’r Byd Rhithiol

Bydd gan staff llyfrgell ar draws holl Awdurdodau Lleol Cymru fynediad at becyn hyfforddiant digidol cyffrous, diolch i grant gan Gronfa Adfer Diwylliannol Llywodraeth Cymru. Mae’r flwyddyn diwethaf wedi gweld newid enfawr yn y ffordd mae llyfrgelloedd cyhoeddus ledled Cymreu wedi gallu cynnig eu gwasanaethau yn ystod pandemig Coronofeirws. Gyda chyfyngiadau sy’n golygu na all […]

Darllen Mwy

Mawrth 9, 2021

Prosiect Torfoli y Drenewydd yn Galw am Wirfoddolwyr

Casgliad Ffotograffiaeth David Pugh Ydych chi’n hoff o edrych ar hen ffotograffau? Oes gennych chi ddiddordeb yn hanes y Drenewydd a’i phobl? Mae Casgliad y Werin Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr ar-lein i gyfoethogi casgliad ffotograffig David Pugh (1942–2017) o’r Drenewydd. © Grŵp Hanes Lleol y Drenewydd Roedd David Pugh yn un o groniclwyr mwyaf […]

Darllen Mwy

Mawrth 3, 2021

Rhannu Stori ar Ddiwrnod y Llyfr 2021

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn annog pobl ar hyd a lled Cymru i rannu stori i ddathlu Diwrnod y Llyfr 2021 ar ddydd Iau 4 Mawrth. Gallai rhannu stori gynnwys darllen gartref gyda’r teulu, darllen gyda ffrind dros y we, darllen yn eich hoff le, darllen mewn lleoliad anghyffredin, rhannu stori gydag anifail anwes a […]

Darllen Mwy

Chwefror 5, 2021

Cael Hwyl yn Dathlu Rhigymau a Chaneuon yn Amser Rhigwm Mawr Cymru!

Bydd Amser Rhigwm Mawr Cymru yn digwydd o ddydd Llun 8fed tan ddydd Gwener 12eg Chwefror 2021! Eleni, mae BookTrust Cymru eisiau gwneud Amser Rhigwm Mawr Cymru yn well fyth trwy wahodd plant yn y Cyfnod Sylfaen i chwarae rhan yn yr hwyl rhigymu hefyd! Os ydych chi’n gweithio gyda phlant rhwng 0 a 7 oed, […]

Darllen Mwy

Rhagfyr 17, 2020

Cartwnau Huw Aaron i godi gwên ar Ddiwrnod y Llyfr 2021

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn hynod o falch o gyhoeddi mai cyfrol llawn hwyl a sbri gan Huw Aaron fydd y llyfr £1 Cymraeg newydd ar gyfer Diwrnod y Llyfr 2021. Yn ei ffordd ddihafal ei hun, mae’r cartwnydd a’r darlunydd dawnus o Gaerdydd wedi mynd ati i greu Ha Ha Cnec i blant bach […]

Darllen Mwy

Hydref 20, 2020

Llyfrgelloedd yn Cefnogi eu Cymunedau mewn Amserau Heriol

Roedd llyfrgelloedd ymhlith y cyntaf i ddechrau darparu gwasanaeth i’w cymunedau yn dilyn addasiad i’r rheoliadau gan alluogi awdurdodau lleol i ddechrau’r broses o gynllunio sut i ailagor eu llyfrgelloedd yn ddiogel ym mis Mai. Dechreuodd y dull gweithredu fesul cam drwy gynnig gwasanaeth benthyciadau ‘clicio a chasglu’. Er mwyn cefnogi’r costau ychwanegol a gronnwyd […]

Darllen Mwy

Hydref 13, 2020

Troi Dalen Newydd i Gefnogi Iechyd Meddwl Plant

Mae cynllun newydd yn cael ei lansio yng Nghymru i helpu plant i ddeall a rheoli eu hiechyd meddwl a’u lles drwy ddarllen. Mae’r rhaglen, sydd wedi cael ei datblygu a’i harwain gan weithwyr iechyd proffesiynol yn ogystal â phlant a’u teuluoedd, yn cael ei chyflwyno yng Nghymru gan yr elusen Asiantaeth Ddarllen mewn partneriaeth […]

Darllen Mwy
Archived News
Cookie Settings